Materion Diwylliannol Gymdeithasol

Pennod 5

CBAC branding

Cyfranogiad mewn chwaraeon

Yn dylanwadu ar gyfranogiad mewn chwaraeon mae ffactorau cymdeithasol fel oed, rhywedd, anabledd, ethnigrwydd a’r grwpiau cymdeithasol (ffrindiau a theulu) mae pobl yn perthyn iddyn nhw.

Cyfranogiad mewn chwaraeon

Mae gan rheiny sy'n cyfranogi mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ddiddordebau ac anghenion gwahanol. Mae sut maen nhw’n dewis cymryd rhan – ym mha gampau ac ar ba lefel – yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hyn.

Mae ffactorau cymdeithasol hefyd yn dylanwadu’n gryf ar unigolion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • oed
  • rhywedd
  • ethnigrwydd
  • anabledd
  • crefydd
  • rhywioldeb
  • statws economaidd
  • teulu a ffrindiau

Mae gan rai ffactorau elfen o ddewis. Er enghraifft, mae unigolion yn gallu dewis eu ffrindiau neu ymgeisio i ennill mwy o arian.

Gall rhai ffactorau newid dros amser. Mae pawb yn mynd yn hŷn neu efallai bydd rhywun nad oedd yn anabl yn datblygu anabledd yn ddiweddarach yn eu bywyd.

Mae rhai ffactorau y tu hwnt i reolaeth unigolyn. Ni all pobl newid eu hethnigrwydd ac ni all plant ddewis eu cefndir teuluol.

Mae rhai ffactorau cymdeithasol yn gysylltiedig â ffactorau ffisiolegol. Er enghraifft:

  • gall mynd yn hŷn effeithio ar hyblygrwydd unigolyn
  • gall anabledd effeithio ar sut bydd rhywun yn cyflawni sgìl
  • mae’r glasoed yn effeithio ar gyrff merched a bechgyn yn wahanol

Mae ffactorau cymdeithasol yn gydgysylltiol. Mae gan bawb oed, rhywedd ac ethnigrwydd. Gall pob un o’r rhain gael dylanwad gwahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Mae’n bwysig peidio â gwneud tybiaethau am unigolion yn seiliedig ar ffactorau cymdeithasol ond mae deall dylanwad ffactorau cymdeithasol ar bobl yn gallu helpu i wella eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Mae dealltwriaeth yn helpu i greu empathi, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cynhwysiad.

Pobl ifanc a chwaraeon

Mae ystadegau am nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y DU yn amrywio gan nad oes ffynhonnell sengl o ddata. Mae darlun cyffredinol yn dangos bod cyfranogiad pobl ifanc yn uchel yn ystod cyfnod cwricwlwm gan fod addysg gorfforol yn orfodol. Mae’n is ar gyfer chwaraeon allgyrsiol, ac mae’n gostwng yn sylweddol y tu hwnt i’r ysgol – yn ystod oriau y tu allan i’r ysgol a phan fydd pobl ifanc yn gadael yr ysgol. Yn gyffredinol, mae cyfranogiad pobl ifanc yn lleihau o 13 oed.

Mae mwy o bobl ifanc yn cael amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd o fewn ysgolion a’u cymuned leol, o ganlyniad i nifer o strategaethau gwahanol y llywodraeth. Mae llwyddiant y rhaglenni hyn yn creu disgwyliadau a gofynion sydd ddim bob amser yn bosibl eu cwrdd.

I gynyddu cyfranogiad a'r pleser mae pobl ifanc yn ei gael mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, mae angen i ddarparwyr gael agwedd hyblyg a gweithio gyda phobl ifanc i ddarganfod y datrysiadau.

Cael pobl ifanc i ymgysylltu â chwaraeon a gweithgaredd corfforol

Mae pobl ifanc sy’n gwneud penderfyniadau yn cael mwy o gymhelliant i ymgysylltu, cael perchenogaeth ar y broses ac felly'n ennill hunan-barch yn ogystal â sgiliau personol, cymdeithasol a threfnu.

