Mae liferi yn y corff wedi’u ffurfio o esgyrn, cymalau a chyhyrau.
Mae lifer yn cynnwys:
Lifer dosbarth 1 – mae’r ffwlcrwm yn y canol rhwng yr ymdrech a’r llwyth.
Mae’r math hwn o lifer i’w gael yn y gwddf pan fyddwch yn nodio eich pen i benio pêl-droed. Cyhyrau’r gwddf sy’n darparu’r ymdrech, y gwddf yw’r ffwlcrwm a phwysau’r pen yw’r llwyth.
Lifer dosbarth 2 – mae’r ffwlcrwm ar un pen, mae’r llwyth yn y canol ac mae’r ymdrech ar y pen arall.
Mae’r math hwn o lifer i’w gael yn rhan isaf y goes. Os yw person yn sefyll ar flaenau’r traed, mae pelen y droed yn gweithredu fel y ffwlcrwm, pwysau’r corff yw’r llwyth ac mae’r ymdrech yn dod o gyfangiad y cyhyryn gastrocnemiws.
Lifer dosbarth 3 – yma mae’r ffwlcrwm ar un pen, mae’r ymdrech yn y canol ac mae’r llwyth ar y pen arall.
Yn ystod cyrliad cyhyryn deuben, y ffwlcrwm yw cymal y penelin, mae’r ymdrech yn dod o’r cyhyryn deuben yn cyfangu a’r gwrthiant yw pwysau’r elin ac unrhyw bwysau mae hi’n eu dal.
I gofio trefn y liferi, defnyddiwch drefn y wyddor i’ch helpu chi i gofio pa ran o’r lifer sydd yn y canol. Lifer dosbarth 1 – Ffwlcrwm yn y canol. Lifer dosbarth 2 – Llwyth yn y canol. Lifer dosbarth 3 – Ymdrech yn y canol.
Mae holl symudiadau’r corff yn digwydd mewn gwahanol blanau ac o amgylch gwahanol echelinau:
Mae tri phlân symud:
Mae symudiadau’n baralel i’r plân maen nhw’n digwydd ynddo.
echelin dalcennol – mae hon yn mynd o un ochr i’r llall drwy’r corff, er enghraifft, pan fydd person yn cyflawni trosben.
echelin saethol – mae hon yn mynd o’r blaen i gefn y corff, er enghraifft, pan fydd person yn cyflawni olwyn dro.
echelin fertigol – mae hon yn mynd o’r pen trwodd i waelod y corff, er enghraifft, pan fydd sglefriwr yn cyflawni troelliad.
Mae gwelliannau mewn perfformiad yn gallu cael eu cynyddu drwy ddefnyddio technoleg. Mae’r perfformiwr, yr hyfforddwr a’r swyddogion yn defnyddio technoleg mewn chwaraeon modern.
Mae technoleg sydd wedi’i chymhwyso at weithgaredd corfforol wedi chwarae rhan bwysig mewn ymarfer a chystadlu. Mae hyn i’w weld mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n amrywio o greu cyfleusterau chwaraeon newydd, y cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio, dyfarnu, diogelwch, technoleg dadansoddi ac ymarfer.
Mae effeithiau technoleg chwaraeon i’w gweld o weithgareddau adloniadol lefel isel, er enghraifft helmau beicio, i chwaraeon cystadleuol lefel uchel fel polion ffibr carbon mewn naid bolyn.
Heddiw, mae defnyddiau a dyluniadau newydd wedi gwella cyfarpar chwaraeon – mae’r defnyddiau hyn yn fwy ysgafn, mwy cryf a mwy hyblyg ac maen nhw wedi’u dylunio i wella perfformiad a gwella diogelwch, e.e. gwydr ffibr, alwminiwm, ffibr carbon, Kevlar, Teflon, neilon, titaniwm a pholywrethan.
Mae cyfleusterau’n cael eu gwella’n gyson i alluogi perfformwyr ym myd chwaraeon i berfformio ac ymarfer i’r safon uchaf oll. Er enghraifft, rygbi’n cael ei chwarae ar feysydd 4G.
Mae technoleg hefyd wedi gwella perfformiad ym myd chwaraeon o ran dadansoddi, hyfforddi a dyfarnu, yn ogystal â gwneud chwaraeon yn fwy rhyngweithiol a hygyrch i’w gwyliwr
Mae technoleg yn effeithio ar bron pob agwedd ar chwaraeon, o berfformiad ar y maes ac i ffwrdd o’r maes i wylio a phroffil cyhoeddus. Yn fwy a mwy, mae datblygiadau mewn technoleg yn dylanwadu ar chwaraeon llawr gwlad yn ogystal â chwaraeon elitaidd.
