Gweld – mae cwrlwr yn darlunio ble fydd y maen cwrlo’n stopio
Ar gyfer y mwyafrif o gampau mae nodweddion allweddol sy’n ofynnol i gyflawni perfformiad medrus. Galluoedd wedi’u dysgu yw sgiliau ac mae mabolgampwyr yn eu caffael drwy hyfforddi ac ymarfer. Gall sgìl gael ei ddiffinio fel y gallu i berfformio ar safon uchel yn effeithiol ac yn effeithlon.
Wrth wylio perfformiwr neu berfformiad, mae perfformiad medrus yn gallu cael ei adnabod pan fydd yn dangos y nodweddion canlynol:
Effeithiolrwydd
Effeithlonrwydd
Ymatebol
Dydy sgiliau ddim yn hawdd eu nodi ac felly maen nhw’n cael eu rhoi ar hyd continwwm.
Ystod neu raddfa symudol rhwng dau eithaf yw continwwm. Mae pob pwynt ar gontinwwm ychydig yn fwy neu ychydig yn llai na’r pwyntiau sydd nesaf ato. Gallwch symud i fyny neu i lawr continwwm.
Er enghraifft, mewn Addysg Gorfforol mae disgyblion yn cymryd rhan mewn continwwm gemau ar sail eu hoed:
Mae sgiliau chwaraeon yn cael eu trefnu ar dri continwwm gwahanol, sef:
Mae sgiliau mae’r amgylchedd yn effeithio arnyn nhw yn cael eu galw’n sgiliau agored. Maen nhw i’w cael pan fydd yn rhaid i berfformwyr addasu eu sgiliau yn ôl amgylchedd sy’n newid neu'n un sy'n methu ei ragweld.
Enghreifftiau o ysgogiadau (neu newidynnau) amgylcheddol yw:
Mae angen i berfformwyr gael canfyddiad da o’r ysgogiadau hyn er mwyn addasu eu sgiliau ar gyfer yr amgylchedd.
Mae sgiliau nad yw'r amgylchedd yn effeithio arnyn nhw yn cael eu galw’n sgiliau caeedig. Maen nhw i’w cael mewn sefyllfaoedd cyson neu mewn rhai sydd ddim yn gallu cael eu rhagweld lle mae’r perfformiwr â rheolaeth lwyr ar ei berfformiad e.e. gymnastwr yn perfformio rheolwaith llawr.
Mae sgiliau hefyd yn amrywio rhwng agored a chaeedig. Maen nhw ar y continwwm amgylcheddol rhwng sgiliau agored a sgiliau caeedig.
Mae deifiwr â rheolaeth lwyr
Mae angen i rasiwr cadair olwyn fod yn ymwybodol o raswyr mewn lonydd (lanes) eraill ac addasu i gyflwr y trac
Rhaid i chwaraewr pêl-fasged adweithio i’r bêl, y tîm a’r gwrthwynebwyr – ar yr un pryd
Mae dau fath o ymarfer (practice) sy’n cefnogi datblygu sgiliau agored a sgiliau caeedig:
Mae ymarfer sefydlog (driliau) yn golygu ailadrodd yr ymarfer a gwneud yr un symudiad dro ar ôl tro. Mae’r ymarfer hwn orau gyda sgiliau caeedig; e.e. deifio.
Mae ymarfer amrywiol yn golygu ailadrodd y sgìl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, sydd orau ar gyfer datblygu sgiliau agored; e.e. dal y bêl gyda’r gwrthwynebwyr yn rhoi pwysau arni mewn sefyllfaoedd a safleoedd gwahanol ar y cwrt neu’r maes.
Mae sgiliau’n amrywio yn ôl pa mor anodd maen nhw i’w dysgu a’u cyflawni.
