gyda hwn mae’r cyhyr yn byrhau. Mae tarddle a mewnosodiad y cyhyr yn symud yn agosach at ei gilydd ac mae’r cyhyr yn mynd yn fwy tew.
Mae’r system hon yn ymwneud yn bennaf â chynhyrchu symud drwy gyfangu. Mae’r adran hon yn archwilio’r mathau gwahanol o gyhyrau yn ein corff a sut maent yn ymwneud â gweithgareddau ym myd chwaraeon.
Mae tri math o gyhyr yn y corff:
Dydy cyhyrau anrheoledig ddim dan ein rheolaeth ymwybodol sy’n golygu na allwn ni wneud iddyn nhw gyfangu pan fyddwn ni’n meddwl am hynny.
Mae cyhyrau rheoledig dan ein rheolaeth ymwybodol ac felly gallwn ni symud y cyhyrau hyn pan fyddwn ni eisiau.
Mae dau fath gwahanol o ffibrau cyhyrol:
Mae gan bob math o ffibrau cyhyrol nodweddion gwahanol sydd i’w gweld yn y tabl:
Math I | Math II | |
---|---|---|
Cyflymder cyfangu | Araf | Cyflym |
Grym sy’n cael ei gynhyrchu | Isel | Canolig/uchel |
Gwrthiant i ludded | Uchel | Canolig/isel |
Lliw | Coch | Gwyn |
System egni | Aerobig | Anaerobig |
Mae angen canran uchel o ffibrau math I ar feicwyr fel bod eu cyhyrau’n gallu gweithio am y ras gyfan heb flino. Mae’r cyhyrau hyn yn goch oherwydd y nifer o gapilarïau sy’n cludo’r gwaed ocsigenedig i’r cyhyrau sy’n gweithio.
Mae angen i sbrintwyr fod â chanran uchel o ffibrau math II sy’n caniatáu i’w cyhyrau gyfangu’n gyflym iawn. Mae cyfangiadau cyhyrol cyflym yn rhoi pŵer i redwyr ac yn eu galluogi nhw i gynnal cyflymder uchel dros bellter o 100m. Fodd bynnag, mae’r math hwn o gyhyr yn blino’n fuan iawn, sy’n golygu nad yw sbrintwyr yn gallu rhedeg ar y cyflymder hwn am gyfnod hir iawn.
Esboniwch pa fath o ffibrau cyhyrol sydd ei angen ar redwyr pellter hir er mwyn bod yn llwyddiannus yn eu cystadleuaeth.
Mae prif gyhyrau’r corff dynol yn cael eu dangos yma:
Mae cyhyrau’n achosi symud drwy gyfangu ar draws cymalau. Mae cyhyrau wedi’u cysylltu â’r sgerbwd gan dendonau mewn dau le:
Y tarddle yw pen y cyhyr sydd wedi’i gysylltu ag asgwrn sefydlog. Y mewnosodiad yw pen arall y cyhyr sydd wedi’i gysylltu â’r asgwrn sy’n symud.
Mae cyhyrau’n cyfangu mewn ffyrdd gwahanol i gynhyrchu amrywiaeth o symudiadau:
gyda hwn mae’r cyhyr yn byrhau. Mae tarddle a mewnosodiad y cyhyr yn symud yn agosach at ei gilydd ac mae’r cyhyr yn mynd yn fwy tew.
gyda hwn mae’r cyhyr yn ymestyn wrth fod dan dyndra. Mae’r tarddle a’r mewnosodiad yn symud yn bellach i ffwrdd o’i gilydd. Mae cyfangiad ecsentrig yn darparu’r rheolaeth ar symudiad yn y cam tuag i lawr ac mae’n gweithio i wrthsefyll grym disgyrchiant.
gyda hwn mae’r cyhyr yn cynhyrchu tyndra ac yn rheoli cyflymder y cyfangiad cyhyrol. Gall y symudiad hwn fod yn gyfangiad cyhyrol consentrig neu ecsentrig.