Oed; rhywedd; ethnigrwydd a chwaraeon

Oed

Mae mynd yn hŷn yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Fodd bynnag, mae rhai tueddiadau sy’n gysylltiedig ag oed yn gallu effeithio ar gyfranogiad mewn chwaraeon.

  • Mae angen i blant ddatblygu sgiliau motor mawr o oed cynnar er mwyn bod yn symudwyr hyderus.
  • Mae pobl ifanc yn profi hyrddiad twf (growth spurt) sy’n newid eu datblygiad corfforol. Mae hyn yn effeithio ar sut maen nhw’n caffael sgiliau a sut maen nhw’n teimlo, h.y. hyder, hunan-barch a delwedd y corff.
  • Gall menywod brofi amrywiaeth o newidiadau yn ystod diwedd y mislif, fel ennill pwysau, poenau, pryder a diffyg canolbwyntio. Gall hyn effeithio ar eu hunanhyder.
  • Gal pobl hŷn ennill pwysau a bod â llai o hyblygrwydd a chryfder, a gallan nhw ei chael yn fwy anodd ymadfer o anaf. Gallan nhw golli hyder yn eu galluoedd corfforol.

Fel rhan o ffordd iach o fyw, mae gweithgaredd corfforol yn gwella’r profiadau hyn ond efallai bydd angen anogaeth neu gyfleoedd gwahanol ar bobl i’w helpu nhw i gymryd rhan.

Rhywedd

Yn y DU, mae 1.9 miliwn yn llai o fenywod na dynion yn cymryd rhan mewn chwaraeon bob wythnos. Mae gostyngiad sylweddol yng nghyfranogiad merched o 11 oed. Erbyn 14 oed, mae bechgyn ddwywaith mor actif â merched.

Mae gan ferched a menywod unigol eu rhesymau eu hunain dros gymryd rhan neu beidio mewn chwaraeon. Mae ymchwil yn dangos bod rhai ataliadau cyffredin i gyfranogiad. Yn achos llawer o ferched a/neu fenywod:

  • dydy nhw ddim yn gweld Addysg Gorfforol a chwaraeon yn berthnasol yn eu bywydau nhw.
  • maen nhw’n credu bod dewisiadau Addysg Gorfforol a chwaraeon yn yr ysgol yn gyfyngedig
  • dydyn nhw ddim yn hoffi cymryd rhan gyda bechgyn neu ddynion sy’n monopoleiddio’r chwarae neu sy’n chwarae’n ymosodol
  • mae cael hwyl, gwneud ffrindiau a chadw’n ffit yn eu cymell nhw’n fwy na rhagori
  • maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu barnu ac felly yn teimlo cywilydd ynglŷn â’u hedrychiad
  • mae ganddyn nhw lai o amser sbâr oherwydd gofalu am blant a chyfrifoldebau domestig
  • mae diffyg modelau rôl cadarnhaol – yn lleol ac yn genedlaethol
  • maen nhw’n gweld bod chwaraeon menywod fel arfer â statws is ac yn cael llai o sylw yn y cyfryngau

Bydd mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn yn cynorthwyo mwy o ferched a menywod i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol fel rhan o ffordd iach o fyw. Mae hyn yn golygu ymgynghori â merched a menywod i ddarganfod beth sy’n gweithio iddyn nhw.

Ethnigrwydd

Dydy mwy na hanner y bobl mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ddim yn gwneud chwaraeon na gweithgaredd corfforol. Ar gyfartaledd mae cyfradd cyfranogi pob grŵp pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Un o’r prif resymau bod cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig â chyfraddau cyfranogi is yw’r diffyg modelau rôl ymhlith yr ethnig lleiafrifol sy’n ymwneud ag arwain a threfnu chwaraeon. Er enghraifft:

  • dim ond 5% o hyfforddwyr sydd o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
  • dim ond 7% o bobl broffesiynol ym myd chwaraeon (ar wahân i berfformwyr) sydd o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
  • mae pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig 50% yn llai tebygol o fod yn wirfoddolwyr ym myd chwaraeon na’r boblogaeth gyffredinol

Mewn rhai cymunedau, mae ffactorau ethnigrwydd, crefydd a rhywedd yn cyfuno i gael effaith fwy byth ar gyfranogiad. Er enghraifft, dydy 92% o fenywod De Asiaidd ddim yn cwrdd â’r lefelau argymelledig o weithgaredd corfforol o’u cymharu â 55% o’r holl fenywod.