Mae sgiliau sylfaenol (sgiliau syml), fel mae'r enw'n ei awgrymu, yn syml. Dydyn nhw ddim yn cynnwys symudiadau cymhleth. Mae sgiliau sylfaenol yn aml yn generig i lawer o gampau. Mae angen i fabolgampwyr feistroli sgiliau sylfaenol cyn rhoi cynnig ar sgiliau mwy cymhleth. Mae enghreifftiau o sgiliau syml yn cynnwys rhedeg; neidio; taflu; dal a tharo.
Mae sgiliau cymhleth yn fwy anodd. Maen nhw’n cynnwys symudiadau cymhleth sy’n gofyn am lefelau uchel o gydsymud a rheolaeth. Maen nhw fel arfer yn benodol i gamp. Mae enghreifftiau o sgiliau cymhleth yn cynnwys serfio mewn tennis; taflu’r ddisgen mewn athletau a chyflawni llofnaid (vault) mewn gymnasteg.
Mae mabolgampwyr hefyd yn defnyddio sgiliau meddyliol pan fyddan nhw’n perfformio. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau fel dehongli, gwneud asesiadau a gwneud penderfyniadau. Mae sgiliau’n fwy cymhleth pan fyddan nhw’n cynnwys mwy o ddehongli, asesu a gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, mewn criced rhaid i fowliwr asesu pryd a pha mor aml i ddefnyddio gweithred fowlio swing gwrthdro yn ogystal â gallu ei gwneud.
Mae sgiliau hefyd yn amrywio rhwng sylfaenol a chymhleth. Maen nhw ar y continwwm cymhlethdod rhwng sgiliau sylfaenol a sgiliau cymhleth.
Mae rhedeg â’r bêl yn rygbi'r undeb yn sgìl gweddol sylfaenol.
Mae cicio cig gosb neu gic drosi yn fwy cymhleth
Mae gallu sgrymio’n ddiogel ac yn effeithiol yn sgìl cymhleth sy'n gofyn am nifer o asesiadau a phenderfyniadau
Mae sgiliau’n amrywio yn ôl pwy sy’n rheoli cyflymder y symud.
Mae sgiliau hunanreoledig (mewnol) yn cael eu rheoli gan y perfformiwr. Y perfformiwr sy’n penderfynu pryd i weithredu’r sgìl - er enghraifft, wrth daflu’r waywffon mewn athletau, neu wrth lofneidio mewn gymnasteg. Mae’r sgiliau hyn yn dueddol o fod yn agosach at ben caeedig y continwwm amgylcheddol.
Mae sgiliau arallreoledig yn cael eu rheoli gan yr amgylchedd. Maen nhw’n cynnwys gwneud penderfyniadau ac adweithio. Yn y rhan fwyaf o achosion y gwrthwynebydd sy’n rheoli cyflymder y perfformio. Er enghraifft, mewn pêl-droed mae’r cefnwr yn symud tuag at y blaenwr canol, ac mae hyn yn achosi i’r blaenwr benderfynu naill ai saethu neu basio. Felly, mae’r sgiliau hyn yn dueddol o fod yn agosach at ben agored y continwwm amgylcheddol.
Mae sbrintwyr yn ceisio cau pob gwybodaeth amgylcheddol allan pan fyddan nhw’n rhedeg
Mae’r gôl-geidwad yn canolbwyntio ar hediad y bêl ac yn ymateb yn ôl hynny
Mae angen cyfarwyddyd ar berfformwyr i gaffael a gwella sgiliau. Defnyddir cyfarwyddyd gweledol, geiriol, llaw a mecanyddol mewn sefyllfaoedd a chyfnodau gwahanol i gefnogi’r arddulliau dysgu gwahanol sydd gan berfformwyr.
Cyfarwyddyd gweledol yw pan fydd perfformiwr yn gallu gweld y sgìl yn cael ei gyflawni neu ei ymarfer. Er enghraifft:
Mae cyfarwyddyd gweledol yn gallu dangos y sgìl fel symudiad cyfan, wedi’i rannu’n gamau neu wedi’i gymhwyso mewn sefyllfa go iawn.