Mae cyhyrau wedi’u cysylltu ag esgyrn gan dendonau. Maen nhw’n symud yr esgyrn a rhannau cysylltiedig o’r corff drwy dynnu arnyn nhw – y term am y broses hon yw cyfangiad cyhyrol.
Gan nad yw cyfangiad cyhyrol yn gallu gwthio asgwrn yn ôl i’w safle gwreiddiol, rhaid i gyhyrau weithio gyda’i gilydd mewn ‘parau o gyhyrau gwrthweithiol’. Mae un cyhyr o’r pâr yn cyfangu i symud y rhan o’r corff, yna mae’r cyhyr arall yn y pâr yn cyfangu i ddychwelyd y rhan o’r corff i’r safle gwreiddiol.
Yn achos pâr o gyhyrau gwrthweithiol, wrth i un cyhyr gyfangu, mae’r cyhyr arall yn llaesu. Y cyhyr sy’n cyfangu yw’r tynhäwr a’r cyhyr sy’n llaesu yw’r gwrthweithydd.
Er enghraifft, pan fyddwch chi’n cyflawni cyrliad cyhyryn deuben, y cyhyryn deuben fydd y tynhäwr gan ei fod yn cyfangu i gynhyrchu’r symudiad, a’r cyhyryn triphen fydd y gwrthweithydd gan ei fod yn llaesu i ganiatáu i’r symudiad ddigwydd.
TMae’r grwpiau canlynol o gyhyrau yn barau gwrthweithiol:
Cyhyryn deuben | Cyhyryn triphen |
Llinynnau’r garrau | Cwadriceps |
Cyhyrau ffolen | Plygyddion clun |
Croth y goes | Tibialis blaen |
Pectoralau | Latissimus dorsi |
Disgrifiwch sut mae parau o gyhyrau gwrthweithiol yn gweithio yn y penelin yn ystod cam tuag i lawr a cham tuag i fyny byrfraich.
Pan fydd person yn cymryd rhan mewn ymarferion gwrthiant fel codi pwysau, mae’r feinwe gyhyrol yn cael ei rhoi dan straen. Mae hyn yn achosi micro rwygau yn y ffibrau cyhyrol. Mae’r corff yn ymateb drwy atgyweirio’r ffibrau cyhyrol a’u gwneud nhw’n fwy.
Pan fydd cyhyr yn mynd yn fwy, y term am y broses yw hypertroffedd.
Y sgerbwd yw adeiledd canolog y corff ac mae’n cynnwys esgyrn, cymalau a chartilag. Mae’r sgerbwd yn darparu’r fframwaith ar gyfer cyhyrau ac mae’n rhoi i’r corff ei siâp dynol diffiniedig.
Mae prif esgyrn y sgerbwd a’u lleoliad yn cael eu dangos yma:
Mae pum prif swyddogaeth gan y sgerbwd:
Mae’r cymalau hyn yn caniatáu nifer fawr o symud ac yn achos pob un ohonyn nhw mae adeiledd y cymal yn debyg.
Mae mathau gwahanol o gymalau synofaidd yn caniatáu graddau gwahanol o symud, maen nhw’n cynnwys:
Pa fath o gymal sy’n caniatáu’r maint mwyaf o symud?
Mae termau penodol yn cael eu defnyddio am y mathau gwahanol o symud sy’n cael eu caniatáu ym mhob cymal.
Plygu – plygu cymal. Mae hyn yn digwydd pan fydd ongl cymal yn lleihau. Er enghraifft, mae’r penelin yn plygu wrth wneud cyrliad cyhyryn deuben.
Estyn – sythu cymal. Mae hyn yn digwydd pan fydd ongl cymal yn cynyddu, er enghraifft, wrth daflu siot.