(Ystadegau o Sporting Equals: http://www.sportingequals.org.uk/about-us/facts.html)

I fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn chwaraeon, mae angen ystyried pob agwedd ar chwaraeon – arweinyddiaeth, rheoli, hyfforddi, dyfarnu a gwirfoddoli – yn ogystal â chyfranogiad.

Anabledd

Mae tua 11 miliwn o bobl anabl yn y DU. Mae hyn yn cynnwys pobl â nam corfforol, nam ar y golwg a nam ar y clyw a phobl ag anawsterau dysgu. Ar gyfer pob grŵp oedran, mae cyfranogiad pobl anabl mewn chwaraeon yn is o lawer na chyfranogiad pobl heb anabledd. Mae hyn oherwydd:
  • rhwystrau ffisegol – er enghraifft, diffyg cyfarpar wedi’i addasu neu gost hynny
  • logistaidd – er enghraifft, diffyg cludiant neu gysylltiadau anaddas
  • seicolegol – er enghraifft, diffyg hyder, agweddau pobl eraill

Mae llawer o gampau a gweithgareddau corfforol yn sicrhau cynhwysiad pobl anabl. Mae cynhwysiad yn gofyn bod staff a gwirfoddolwyr ag agwedd gadarnhaol, yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn gallu addasu gweithgareddau.

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Mae pobl anabl yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn amrywiaeth o ffyrdd – gyda chyfranogwyr sydd heb anabledd a/neu gyda phobl anabl eraill. Dylai unigolion allu dewis a newid sut maen nhw’n cyfranogi.

Disaibilty sports

Y Gemau Paralympaidd

Y Gemau Paralympaidd yw’r gystadleuaeth aml-gamp fwyaf yn y byd ar gyfer mabolgampwyr anabl. Maen nhw wedi helpu i newid canfyddiadau pobl o bobl anabl. Er enghraifft, mae mwy o sylw i chwaraeon anabledd yn y cyfryngau ac mae gan berfformwyr anabl broffil llawer uwch nag o’r blaen. Mae rhai mabolgampwyr anabl yn ymarfer ac yn cystadlu â’u cyfoedion sydd heb anabledd. Fodd bynnag, dydy pobl ag anawsterau dysgu a phobl fyddar ddim yn cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd. Mae ganddyn nhw eu cystadlaethau eu hunain ac mae ymwybyddiaeth o’u cyfranogiad hwy yn dal i fod yn gymharol isel.

Paralympiaid yn codi’r gêm i bawb

Statws economaidd

Mae statws economaidd pobl yn adlewyrchu eu hincwm (yr hyn maen nhw’n ei ennill o waith neu fuddsoddiadau) a’u cyfoeth (y tir neu’r eiddo maen nhw’n berchen arno). Mae statws economaidd pobl ifanc fel arfer yn cael ei bennu gan incwm a chyfoeth eu rhieni. Yn aml, rydyn ni’n sôn am statws cymdeithasol-economaidd pobl. Mae hyn yn cydnabod y ffaith bod incwm a chyfoeth yn dylanwadu ar addysg pobl, eu galwedigaeth a’u profiadau bywyd eraill. Ar gyfer ystadegau chwaraeon, mae pobl yn aml yn cael eu dosbarthu yn ôl eu statws cyflogaeth.