Mae llawer o hyfforddwyr a pherfformwyr yn defnyddio technoleg i ddarparu cyfarwyddyd gweledol – cyn, yn ystod neu ar ôl ymarfer a pherfformiad.
Mae’r math hwn o gyfarwyddyd yn helpu dysgwyr sydd yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, sydd heb weld na phrofi’r sgìl o’r blaen neu berfformwyr medrus sydd eisiau mireinio elfennau penodol.
Mae British Cycling yn defnyddio technoleg cyfarwyddyd gweledol – meddalwedd Dartfish – i gynorthwyo beicwyr Prydain i wella. Mae’r nodwedd StroMotion yn rhannu sgiliau cymhleth yn gyfres o fomentau llonydd. Mae beicwyr yn gallu recordio ac ailchwarae eu perfformiadau gorau i weld pryd roedd sgiliau’n cael eu cyflawni’n fwyaf effeithiol. Hefyd, mae’r Simulcam yn eu galluogi nhw i droshaenu dau berfformiad er mwyn eu cymharu nhw. Gallan nhw gymharu eu perfformiadau nhw eu hunain neu gymharu eu hunain â’u gwrthwynebwyr.
Cyfarwyddyd geiriol yw pan fydd rhywun yn dweud wrth berfformiwr sut i gyflawni sgìl, beth oedd yn dda yn ystod y perfformiad neu sut i wella y tro nesaf. Er enghraifft:
Mae angen i adborth fod yn adeiladol i helpu’r perfformiwr i wella ei sgiliau. Hefyd mae angen iddo fod yn benodol ac yn gywir fel bod y perfformiwr yn gwybod beth yn union i’w wella a sut. Ar gyfer hyn mae gofyn bod hyfforddwyr a mabolgampwyr yn deall ac yn defnyddio’r un iaith a therminoleg.
Gall cyfarwyddyd geiriol gael ei roi cyn, yn ystod neu ar ôl ymarfer a pherfformiad.
Mae’r math hwn o adborth yn helpu dysgwyr i symud ymlaen drwy’r cyfnodau dysgu ac mae’n benodol yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu a mireinio sgiliau.
Adborth anghynorthwyol | Adborth cynorthwyol |
---|---|
Mae angen i ti basio’r bêl yn well y tro nesaf. | Os wyt ti’n gwneud pàs o’r frest, mae angen i ti agor dy fysedd yn fwy llydan er mwyn cael mwy o bŵer a rheolaeth. |
Cyfarwyddyd llaw yw pan fydd perfformiwr yn cael ei arwain neu ei gynnal yn gorfforol gan yr hyfforddwr. Er enghraifft, mae cyfarwyddyd llaw yn cael ei ddarparu pan fydd hyfforddwr yn arwain braich mabolgampwr i efelychu tafliad gwaywffon neu pan fydd hyfforddwr yn cynnal gymnastwr i wneud tro dros y cefn.
Mae cyfarwyddyd llaw yn cael ei roi yn ystod ymarfer yn hytrach na pherfformiad.
Dylai hyfforddwyr bob amser esbonio i berfformwyr pryd, sut a pham mae angen iddyn nhw roi cyfarwyddyd llaw. Efallai bydd perfformwyr yn dewis peidio â chael cyfarwyddyd llaw os yw’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghysurus.
Mae’r math hwn o gyfarwyddyd yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddysgu sgìl newydd yn y cyfnodau cynnar neu ddiweddarach o ddysgu.
Mae corff llywodraethol pob camp yn darparu canllawiau ynghylch pryd a pha fath o gyfarwyddyd llaw sy’n briodol.
Mae gwylio mabolgampwr elitaidd yn cyflawni sgìl cyn i chi roi cynnig arno yn enghraifft o ba fath o gyfarwyddyd?