Alldynnu – symud i ffwrdd o linell ganol y corff. Mae hyn yn digwydd yng nghymalau’r glun a’r ysgwydd yn ystod symudiad jac sbonc.
Atynnu – symud tuag at linell ganol y corff. Mae hyn yn digwydd yng nghymalau’r glun a’r ysgwydd, yn dychwelyd y breichiau a’r coesau i’w safle gwreiddiol o symudiad jac sbonc.
Amdynnu – yma mae’r aelod yn symud mewn cylch. Mae hyn yn digwydd yng nghymal yr ysgwydd yn ystod serfiad tenis dros ysgwydd..
Cylchdroi – yma mae’r aelod yn symud mewn symudiad cylchol o amgylch cymal sefydlog, tuag at neu i ffwrdd o linell ganol y corff. Mae hyn yn digwydd yng nghymal y glun mewn golff, tra’n cyflawni dreif.
MATH O GYMAL | LLEOLIAD YN Y CORFF | MATHAU O SYMUD |
---|---|---|
Pelen a chrau | Clun, ysgwydd | Plygu/estyn, cylchdroi, alldynnu, atynnu, amdynnu |
Colfach | Pen-glin, penelin | Plygu/estyn |
Colynnog | Gwddf | Cylchdroi |
Mae’r system gyhyrol yn gweithio ar y cyd â’r sgerbwd i gynhyrchu symudiad yr aelodau a’r corff.
Gewynnau a thendonau yw’r ddau brif fath o feinwe gyswllt sy’n helpu’r system gyhyrol-sgerbydol i gynhyrchu symudiadau.
Mae’r cyhyrau’n cyfangu i dynnu ar yr esgyrn i gynhyrchu symudiadau. Mae cymalau’n gallu symud i amrywiaeth o gyfeiriadau i’n galluogi ni i gyflawni amrywiaeth o symudiadau ym myd chwaraeon.
Mae dadansoddiad o ergyd bêl-rwyd yn dangos sut mae’r system gyhyrol-sgerbydol yn gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r tafliad hwn.
Cymal | Math o symud | Esgyrn | Cyhyrau | Cyfangiad cyhyrol | |
---|---|---|---|---|---|
Cam 1 | Penelin | Plygu | Hwmerws, Radiws, Wlna | Cythyryn deuben, Cyhyryn triphen | Consentrig |
Cam 2 | Penelin | Estyn | Hwmerws, Radiws, Wlna | Cyhyryn triphen, Cyhyryn deuben | Consentrig |
Cwblhewch y tabl i ddadansoddi trosiad mewn rygbi.
Cymal | Math o symud | Esgyrn | Cyhyrau | Cyfangiad cyhyrol | |
---|---|---|---|---|---|
Cam 1 | Pen-glin | ||||
Cam 2 | Pen-glin |
Mae’r system gardiofasgwlaidd yn cynnwys tair prif ran, sef y galon, y pibellau gwaed a’r gwaed sy’n llifo drwyddyn nhw.
Os gwnewch chi gau eich llaw i ffurfio dwrn, mae hynny tua’r un maint â’ch calon. Mae wedi’i lleoli yng nghanol y frest, ychydig i’r chwith.
Mae’r galon yn bwmp cyhyrol mawr ac mae wedi’i rhannu’n ddau hanner – yr ochr dde a’r ochr chwith.
Mae ochr dde’r galon yn gyfrifol am bwmpio gwaed di-ocsigenedig i’r ysgyfaint.
Mae’r ochr chwith yn pwmpio gwaed ocsigenedig o gwmpas y corff.
Mae dwy ochr y galon yn cynnwys atriwm a fentrigl sy’n ddwy siambr gysylltiedig.
Yr atria (lluosog atriwm) yw lle mae’r gwaed yn casglu pan fydd yn mynd i mewn i’r galon.
Mae’r fentriglau’n pwmpio’r gwaed allan o’r galon, i’r ysgyfaint neu o gwmpas y corff.