Yn y DU, rheolwyr a phobl broffesiynol sydd â’r cyfraddau uchaf o gyfranogi mewn chwaraeon. Gweithwyr llaw a phobl ddi-waith sydd â’r cyfraddau isaf. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod llawer – nifer anghyfrannol – o enillwyr medalau Olympaidd y DU wedi mynd i ysgolion preifat. Mae’r ffocws mwyaf ar statws cymdeithasol-economaidd mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn gysylltiedig ag iechyd. Mae ymchwil iechyd yn cysylltu iechyd a lles gwanach, gan gynnwys lefelau is o weithgaredd corfforol, gyda statws economaidd is.

I gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol pobl, ac i wella eu hiechyd a’u lles a hefyd eu cyfleoedd ym myd chwaraeon, mae angen i ni ystyried eu statws economaidd.

Cyfrif cost chwaraeon

Mae angen i ddarparwyr chwaraeon fod yn ymwybodol o’r costau wrth geisio sefydlu cysylltiad pobl ag incwm is.

Cost cutting diagram

Proffil, poblogrwydd a chyllid

Mae chwaraeon yn bodoli mewn byd cystadleuol. Mae campau unigol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ddenu cyfranogwyr, sylw a chyllid, ac mae’n rhaid i chwaraeon fel gweithgaredd adloniadol gystadlu yn erbyn adloniannau digidol, fel cyfryngau cymdeithasol, y teledu a gemau. Po fwyaf o bobl sy’n chwarae camp, mwyaf tebygol yw hi y bydd y gamp honno’n cael cyllid, naill ai drwy grantiau, fel y Loteri Genedlaethol, neu nawdd. Yn yr un modd, mae campau sydd â llawer o ddilynwyr yn fwy tebygol o ddenu sylw yn y cyfryngau a nawdd.

Mae ymchwil gafodd ei gyhoeddi yn 2015 gan y Future Foundation, a’i gynnal ar ran Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, wedi rhybuddio bod angen i wersi Addysg Gorfforol ddefnyddio technoleg ddigidol i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymhelliant i gymryd rhan. Mae sefydliadau cenedlaethol eraill ym myd chwaraeon, fel Sport England a sports coach UK, hefyd yn dadlau o blaid defnyddio technoleg i ddenu a chadw cyfranogwyr ifanc ac oedolion mewn chwaraeon.

Mae technoleg yn gallu helpu i gynyddu cyfranogiad a phroffil camp. Er enghraifft:

  • technoleg wisgadwy – yn annog cyfranogwyr i gofnodi eu lefelau o weithgaredd, cyfri'r calorïau maen nhw’n eu llosgi a chofnodi eu hamserau gorau personol
  • apps ar ffurf gêm – yn cymell pobl drwy osod heriau a gwobrwyo cyflawniadau
  • cyfryngau cymdeithasol – yn galluogi clybiau i hyrwyddo sesiynau yn rhad, unigolion i rannu eu profiadau neu dimau i gasglu cefnogaeth
This girl can - inspiring images  and slogans by real women and girls.
Roedd yr ymgyrch arloesol hon yn seiliedig ar gyfres o luniau calonogol o fenywod a merched a sloganau calonogol ganddyn nhw. http://www.bbc.co.uk/sport/0/get- inspired/30743750

Yn 2015, lansiodd Sport England ymgyrch genedlaethol i gynyddu cyfranogiad merched a menywod mewn chwaraeon. Roedd cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo ac estyn yr ymgyrch. O fewn wythnos i’w lansio, roedd mwy na 23 miliwn o bobl wedi gwylio’r ffilm ar YouTube a Facebook ac roedd yn ymddangos yn gyson ar Twitter, gyda champau’n hyrwyddo cyfleoedd yn ogystal â menywod a merched yn rhannu eu cyflawniadau. Roedd app dilynol yn galluogi cyfranogwyr i lawrlwytho eu ffotograffau eu hunain ar dempledi poster ysbrysoledig.

Ffactorau moesegol

Mae chwaraeon yn gofyn bod pobl yn dilyn rheolau ysgrifenedig ac anysgrifenedig er mwyn eu gwneud yn deg. Mae disgwyl iddyn nhw ymddwyn yn gyfrifol i sicrhau parch, tegwch a diogelwch. Yn y modd hwn, mae chwaraeon yn hyrwyddo gwerthoedd cymdeithasol.