Mae technoleg yn cael ei defnyddio i wella perfformiad mabolgampwyr ym mhob cam – cyn, yn ystod ac ar ôl gweithgareddau. Gall gael ei defnyddio gan dimau cefnogi’r mabolgampwyr, fel hyfforddwyr, pobl feddygol a thechnegwyr, yn ogystal â’r mabolgampwyr eu hunain. Er enghraifft:
Mae llafn rhedeg yn goes brosthetig sy’n trosglwyddo egni sy’n cael ei greu gan y rhedwr i’r trac. Mae’n cynnwys crau wedi’i addasu sy’n ffitio stwmp yr athletwr, cymal pen-glin a llafn rhedeg ffibr carbon. Mae’r llafnau’n atgynhyrchu gweithred pelen y droed yn ystod rhedeg. Mae sbeiciau’n cael eu ffitio arnyn nhw i gynyddu gafael ar y trac.
Mae technoleg yn chwarae rhan bwysig mewn monitro a dadansoddi perfformiad mabolgampwyr, gan nodi eu cryfderau a meysydd i’w gwella, yn ogystal â’u ffitrwydd. Mae technoleg hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer casglu a dadansoddi data sy’n gallu helpu i wella ffitrwydd; gwella sgiliau; atal anafiadau a helpu i ennill gemau drwy fabwysiadau strategaeth wahanol.
Mae hyfforddwyr a pherfformwyr yn defnyddio technoleg dadansoddi perfformiad i ddatblygu a gwella’r strategaethau a’r tactegau mae mabolgampwyr yn eu defnyddio yn ystod perfformiadau timau ac unigolion.
Yn ogystal â chael ei defnyddio i ddadansoddi sgiliau a ffitrwydd mabolgampwyr, mae technoleg yn cael ei defnyddio i werthuso a gwella strategaethau a thactegau perfformwyr, sef y dulliau mae perfformwyr yn eu defnyddio i gynyddu eu gobeithion o ennill i'r eithaf. Maen nhw’n fwyaf amlwg mewn gemau – er enghraifft, cytuno ar bwy sy’n derbyn y bàs gyntaf mewn pêl-rwyd. Maen nhw’n cael eu defnyddio hefyd mewn mathau eraill o berfformiad – er enghraifft, rhedwyr pellter canolig yn penderfynu aros ar y blaen i arwain y ras.
Yn aml mae strategaethau a thactegau yn cael eu trefnu ymlaen llaw a’u hymarfer, yn enwedig mewn gemau tîm. Mae angen hefyd i berfformwyr allu eu haddasu neu eu newid nhw yn ystod perfformiad. Mae hyn yn gofyn am sgiliau da o ran datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Mae arsylwi da ac ymwybyddiaeth dactegol yn bwysig tra’n chwarae a dadansoddi chwarae.
Wedi’i gysylltu ag ailchwarae fideo, mae meddalwedd dadansoddi gemau yn casglu amrywiaeth o ddata sy’n gallu cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd:
Er enghraifft, yn ystod gemau Rygbi’r Chwe Gwlad, mae technoleg yn darparu gwybodaeth am y canlynol:
Mae data dadansoddi perfformiad yn cael eu defnyddio i lunio sesiynau ymarfer chwaraewyr, gan eu helpu nhw i ganolbwyntio ar y strategaethau a’r tactegau mae angen iddyn nhw eu datblygu neu eu gwella i’w helpu nhw i berfformio’n well y tro nesaf
Mae gallu serfio’n effeithiol wrth chwarae tennis yn hollbwysig i ennill gemau. Gyda llawer o serfiau’n 125mya neu fwy, mae technoleg yn hanfodol i helpu chwaraewyr tennis i ddadansoddi eu serfiau nhw eu hunain a serfiau eu gwrthwynebwyr.
Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o dimau’r Uwch Gynghrair yn defnyddio’r offeryn dadansoddi gemau ProZone. Mae hwn yn defnyddio camera uwchben i ffilmio’r chwarae ac mae meddalwedd yn trosglwyddo hyn yn ddata a graffigwaith mae hyfforddwyr yn gallu eu defnyddio i adolygu a chytuno ar dactegau gyda’u tîm. Mae hyn yn galluogi timau i gynllunio ac ymarfer symudiadau penodol ac i wella eu hymwybyddiaeth dactegol a’u penderfynu o fewn gemau.