Mae’r gwahanfur yn gwahanu ochr dde ac ochr chwith y galon.
Mae’r falf deirlen wedi’i lleoli rhwng yr atriwm dde a’r fentrigl dde i atal y gwaed rhag llifo’n ôl o’r fentrigl i’r atriwm.
Mae’r falf ddwylen wedi’i lleoli rhwng yr atriwm chwith a’r fentrigl chwith i atal y gwaed rhag llifo’n ôl o’r fentrigl i’r atriwm.
Mae pedair prif bibell waed sy’n mynd â gwaed i mewn i’r galon ac allan ohoni.
Yr aorta sy’n mynd â gwaed o’r fentrigl chwith i’r corff.
Y fena cafa sy’n mynd â gwaed o’r corff yn ôl i’r galon.
Y rhydweli ysgyfeiniol sy’n mynd â gwaed o’r fentrigl de i’r ysgyfaint.
Y wythïen ysgyfeiniol sy’n dychwelyd gwaed ocsigenedig o’r ysgyfaint i’r atriwm chwith.
Y brif rydweli yw’r aorta.
Y brif wythïen yw’r fena cafa.
Mae gan y system gardiofasgwlaidd dair prif swyddogaeth:
Pan fydd gwaed yn cael ei bwmpio allan o’r galon, bydd y pibellau gwaed yn agor (fasoymledu) i alluogi’r maint mawr o waed i adael y galon. Er mwyn i’r gwaed gyrraedd y cyhyrau sy’n gweithio, mae rhai o’r pibellau gwaed yn cau (fasogyfyngu) . Mae’r broses hon hefyd yn helpu i ddychwelyd y gwaed i’r galon (dychweliad gwythiennol) ac i waredu’r isgynhyrchion di-werth.
Yn y gwres, mae pibellau gwaed sy’n agos at arwyneb y croen yn mynd yn fwy. Y term am y broses hon yw fasoymledu. Mae hyn yn galluogi colli mwy o wres o’r gwaed.
Pan fydd person yn cymryd rhan mewn ymarfer, gall yr wyneb fynd yn lliw pinc o ganlyniad i fasoymlediad y pibellau gwaed sy’n agos at arwyneb y croen.
Yn yr oerfel, mae pibellau gwaed ger arwyneb y croen yn cau. Y term am y broses hon yw fasogyfyngu ac mae’n cymryd gwaed i ffwrdd o arwyneb y croen i helpu i’w atal rhag colli gwres.
Allbwn cardiaidd (Q) yw’r maint o waed sy’n cael ei bwmpio o’r galon bob munud ac mae’n lluoswm cyfradd curiad y galon (HR) a’r cyfaint strôc (SV).
Cyfradd curiad y galon (HR) yw’r nifer o weithiau mae eich calon yn curo mewn un munud. Y nifer cyfartalog o guriadau yw 72 curiad/munud.
Cyfaint strôc (SV) yw’r maint o waed sy’n cael ei bwmpio allan o’r galon gyda phob curiad. Y maint cyfartalog o waed/curiad yw 0.7 litr.
Allbwn cardiaidd = Cyfaint strôc x Cyfradd curiad y galon |
---|
Q = SV x HR |
4.9 litr/munud = 0.07 litr x 70 curiad/munud |
Po fwyaf ffit ydych chi, mwyaf i gyd yw eich cyfaint strôc ac isaf i gyd yw cyfradd curiad eich calon, ac felly mae eich allbwn cardiaidd yn aros yr un peth.