Cyfarwyddyd mecanyddol yw pan fydd y perfformiwr yn cael ei arwain gan gyfarpar i gynorthwyo’r dysgwr wrth ymarfer y sgìl. Mae defnyddio cyfarpar wrth ymarfer sgìl newydd yn cynnig diogelwch ac yn caniatáu i’r dysgwr ennill hyder.
Byddai’r hyfforddwr yn defnyddio cyfarwyddyd mecanyddol yn y cyfnod cynnar o ddysgu er mwyn i’r dysgwr ymarfer y sgìl yn ddiogel, a gallu cael ‘teimlad’ o’r symud – er enghraifft, defnyddio fflôt mewn nofio i ddatblygu gweithred y coesau a safle’r corff mewn nofio yn eich blaen.
Yn y cyfnod ymreolaethol o ddysgu, mae cyfarwyddyd mecanyddol yn cael ei ddefnyddio gan yr hyfforddwr i ganiatáu i’r perfformiwr ddatblygu symudiadau cymhleth – er enghraifft, ymarfer trosben blaen dwbl gan ddefnyddio teclyn codi mewn trampolinio.
Mae oed a phrofiad person yn ffactorau sy’n cyfrannu at ddysgu sgìl newydd. Mae’r broses o ddysgu yn dibynnu ar yr unigolyn, a bydd angen i’r hyfforddwr gydweddu’r cyfarwyddyd a’r ymarfer â’r cyfnod dysgu.
Mae’r cyfnodau dysgu yn cael eu gosod ar gontinwwm o ddechreuwr i arbenigwr. Gallan nhw gael eu dosbarthu’n dri chyfnod dysgu.
Mae pob un o’r cyfnodau yn dangos nodweddion gwahanol pan fyddan nhw’n perfformio:
Mae’r perfformiwr yn anghyson ac yn gwneud llawer o gamgymeriadau. Mae angen i’r perfformiwr gael cefnogaeth gan yr hyfforddwr i ddangos a dweud beth mae angen ei wneud. Mae arddangos ac ailadrodd yn allweddol i ddatblygiad yn y cyfnod hwn. Bydd angen i’r hyfforddwr atgyfnerthu perfformiad cywir drwy adborth cadarnhaol. Yr ymarfer mwyaf priodol fyddai’r dull cyfan-rhan-cyfan, gan roi teimlad o’r cyd-destun i’r perfformiwr cyn i’r sgiliau gael eu torri i lawr.
Mae’r perfformiwr yn dechrau deall gofynion y sgiliau ac yn dod yn fwy cyson. O fewn y perfformiad mae llai o gamgymeriadau ac mae’r perfformiwr yn gallu canolbwyntio am gyfnod hirach. Mae gwybodaeth fwy cymhleth yn gallu cael ei phrosesu ac mae’r perfformiwr yn gallu defnyddio adborth mewnol i wella ymhellach. Byddai ymarfer rhannau yn cefnogi’r cyfnod hwn gan ei fod yn cefnogi cymhelliant ac yn canolbwyntio ar sgiliau penodol.
Mae’r perfformiwr yn gyson ac yn effeithiol ac mae’n cyflawni sgiliau â chysondeb a chywirdeb heb unrhyw ymdrech. Mae’n gallu canolbwyntio ar dasgau cymhleth a gwybodaeth gymhleth ac yn gallu addasu’r perfformiad. Mae’n penderfynu ar gyflymder y sgìl a’r gweithgaredd ac mae bron bob amser yn gwneud y penderfyniadau cywir. Gall yr hyfforddwr roi adborth manwl a defnyddio dadansoddiad fideo cymhleth i fireinio perfformiad. Mae cyfan/ rhannau yn dueddol o gael ei ddefnyddio yn y cyfnod hwn gan ei fod yn gofyn am lefel uchel o sylw i sgiliau sydd ddim yn gallu cael eu torri i lawr.