Ymddygiad ym myd chwaraeon

Mae disgwyl i unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon gymryd cyfrifoldeb personol ac ymddwyn mewn ffordd benodol. Y term am hyn yw sbortsmonaeth.

professional sports etiquette

Rheolau

Rhaid i gyfranogwyr ddilyn rheolau’r gamp. Mewn chwaraeon trefnedig, mae’r rhain yn cael eu datblygu gan gorff llywodraethol pob camp ac yn cael eu cynnal gan ddyfarnwyr yn ystod chwarae. Mae rheolau’n gwneud yn siŵr bod chwarae’n ddiogel ac yn deg. Mae chwaraewyr yn cael eu cosbi os nad ydyn nhw’n parchu’r rheolau a’r dyfarnwyr. Yn ystod gweithgareddau anffurfiol neu weithgareddau wedi’u haddasu, yn aml mae cyfranogwyr yn cytuno ar eu rheolau eu hunain. Mae cytuno ar addasiadau i’r rheolau yn gallu gwneud chwaraeon yn fwy cynhwysol. Maen nhw’n dal i sicrhau tegwch a diogelwch.

Moesddefod (Etiquette)

Hefyd mae gan chwaraeon reolau neu arferion anysgrifenedig – moesddefod – i gynnal diogelwch, parch a thegwch. Mae’r rhain yn helpu pobl i chwarae o fewn ‘ysbryd y gêm’. Yn aml maen nhw’n gofyn bod chwaraewyr yn cymryd agwedd weithredol at barch a thegwch, nid yn unig osgoi torri’r rheolau.

Er enghraifft, mae moesddefod yn cynnwys:

  • cydnabod bod y bêl allan o dir y chwarae
  • ysgwyd llaw â gwrthwynebwyr

Gwyredd (Deviance)

Mewn chwaraeon, mae ymddygiad gwyrdröedig yn digwydd pan fydd chwaraewr, rheolwr, gwyliwr neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gamp yn ymddwyn mewn ffordd sydd yn fwriadol yn torri rheolau neu foesddefod y gamp. Mae sawl ffurf ar yr ymddygiad hwn, gan gynnwys twyllo, trais, llwgrwobrwyo i ddylanwadu ar y canlyniadau neu fetio’n anghyfreithlon ar y canlyniad.

Trechafwriaeth (Gamesmanship)

Trechafwriaeth yw’r gwrthwyneb i sbortsmonaeth. Heb dorri’r rheolau, mae chwaraewyr yn eu plygu ac yn defnyddio dulliau amheus i ennill mantais. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • cwympo’n fwriadol wedi tacl yn y cwrt cosbi er mwyn ceisio cael cic gosb
  • tynnu sylw gwrthwynebydd wrth iddyn nhw baratoi i serfio
  • gwastraffu amser er mwyn atal y gwrthwynebwyr rhag sgorio

Mae trechafwriaeth yn bodoli ar bob lefel ac mewn llawer o gampau. Oherwydd sylw yn y cyfryngau, mae llawer o enghreifftiau yn cael eu gweld mewn chwaraeon elitaidd. Mae rhai seicolegwyr ac athronwyr ym myd chwaraeon yn credu bod hyn yn adlewyrchu cymhelliant chwaraewyr. Mae cystadleuwyr sydd â chymhelliant allanol cryf neu gymhelliant egotistaidd (ego-oriented) yn fwy tebygol o fod ag agwedd ‘ennill ar bob cyfrif’, gan arwain at ymddygiad annheg. Mae llai o gymhelliad i dwyllo os yw rhywun â chymhelliant cynhenid a chyfeiriedig at y dasg.

Gwerthoedd ym myd chwaraeon

Mae chwaraeon hefyd yn cael eu defnyddio i hybu gwerthoedd cadarnhaol yn y gymdeithas yn gyffredinol. Drwy ddangos y gwerthoedd hyn ar y maes ac oddi ar y maes, mae mabolgampwyr yn datblygu i fod yn modelau rôl cadarnhaol, yn enwedig i bobl ifanc.

