ETIFEDDIAETH |

Gweithgaredd 2: Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun?

Cyfarwyddiadau

Edrychwch yn ofalus ar y llun. Ydych chi'n gallu dweud am ba ran o'r gerdd y mae'n sôn? Os nad ydych yn sicr, pwyswch 'Cliw'. Os oes angen cymorth pellach arnoch, pwyswch 'Dangos y gerdd'. Cliciwch ar y dyfyniad yn y gerdd. Wedi ateb yn gywir gallwch symud i'r llun nesaf.

Etifeddiaeth

Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Troesom ein tir yn simneiau tân
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.

Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i’w hanes,
gwymon o ddynion heb ddal
tro’r trai.

A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl
a’i hedd yw ei hangau hi.

Gerallt Lloyd Owen

Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun? Pa ddyfyniad sy’n perthyn i’r llun?
Cliw?
Cawsom … i’w chadw
A chawsom … hi
a’i grym … mynyddoedd
a phlannu coed … llyn
gwymon … trai