Pan fydd mabolgampwyr yn perfformio neu’n dysgu a datblygu sgiliau newydd, mae’n rhaid iddyn nhw brosesu gwybodaeth. Y model prosesu gwybodaeth yw un dull sy’n gallu cael ei ddefnyddio i ystyried sut mae dysgu’n digwydd. Mae’r model yn cynnwys pedair rhan sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd mewn ‘dolen ddysgu’.
Mewnbwn yw’r wybodaeth sy’n cael ei derbyn oddi wrth y synhwyrau. Yn y cyfnodau gwybyddol (cynnar), bydd hwn yn gorlwytho’r broses benderfynu. Wrth i’r dysgwr ddod yn fwy medrus, bydd yn rhoi sylw detholus i’r ciwiau cywir a’r wybodaeth gywir.
Mae penderfynu yn dehongli’r mewnbwn gan ddefnyddio’r cof tymor byr a thymor hir ac yn penderfynu beth, pryd, ble a sut mae’r dysgwr yn ymateb.
Allbwn yw’r weithred neu’r gweithredoedd sy’n ymateb i’r sefyllfa.
Bydd adborth yn dangos a oedd yr ymateb yn gywir a llwyddiannus neu beidio.
Mae dau fath o adborth:
Adborth cynhenid yw’r hyn sy’n cael ei deimlo gan y perfformiwr yn ystod perfformiad. Er enghraifft, efallai bydd sgïwr yn teimlo nad yw â rheolaeth dda iawn ar y sgïau pan fydd yn gwneud tro a gall deimlo’n anghytbwys.
Mae adborth allanol yn cael ei ddarparu gan ffynonellau allanol yn ystod, neu ar ôl, perfformiad. Mae’n cynnwys yr hyn mae’r perfformiwr yn gallu ei glywed neu ei weld. Er enghraifft, mae chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn yn gallu clywed adborth geiriol gan hyfforddwr; sylwadau gan aelodau eraill o’r tîm; ymateb y gwylwyr a phenderfyniadau’r dyfarnwr. Mae’r chwaraewr yn gallu gweld ble mae’r bêl yn mynd a beth yw’r sgôr.
Mae adborth yn seiliedig ar ddau faes gwybodaeth:
Mae gwybodaeth am y canlyniadau yn canolbwyntio ar ddiwedd y perfformiad – er enghraifft, sgôr, amser neu safle’r perfformiwr. Term arall am hyn yw adborth terfynol.
Mae gwybodaeth am y perfformiad yn canolbwyntio ar ba mor dda y perfformiodd y mabolgampwr, nid y canlyniad terfynol yn unig. Er enghraifft, efallai bod golffiwr wedi pytio’n dda iawn hyd yn oed os oedd y dreifio’n llai effeithiol.
Mae gwylio’r monitor ar y peiriant rhwyfo yn y gampfa yn darparu pa fath o adborth?
Bydd angen i hyfforddwr asesu pa fath o adborth –cynhenid neu allanol – sy’n fwyaf defnyddiol o ran helpu’r perfformiwr i gaffael a gwella ei sgiliau. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar brofiad, gallu ac arddull dysgu’r perfformiwr. Bydd y ffactorau canlynol yn helpu i wneud asesiad:
Manteision adborth cynhenid | Manteision adborth allanol |
---|---|
Helpu perfformwyr i ganolbwyntio ar deimlad sgìl | Darparu cyfarwyddyd newydd neu ychwanegol |
Helpu’r perfformwyr eu hunain i ddatrys problemau | Helpu perfformwyr i nodi problemau |
Helpu perfformwyr i ddatblygu sgiliau yn annibynnol | Cynnig datrysiadau i broblemau |
Rhoi mwy o amser i berfformwyr ymarfer | Atal perfformwyr rhag cyrraedd dim pellach |
Pan fydd perfformiwr yn newydd i gamp, efallai bydd angen mwy o adborth allanol ar y cychwyn. Mae hyn yn ei helpu i gaffael y sgiliau sylfaenol. Fodd bynnag, dylai dechreuwyr hefyd gael amser i ymarfer ar eu pen eu hun fel y gallan nhw ddechrau cael teimlad o’r sgiliau hynny ac amgyffred y sgiliau.