Yn ystod ymarfer, mae’r cyfaint cyfnewid yn cynyddu wrth i ddyfnder yr anadlu a chyfradd yr anadlu fynd yn fwy. Effaith hyn yw cymryd mwy o ocsigen i mewn i’r corff a gwaredu mwy o garbon deuocsid
Mesur | Wrth orffwys | Ymarfer cymedrol |
---|---|---|
Cyfradd curiad y galon | 72 curiad/munud | 120 curiad/munud |
Cyfaint strôc | 0.07 litr | 0.2 litr |
Allbwn cardiaidd | 5.04 litr/munud | 24 litr/munud |
Pan fydd y galon yn cyfangu, bydd yn gwthio gwaed i mewn i’r pibellau gwaed, gan greu pwysedd gwaed.
Mae darlleniad pwysedd gwaed yn cynnwys dau werth:
Systolig yw pan fydd y galon yn cyfangu a diastolig y pan fydd y galon yn llaesu.
Y pwysedd gwaed cyfartalog ar gyfer oedolyn yw 120/80 mmHg. Y rhif cyntaf yw’r gwerth systolig a’r ail rif yw’r gwerth diastolig.
Mae’r pwysedd gwaed yn cael ei benderfynu gan Q (allbwn cardiaidd) a’r gwrthiant i lif y gwaed (R). Mae gwrthiant i lif y gwaed yn cael ei achosi gan ddiamedr y pibellau gwaed a thrwch y gwaed.
Mae unrhyw newidiadau i gyfradd curiad y galon, y cyfaint strôc a’r allbwn cardiaidd yn cael eu penderfynu gan ddwysedd a hyd ymarfer.
Mae cyfradd curiad y galon yn cael ei mesur mewn curiadau y munud (cym). Yn ystod ymarfer mae cyfradd curiad y galon yn cynyddu fel bod digon o waed yn cael ei gymryd i’r cyhyrau sy’n gweithio i roi digon o faetholion ac ocsigen iddyn nhw. Mae cynnydd yng nghyfradd curiad y galon hefyd yn galluogi gwaredu isgynhyrchion di-werth.
Mae modd cyfrifo cyfradd curiad uchaf y galon drwy’r hafaliad canlynol:
Cyfradd curiad uchaf y galon = 220 – oed |
---|
Beth yw cyfradd curiad uchaf calon person 16 oed?
Mae’r cyfaint strôc yn cynyddu sy’n golygu bod mwy o waed yn cael ei bwmpio allan o’r galon bob tro mae’n cyfangu.
Wrth orffwys, mae allbwn cardiaidd person tua 5 litr y munud. Yn ystod ymarfer, mae hyn yn gallu cynyddu i gymaint â 30 litr y munud wrth i gyfradd curiad y galon a’r cyfaint strôc gynyddu.
Cyfrifwch allbwn cardiaidd person sydd wrth orffwys â chyfradd curiad y galon o 70 cym a chyfaint strôc o 70 ml.
Cymharwch hyn ag allbwn cardiaidd y person pan fydd yn cymryd rhan mewn ymarfer wrth i gyfradd curiad y galon gynyddu i 120 cym.
Pan fydd mabolgampwr yn cymryd rhan mewn ymarfer, bydd yr allbwn cardiaidd yn fwy oherwydd bydd angen cludo mwy o waed ac ocsigen i’r cyhyrau sy’n gweithio. Bydd y cynnydd yn y maint o waed hefyd yn helpu gyda gwaredu isgynhyrchion di-werth fel asid lactig a charbon deuocsid.
Wrth i ymarfer gynyddu, bydd yr allbwn cardiaidd (Q) yn cynyddu hefyd. Mae hyn yn cael yr effaith o gynyddu’r pwysedd gwaed.
Darlleniad pwysedd gwaed nodweddiadol ar gyfer perosn ar ddechrau ymarfer fyddai tua 160/85 mmHg.
Prif swyddogaeth y system resbiradol yw i gludo ocsigen o’r aer rydyn ni’n ei anadlu drwy system o diwbiau i mewn i’r ysgyfaint ac yna i mewn i lif y gwaed.
Mae cyfnewid nwyon yn digwydd yn yr alfeoli yn yr ysgyfaint ac mae’n digwydd drwy dryledu.
