O fewn yr Adran hon ceir amrywiaeth o ddogfennau a gweithgareddau sydd i gyd yn annog y disgybl i weithio'n annibynnol wrth ymchwilio ffynonellau cyd-destunol a gweledol ar ei thema/tasg neu friff. Mae templed gwneud ymchwil gan gynnwys rhestr o wefannau diddorol ar gyfer gwneud gwaith ymchwil. Bwriad y templedi traethawd a thaflennu gwaith yw arwain y disgybl i ddilyn strwythur clir wrth ddadansoddi gwaith celf er mwyn cyflwyno ymatebion dilynol sy'n graff ac yn effeithiol. Y bwriad yw cael disgyblion i greu ymatebion gwerthfawr a phwysig sydd yn sicr o gyfoethogi ei gwaith ymarferol yn y pendraw.