Bydd perfformiwr profiadol, sy’n gyfarwydd â’r gamp, wedi caffael y sgiliau sylfaenol. Gall fod angen mwy o adborth cynhenid i fireinio a meistroli’r sgiliau hynny. Fodd bynnag, bydd angen adborth allanol hefyd ar berfformwyr profiadol i oresgyn problemau parhaus ac i ddatblygu sgiliau mwy cymhleth.
Mae mabolgampwyr llwyddiannus yn gosod nodau i’w helpu nhw i ganolbwyntio sylw a chynnal cymhelliant. Mae gosod nodau yn galluogi tracio cynnydd a defnyddio strategaethau i gyflawni nodau tymor hir a thymor byr.
Mae cael nodau yn helpu pobl o bob gallu sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon. Maen nhw’n ddefnyddiol i berfformwyr gwybyddol ac ymreolaethol, i bobl sy’n cymryd rhan ar gyfer iechyd a lles ac i’r rheini sy’n gystadleuol iawn. Er enghraifft, efallai bydd person llai bywiog yn ymaelodi â champfa oherwydd ei fod eisiau dod yn ffit. Efallai bod nofiwr yn dyheu am gymryd rhan ar lefel gystadleuol elitaidd.
Mae gosod nodau yn rhoi:
Cyfeiriad – cyflawni rhywbeth maen nhw ei wir eisiau
Ymdrech wedi’i chanolbwyntio – rhoi ymdrech i gyflawni’r nod, sy’n darparu cymhelliant
Ymlyniad – dal ati ar y dasg er mwyn cyflawni’r nod
Fel arfer mae nod yn cael ei ystyried yn ganlyniad i ryw ymdrech. Mae angen iddo fod yn gymhellol – rhywbeth mae rhywun wir eisiau ei wneud. Mae’n gallu bod yn syml ac yn dymor byr, er enghraifft, “Dw i eisiau cael hwyl yn y sesiwn hon”. Mae’n gallu ymwneud â gwelliant dros gyfnod hirach, er enghraifft, “Dw i eisiau rhedeg marathon”.
Mae nodau’n werthfawr mewn nifer o ffyrdd:
Ni ddylai nodau ddod yn ddisgwyliadau sy’n rhoi gormod o bwysau ar berson. Gallan nhw a dylen nhw gael eu haddasu.
Sut mae sgorau personol gorau yn helpu athletwyr i osod nodau?
Weithiau, mae nodau pobl yn rhy annelwig neu bell. Mae cyfranogwyr â diffyg ymrwymiad neu’n colli cymhelliant oherwydd bod eu nodau’n ymddangos yn rhy anodd eu cyrraedd. Mae gosod targedau tuag at nod yn gallu gwneud i’r nod hwnnw ymddangos– a bod – yn fwy cyraeddadwy. Mae targedau’n darparu ffocws neu’n gweithredu fel camau tuag at y nod terfynol.
To be effective, targets need to be SMART:
Yn yr enghraifft ganlynol, targed Person A yw bod yn ffit a tharged Person B yw cystadlu yn y Gemau Paralympaidd.