Tryledu yw symud nwy o ardal o grynodiad uchel i ardal o grynodiad isel.
Yn yr alfeoli, mae crynodiad uchel o ocsigen ac yn llif y gwaed, mae crynodiad uchel o garbon deuocsid.
Mae ocsigen yn tryledu i mewn i’r gwaed o’r alfeoli ac mae carbon deuocsid yn tryledu i mewn i’r alfeoli o’r gwaed.
Yn y cyhyr, mae’r gwrthwyneb yn digwydd ac mae carbon deuocsid yn mynd i mewn i’r gwaed o’r cyhyr ac mae ocsigen yn mynd i mewn i’r cyhyr.
Mae capilarïau o amgylch yr alfeoli yn yr ysgyfaint. Mae muriau’r capilarïau a’r alfeoli yn denau iawn – trwch un gell yn unig. Maen nhw wedi’u gwneud o bilenni lledathraidd sy’n gadael i ocsigen a charbon deuocsid fynd trwyddyn nhw.
Disgrifiwch y broses o gyfnewid nwyon yn y cyhyrau.
Cyfaint anadlol yw’r maint mwyaf o aer sy’n gallu cael ei allanadlu ar ôl mewnanadlu cymaint o aer â phosibl. Mae wedi’i ddangos bod cymryd rhan mewn ymarfer aerobig rheolaidd yn cynyddu cyfaint anadlol person.
Cyfradd (amlder) anadlu yw nifer yr anadliadau mewn munud. Y gyfradd anadlu gyfartalog yw 12 anadliad/munud.
Cyfaint cyfnewid yw faint o aer sy’n cael ei fewnanadlu â phob anadliad normal. Y cyfaint cyfnewid normal yw 0.5 litr (500 ml).
Anadlu y munud (VE) yw cyfaint cyfan yr aer sy’n mynd i mewn i’r ysgyfaint mewn munud. Anadlu cyfartalog y munud yw 6 litr/munud.
Anadlu y munud = Cyfradd anadlu x Cyfaint cyfnewid |
---|
VE = BR x TV |
6 litr/munud = 12 x 0.5 |
Yn ystod ymarfer, mae’r cyfaint cyfnewid yn cynyddu gan fod dyfnder anadlu yn cynyddu ac mae cyfradd anadlu yn cynyddu hefyd. Mae hyn yn cael yr effaith o gymryd mwy o ocsigen i mewn i’r corff a gwaredu mwy o garbon deuocsid.
Mesur | Wrth orffwys | Ymarfer cymedrol |
---|---|---|
Cyfradd anadlu | 12 anadliad/munud | 30 anadliad/munud |
Cyfaint cyfnewid | 0.5 litr | 3 litr |
Anadlu y munud | 6 litr/munud | 90 litr/munud |
Mae’r system gardioresbiradol yn gweithio gyda’i gilydd i fynd ag ocsigen i’r cyhyrau sy’n gweithio a gwaredu carbon deuocsid.
Yn ystod ymarfer, mae angen mwy o ocsigen ar y cyhyrau er mwyn cyfangu ac maen nhw’n cynhyrchu mwy o garbon deuocsid fel isgynnyrch di-werth. I gwrdd â’r galw uwch hwn gan y cyhyrau, mae’r canlynol yn digwydd:
Mae dyfnder anadlu (cyfaint cyfnewid) a chyfradd anadlu yn cynyddu – mae hyn yn mynd â mwy o ocsigen i mewn i’r ysgyfaint ac yn gwaredu mwy o garbon deuocsid allan o’r ysgyfaint.
Mae graff yn dangos bod y cyfaint cyfnewid yn cynyddu wrth i berson fynd o orffwys i ymarfer.