Mae technoleg yn chwarae rhan allweddol mewn sut mae chwaraeon yn cael eu chwarae a’u gwylio. Yn fwy a mwy, mae’n golygu bod dyfarnwyr, gwylwyr a’r cyfryngau wedi’u rhyng-gysylltu yn ystod perfformiadau.
Mae technoleg yn llunio sut mae dyfarnwyr yn rheoli perfformiad. Er enghraifft:
Dydy gwylio chwaraeon ddim bellach yn golygu eistedd yn oddefol yn y cartref neu yn y stadiwm. Mae technoleg wedi galluogi gwylwyr i fod â rhan fwy gweithredol mewn gweithgareddau. Er enghraifft:
Mewn athletau trac, os yw athletwr yn symud cyn neu o fewn 0.1 eiliad i’r gwn yn cael ei danio, mae wedi camgychwyn. Yna mae’r ras yn cael ei hatal ac mae’r athletwr oedd wedi camgychwyn yn cael ei ddiarddel ar unwaith. Oherwydd bod y dyfarniad hwn mor hollbwysig, mewn gweithgareddau elitaidd mae synwyryddion mudiant yn cael eu rhoi ym mlociau cychwyn yr athletwyr a’u cysylltu â gwn y cychwynnwr gan gyfrifiadur. Cyn 2009, gallai athletwyr gael un camgychwyniad cyn cael eu diarddel. Arweiniodd hyn at drechafwriaeth ac ailgychwyniadau aml. Cafodd y rheol ei newid i fod o fudd i ddyfarnwyr, gwylwyr a darlledwyr ond mae hyn wedi arwain at ddiarddeliadau dadleuol o redwyr sy’n ‘sêr’.
Mae technoleg yn helpu pynditiaid i gefnogi eu sylwebaeth a’u dadansoddi yn ystod ac ar ôl gemau, ac yn helpu perfformwyr i adolygu eu tactegau nhw a thactegau eu gwrthwynebwyr er mwyn gweithio allan beth mae angen iddyn nhw ei wneud i wella a llunio strategaeth.
Er enghraifft, mae ProZone yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi’r rhan fwyaf o gemau pêl-droed yr Uwch Gynghrair ac mae Hawk-Eye yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwneud penderfyniadau gan ddyfarnwyr mewn criced, tennis a phêl-droed.
Gweler hefyd 7.4 Cynllunio strategaethau, ymarferion a thactegau
Mae technoleg yn rhoi manteision i chwaraeon, ond mae hefyd yn rhoi anfanteision. Weithiau mae angen i’r dechnoleg gael ei sefydlu a’i gwella cyn iddi fod yn gwbl effeithiol. Weithiau, dim ond ar ôl amser mae’r problemau’n dod i’r golwg.
Mae’r tabl hwn yn amlygu rhai o fanteision ac anfanteision technoleg mewn chwaraeon:
Manteision | Anfanteision |
I’r mabolgampwyr | |
---|---|
Gwell perfformiad – mae enillion ymylol yn gwneud y gwahaniaeth; mae gwell gofal meddygol yn arwain at lai o anafiadau neu ymadfer o anaf yn gyflymach; mae adborth oddi wrth hyfforddwyr yn fwy canolbwyntiedig, gwrthrychol a defnyddiol; mae gwell cit yn fwy cyffyrddus, mwy effeithlon a mwy diogel; rhan o dîm, nid ar eu pen eu hun | Yn ymyrryd ar breifatrwydd; yn pylu llinellau rhwng amser personol ac amser proffesiynol; argaeledd a chost – yn gwneud chwaraeon a llwyddiant yn neilltuedig i bobl a gwledydd cyfoethog; yn temtio mabolgampwyr a hyfforddwyr i dwyllo neu ddefnyddio ymarferion annheg; yn rhoi’r unig ffocws ar ennill yn hytrach nag ymdrech athletaidd |
I’r dyfarnwyr | |
Yn cefnogi dull tîm fel bod llai o bwysau ar unigolion; mae gwybodaeth yn gallu cael ei rhannu’n hawdd a chyflym a’i storio dros amser; mae penderfyniadau a sgorio yn fwy dibynadwy a chywir; mae mwy o hyder ac ymddiriedaeth yn y swyddogion | Yn arafu’r gêm; ddim ar gael ar bob lefel o gystadlu; ddim yn ymddiried bellach ym mhenderfyniadau pobl; yn tanseilio parch at wybodaeth ac arbenigedd dyfarnwyr; yn tanseilio gonestrwydd, unplygrwydd ac ysbryd chwarae teg |
