ETIFEDDIAETH |

Gweithgaredd 6: Beth yw mesur y gerdd?

Cyfarwyddiadau

Cliciwch ar y tabiau i ddysgu am y gwahanol fesurau. Edrychwch yn ofalus ar y gerdd. Dewiswch pa fesur y mae’r gerdd yn ei ddefnyddio drwy glicio yn y cylch oren. Cliciwch ar y botwm 'Gwirio' i weld a oeddech ydych yn gywir.

  • Mae patrwm arbennig i’r gerdd.
  • Mae’r llinellau’n odli fesul cwpled, neu mae llinell 2 a 4 o bob pennill yn odli.
  • Mae’r penillion yn dilyn yr un mydr neu’r un rhythm â’i gilydd.
  • Nid oes cynghanedd fel arfer mewn cerdd mewn mydr ac odl.
  • Pennill o dair llinell yw englyn milwr.
  • Mae diwedd pob llinell o fewn pob pennill yn odli, ond gall yr odl fod yn acennog neu’n ddiacen.
  • Mae saith sillaf ym mhob llinell.
  • Mae cynghanedd yn llinell 1 a 3, ac mae’r darn ar ôl y gwant yn cynganeddu â dechrau’r ail linell.
  • Mae englyn penfyr yn union yr un peth ag englyn arferol, sef pennill pedair llinell, ond heb y llinell olaf.
  • Mae toriad byr (gwant) tua dwy ran o dair y ffordd i mewn i’r llinell gyntaf.
  • Mae’r gair cyn y gwant yn odli â llinell 2 a 3. Mae cynghanedd ym mhob llinell.
  • Mae 14 llinell mewn soned.
  • Mae’n dilyn y patrwm odli: a,b,a,b   c,ch,c,ch  d,dd,d,dd   e,e.
  • Mae deg sillaf ym mhob llinell.
  • Mae newid cyfeiriad yn arferol rhwng yr wyth llinell gyntaf (yr wythawd) a’r chwe llinell olaf (y chwechawd).
  • Nid oes trefn arbennig i’r odli nac i nifer y sillafau.
  • Mae mydr neu rythm o fewn y gwahanol linellau, ond nid oes patrwm amlwg yma.
  • Mae cynghanedd ym mhob llinell.

Etifeddiaeth

Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Troesom ein tir yn simneiau tân
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i’w hanes,
gwymon o ddynion heb ddal
tro’r trai.
A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl
a’i hedd yw ei hangau hi.

Gerallt Lloyd Owen