Mae cyfradd curiad y galon yn cynyddu – mae hyn yn cynyddu cyflymder cludo ocsigen o’r gwaed i’r cyhyrau sy’n gweithio a chludo carbon deuocsid o’r cyhyrau sy’n gweithio i’r ysgyfaint.
Mae’r graff hwn yn dangos y canlynol:
Y mater a yw’r corff yn defnyddio ocsigen neu beidio er mwyn cyflawni ymarferion penodol sy’n penderfynu a yw’r ymarfer yn aerobig (gydag ocsigen) neu’n anaerobig (heb ocsigen).
Mae’r system resbiradol anaerobig yn cyflenwi egni yn gyflym iawn ar gyfer campau fel llofneidio mewn gymnasteg neu daflu gwaywffon lle mae’r gweithgaredd yn para am ychydig eiliadau yn unig.
Mae dau fath o systemau egni anaerobig, sef:
Mae’r system anaerobig creatin ffosffad (CP) yn cyflenwi egni yn gyflymach na phob system egni arall.
Mae’n cael ei defnyddio ar gyfer cyfangiadau dwysedd uchel, ffrwydrol, fel mewn sbrintio 100 metr, ond mae’n gallu cyflenwi egni am tua deg eiliad yn unig.
CP → egni + creatin |
---|
Ar ôl i’r system CP ddod i ben, mae’r system asid lactig yn cael ei defnyddio i gyflenwi egni.
Mae’r system hon yn torri glwcos i lawr yn asid lactig. Mae’n cynhyrchu egni yn gyflym iawn, ond nid mor gyflym â’r system CP.
Glwcos → egni + asid lactig |
---|
Y system egni asid lactig sy’n cynhyrchu’r mwyafrif o’r egni ar gyfer gweithgareddau dwysedd canolig i uchel fel rhedeg 400 metr.
Pa gamp fyddai’n defnyddio’r system egni creatin ffosffad?
Pa gamp fyddai’n defnyddio’r system egni asid lactig?
Diffyg ocsigen a chronni asid lactig sy’n achosi lludded.
Yn achos y ddwy system hon mae angen ocsigen i’w hadfer a’r term am hyn yw dyled ocsigen.
Ar ôl cymryd rhan mewn ymarfer, mae person yn parhau i anadlu’n fwy dwfn ac yn fwy cyflym nag y bydd wrth orffwys er mwyn cymryd ocsigen ychwanegol i mewn i ad-dalu’r ddyled ocsigen hon.
Yna mae’r ocsigen yn cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
Y system resbiradol aerobig sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r mwyafrif o’n hegni tra bod ein cyrff yn gorffwys neu’n cymryd rhan mewn ymarfer dwysedd isel am gyfnodau hir, fel loncian neu feicio pellter hir.
Glwcos + O2 → egni + H2O + CO2 |
---|
Mae carbohydradau a brasterau yn cyflenwi’r egni ar gyfer y system egni aerobig ac yn gallu cyflenwi egni am gyfnodau hir.
Mae ffynonellau bwyd o garbohydradau yn cynnwys reis; bara; tatws; bananas a diodydd egni. Mae ffynonellau bwyd o frasterau yn cynnwys menyn; olewau; caws; llaeth a chnau.
Rhowch enghraifft o weithgaredd athletig sy’n defnyddio y system egni aerobig yn bennaf i ddarparu egni.
Y system resbiradol aerobig sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r mwyafrif o’n hegni tra bod ein cyrff yn gorffwys neu’n cymryd rhan mewn ymarfer dwysedd isel am gyfnodau hir, fel loncian neu feicio pellter hir.
Pan fydd person yn cymryd rhan mewn ymarfer, mae systemau’r corff yn darparu egni ar gyfer y gweithgareddau hyn. Ar ôl cymryd rhan mewn ymarfer yn rheolaidd, mae’r systemau hyn yn addasu i wella perfformiad ymarfer.