I’r gwylwyr | |
Yn ymwneud fwy â’r gamp; yn fwy gwybodus am reolau, chwaraewyr ayb.; cael cyswllt uniongyrchol â mabolgampwyr | Yn amharu ar y chwarae; yn lleihau’r awyrgylch mewn gweithgareddau byw; yn lleihau diddordeb mewn gweithgareddau llawr gwlad sydd heb eu cefnogi gan dechnoleg; yn cynyddu costau gwylwyr/darlledwyr; yn galluogi troliau i ymosod ar fabolgampwyr unigol |
I chwaraeon yn gyffredinol | |
Yn cynyddu cyfranogiad; yn hyrwyddo cyfleoedd newydd a chyfleoedd gwahanol; yn cefnogi campau llai cyfoethog i’w hyrwyddo eu hunain; yn arwain at fwy o sylw a derbyniadau; yn ychwanegu glamor; yn gwella diogelwch | Yn amharu ar ddwysedd gweithgaredd corfforol; yn lleihau lles emosiynol sy’n dod o ddianc rhag pwysau/trefnau digidol; yn cynyddu costau i gampau a chyfranogwyr; mae noddwyr â mwy o ddiddordeb mewn technoleg nag mewn chwaraeon neu fabolgampwyr |
I helpu mabolgampwyr i wella, mae angen i hyfforddwyr a pherfformwyr arsylwi a dadansoddi symudiadau mabolgampwyr yn ystod perfformiad. Maen nhw’n defnyddio’r data hyn i fonitro cynnydd a darparu adborth effeithiol.
Dadansoddi symudiadau dynol mewn chwaraeon yw biomecaneg. Mae’n esbonio sut a pham mae’r corff yn symud. Mae yna nifer o ddulliau sy’n cael eu defnyddio i ddadansoddi symud. Un dull sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan hyfforddwyr a gwyddonwyr chwaraeon yw dadansoddi camau symud. Mae tri cham symud:
Gan fod symudiadau ym myd chwaraeon yn gymhleth, yn aml mae pob cam yn cael ei rannu’n is-gamau. Er enghraifft:
Yn ystod pob un o’r camau symud, gall dadansoddi ganolbwyntio ar:
Mae dadansoddiad fideo yn helpu hyfforddwyr a pherfformwyr i nodi cryfderau perfformiad mabolgampwr a meysydd i’w gwella. Yn nodweddiadol, mae meddalwedd dadansoddiad fideo yn cefnogi ailchwarae, arafu lluniau ac enghreifftiau cydamserol – o’ch perfformiadau chi eich hun neu o berfformiadau enghreifftiol. Mae’n helpu i ddarparu adborth cywir. Mae dadansoddiad fideo hefyd yn gallu defnyddio fideo syml neu gamera lluniau llonydd.
Drwy ganolbwyntio ar gamau symud, mae dadansoddiad fideo yn gallu cael ei ddefnyddio i edrych ar sgìl a/neu ffitrwydd y mabolgampwr i ystyried pa agweddau ar sgìl a ffitrwydd i ganolbwyntio arnynt.
Mae dadansoddiad fideo yn gallu cael ei ddefnyddio i greu a chasglu data sy’n helpu i ddadansoddi perfformiadau unigol. Wedi’u cysylltu â meddalwedd gyfrifiadurol, mae’r data hyn yn gallu cael eu cyflwyno mewn amrywiaeth o ffyrdd i nodi meysydd i’w gwella, darparu adborth a monitro cynnydd dros amser.
Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o dimau elitaidd rygbi’r undeb yn defnyddio technoleg i fonitro sgiliau a ffitrwydd chwaraewyr. Er enghraifft, mae clybiau fel Leicester Tigers, Harlequins, Ulster a Connacht yn defnyddio Viper Pod sy’n cael ei osod mewn poced bach tu fewn i'r crys ar gefn chwaraewr. Mae hwn wedi’i gysylltu â monitor cyfradd curiad y galon ac mae’r ddwy elfen yn llwytho gwybodaeth i lawr i orsaf ddocio sy’n gallu cael ei wylio yn ystod ac ar ôl gemau gan yr hyfforddwyr a’r gwyddonwyr chwaraeon. Mae hyfforddwyr yn defnyddio’r wybodaeth i ddylanwadu ar eu penderfyniadau yn ystod y gêm ac mae’r data’n cael eu defnyddio wedyn i lunio rhaglen ymarfer chwaraewyr.
Mae’r dechnoleg yn monitro:
Mae dadansoddi’r data hyn yn helpu i wneud y canlynol: