ETIFEDDIAETH |

Gweithgaredd 4: Nodweddion arddull ac effaith y nodweddion

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar ran o’r gerdd sydd wedi'i lliwio. Cliciwch ar y rhestr sy’n ymddangos i ddewis pa nodwedd arddull sydd yn y llinell dan sylw. Os oes angen cliw arnoch, cliciwch ar y botwm ‘Cliw?’ o dan y rhestr. Pan fyddwch wedi ateb yn gywir, ystyriwch yr ail gwestiwn sy’n ymddangos.

Etifeddiaeth

Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Troesom ein tir yn simneiau tân
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i’w hanes,
gwymon o ddynion heb ddal
tro’r trai.

A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl
a’i hedd yw ei hangau hi.

Gerallt Lloyd Owen


. Pa nodwedd arddull sydd yma?
Allwch chi feddwl pam mae’n effeithiol?
Cliw?
Sut byddwch chi'n teimlo pan fyddwch chi wedi cael rhywbeth? Mae’r ailadrodd yma’n awgrymu ein bod wedi cael llawer. Pa mor werthfawr yw’r pethau hyn rydym ni wedi eu cael?
Ai rhestr o bethau cadarnhaol sydd yma? Neu a ydy hon yn rhestr o bethau nad yw'r bardd yn eu hoffi? Ceisiwch feddwl am fanteision ac anfanteision y pethau hyn.
Pa fath o blanhigyn yw gwymon? Pam na ddylai pobl fod yn debyg iddo? Beth mae tro’r trai yn ei gynrychioli i chi?
Pam rydych chi’n meddwl bod gan rai pobl gywilydd o’r Gymraeg?