Nod | Person A | Person B |
---|---|---|
S | Bydda’ i’n cynyddu’r maint o ymarfer rwy’n ei wneud. | Bydda’ i’n mynd i ddiwrnod nodi talent nofio Paralympaidd. |
M | Bydda’ i’n gwneud cyfartaledd o 60 munud o weithgaredd dwysedd canolig y dydd. | Bydda’ i’n nofio 50 m dull rhydd mewn llai na munud. |
A | Dw i’n gallu gweld fy hun yn ei wneud /Dw i’n mynd i’w wneud gyda ffrind. | Mae fy amserau’n agos at feini prawf y dewis /mae fy hyfforddwr a minnau’n cytuno. |
R | Dw i’n gallu ei wneud drwy gerdded bob dydd a mynd i’r gampfa ddwywaith yr wythnos /Dw i wedi llunio amserlen. | Dw i’n gallu ei wneud drwy wella fy nhechneg /Dw i wedi ei ysgrifennu yn fy nyddiadur perfformiad. |
T | Bydda’ i’n cyflawni fy nharged erbyn diwedd tymor yr haf hwn. | Bydda’ i’n mynd i’r diwrnod nodi talent flwyddyn nesaf. |
I lwyddo, mae angen i fabolgampwyr baratoi eu meddyliau yn ogystal â’u cyrff. Mae angen iddyn nhw allu rheoli emosiynau; ymarfer yn feddyliol; dychmygu llwyddiant a defnyddio technegau paratoi syml.
Ffactorau seicolegol yw’r ffactorau meddyliol sy’n helpu mabolgampwyr, neu’n eu hatal rhag bod â’r ‘cyflwr meddwl’ iawn i berfformio’n dda.
Mewn chwaraeon, rhaid i fabolgampwr eisiau perfformio a gwella’r perfformiad. Y term am fod yn benderfynol o wneud hyn yw cymhelliant. Mae dwysedd hyn yn cael ei alw’n sbarduno.
Wrth ddynesu at Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, roedd Tîm yr Alban yn canolbwyntio ar helpu athletwyr yr Alban i reoli pwysau ychwanegol perfformio o flaen torf gartref. Roedd y tîm yn sylweddoli y gallai hyn fod yn ffactor cadarnhaol ond y gallai hefyd godi lefelau pryder athletwyr. Gwnaethon nhw ddefnyddio cyfuniad o wyddoniaeth i fesur gweithgaredd yr ymennydd ac arfau ymarferol syml i helpu athletwyr i ymdopi. Gweithiodd hyn! Enillodd yr Alban 53 medal yn ystod y Gemau, o’u cymharu â 26 yng Ngemau 2010 gafodd eu cynnal yn Delhi, India.
Mae delweddaeth (neu ddarlunio delwedd) ac ymarfer meddyliol yn gallu helpu perfformwyr i baratoi’n feddyliol. Maen nhw’n golygu bod perfformwyr yn gallu darlunio pethau yn eu meddwl cyn perfformiad. Er enghraifft, cyn cymryd cic gosb, gallai pêl-droediwr ddarlunio’r bêl yn taro cefn y rhwyd.
Although we talk about picturing an image, the best use of imagery uses all of the senses. This makes the imagery more vivid. For example:
Gweld – mae cwrlwr yn darlunio ble fydd y maen cwrlo’n stopio
Clywed – mae saethwr yn clywed y saeth yn taro’r targed
Cyffwrdd – mae jwdöwr yn teimlo brethyn judogi’r gwrthwynebydd
Arogli – mae nofiwr yn arogli’r clorin yn y pwll
Blasu – mae hwyliwr yn blasu’r halen yn yr aer
Mae delweddaeth ac ymarfer meddyliol yn helpu perfformwyr i wneud y canlynol:
Mae hwn yn gyfuniad o benderfynoldeb a brwdfrydedd y perfformiwr i gyflawni ei nodau a’r ffactorau allanol sy’n effeithio arnyn nhw. Gall cymhelliant fod ar ddwy ffurf – cynhenid ac allanol.
Cymhelliant cynhenid yw’r cymhelliad mewnol i lwyddo, gan fynd i’r afael â’r dasg neu ymlynu wrth y gweithgaredd am hwyl, mwynhad a bodlonrwydd. Enghraifft fyddai mynd i’r gampfa i gadw’n iach.
Mae cymhelliant allanol yn dod o ffynonellau y tu allan i’r perfformiwr ac mae fel arfer yn cynnwys gwobrau – er enghraifft, gwobr ariannol; tlysau; tystysgrifau neu gydnabyddiaeth.