Pan fydd person yn cymryd rhan mewn ymarfer mae’r systemau cardiofasgwlaidd, resbiradol, egni a chyhyrol i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gyflenwi egni i’r cyhyrau sy’n gweithio a gwaredu isgynhyrchion di-werth.
Effeithiau tymor byr ymarfer | |
---|---|
System gardiofasgwlaidd | Cynyddu’r cyfaint strôc (SV) Cynyddu cyfradd curiad y galon (HR) Cynyddu’r allbwn cardiaidd (Q) Cynyddu pwysedd gwaed (BP) |
System resbiradol | Cynyddu’r gyfradd anadlu Cynyddu’r cyfaint cyfnewid |
System gardioresbiradol | Cynyddu’r defnydd o ocsigen Cynyddu gwaredu carbon deuocsid |
System egni | Cynyddu cynhyrchu lactad |
System gyhyrol | Cynyddu tymheredd cyhyrau Cynyddu hyblygedd Lludded cyhyrol |
Ar ôl ymarfer, mae angen i’r cyhyrau orffwys, addasu ac ymadfer. Mae risg o anaf os nad yw’r corff yn gorffwys ddigon hir ar ôl ymarfer.
Pam mae llai o siawns o berson yn ysigo cyhyr os yw wedi cyflawni sesiwn gynhesu cyn cymryd rhan mewn ymarfer?
Bydd cymryd rhan mewn ymarfer rheolaidd, tua 3 gwaith yr wythnos am 6 wythnos, yn arwain at addasu systemau’r corff sy’n cael eu hymarfer. Effaith hyn yw cynyddu perfformiad yn y math hwnnw o ymarfer neu gamp.
Effeithiau tymor hir ymarfer | Math o ymarfer | |
---|---|---|
System gardiofasgwlaidd | Hypertroffedd cardiaidd Cynyddu’r cyfaint strôc (SV) Gostwng cyfradd curiad y galon wrth orffwys (HR) Cynyddu’r allbwn cardiaidd mwyaf (Q) Capilareiddio’r ysgyfaint a’r cyhyrau Cynyddu nifer celloedd coch y gwaed |
Aerobig |
System resbiradol | Cynyddu’r cyfaint anadlol Cynyddu nifer yr alfeoli gweithredol Cynyddu cryfder y cyhyrau resbiradol (cyhyrau rhyngasennol mewnol ac allanol a’r llengig) |
Aerobig |
System egni | Cynyddu cynhyrchu egni o’r system egni aerobig Cynyddu goddefedd i asid lactig |
Aerobig Anaerobig |
System gyhyrol | Hypertroffedd cyhyrol Cynyddu cryfder tendonau Cynyddu cryfder gewynnau |
Gwrthiant |
System sgerbydol | Cynyddu dwysedd esgyrn | Gwrthiant |
Mae maint mur cyhyrol y fentrigl chwith yn cynyddu ac felly mae’n gallu pwmpio mwy o waed allan yn ystod pob curiad, sy’n cynyddu’r cyfaint strôc. Wrth i’r cyfaint strôc gynyddu, mae cyfradd curiad y galon wrth orffwys yn gostwng ond mae’r allbwn cardiaidd (Q) yn aros yr un peth gan fod SV × HR = Q.
Capilareiddio yw’r broses lle mae capilarïau newydd yn cael eu ffurfio. Mae capilareiddio yn digwydd yn yr alfeoli yn yr ysgyfaint ac mewn cyhyr sgerbydol. Effaith hyn yw cynyddu’r maint o ocsigen sy’n gallu cael ei drosglwyddo i’r cyhyrau sy’n gweithio yn ogystal â chynyddu’r maint o garbon deuocsid sy’n gallu cael ei waredu.
Rhowch enghraifft o fath o ymarfer fyddai’n cynhyrchu hypertroffedd cardiaidd.
Rhowch enghraifft o fath o ymarfer fyddai’n cynhyrchu hypertroffedd cyhyrol.