Olympic flag

Gwerthoedd Olympaidd

Mae’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) yn diffinio’r tri gwerth Olympaidd:

  • Rhagoriaeth – rhywun yn gwneud y gorau o fewn eu gallu, mewn chwaraeon ac mewn bywyd. Mae’n ymwneud â chymryd rhan ac ymdrechu i wella, nid dim ond ennill.
  • Cyfeillgarwch – defnyddio chwaraeon i ddatblygu goddefgarwch a dealltwriaeth rhwng yr holl bobl – perfformwyr, gwylwyr a dinasyddion yn gyffredinol.
  • Parch – bod ag ystyriaeth i chi eich hun, i eraill ac i’r amgylchedd ehangach. Mae’n cynnwys parchu rheolau chwaraeon a’r dyfarnwyr sy’n eu cynnal.

Gwrth-ddopio

Mae dopio mewn chwaraeon yn golygu cymryd cyffuriau sy’n anghyfreithlon neu’n gwella perfformiad. Mae’n her fawr gan ei fod yn tanseilio tegwch ac yn peryglu iechyd mabolgampwyr.

Mae mesurau llym i fynd i’r afael â dopio mewn chwaraeon, ond mae’n gyfrifoldeb ar bob mabolgampwr i sicrhau eu bod nhw’n glir o’r cyffuriau hyn. Rhaid i unigolion gymryd cyfrifoldeb personol am bob sylwedd sy’n mynd i mewn i’r corff. Yn y pen draw, mae gwrth-ddopio yn dibynnu ar sbortsmonaeth dda.

Mae Asiantaeth Gwrth-Ddopio’r DU yn hyrwyddo 100% Me. Mae hyn yn ymwneud â bod yn wir fabolgampwr lle mae eich perfformiad yn ganlyniad o waith caled, penderfynoldeb a thalent. Mae 100% Me yn cefnogi ac addysgu pob mabolgampwr, o ddechreuwyr i berfformwyr elitaidd. Mae’n seiliedig ar bum gwerth:

UK Anti-Doping
Diagram o Asiantaeth Gwrth-Ddopio’r DU

Mae llawer o fabolgampwyr mwyaf y DU yn cefnogi 100% Me ac yn pleidio achos chwaraeon glân.

Darparu Chwaraeon

Mae sawl ffactor yn dylanwadu ar ddarpariaeth chwaraeon, fel cyfleusterau sector cyhoeddus a sector preifat, cyfleoedd mewn ysgolion a chlybiau lleol, lleoliad a hyfforddiant.

Darparu chwaraeon

Rôl darparwyr chwaraeon lleol a chenedlaethol

Y llywodraeth, allan o drethi ac arian y Loteri Genedlaethol, sydd fel rheol yn cyllido cyfleusterau sector cyhoeddus. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys:

  • Canolfannau Chwaraeon/Hamdden sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor
  • Cyfleusterau chwaraeon/adloniant sy’n gwasanaethu’r gymuned e.e. meysydd 4G, meysydd gwair a mannau agored, llwybrau beicio a lonydd beicio
  • Ysgolion a’u cyfleusterau Addysg Gorfforol/Chwaraeon
  • Pyllau nofio cyhoeddus
Sports provision

Manteision cyfleusterau sector cyhoeddus:

  • Ar gael i bawb beth bynnag eu anghenion e.e. anabledd
  • Cynnig mynediad i ddosbarthiadau a thargedu cynulleidfaoedd e.e. mam a phlentyn, aerobeg
  • Cynnig cyfleoedd fforddiadwy – e.e. mae cyfleusterau wedi’u cymorthdalu, mae mannau agored am ddim
  • Darparu cyfleusterau i ysgolion a chymunedau i alluogi fod pawb yn cael y cyfle i brofi campau a gweithgareddau adloniadol
  • Hyfforddiant rhad
  • Darparu hwb ar gyfer y gymuned
  • Cynnig mentrau’r llywodraeth e.e. nofio am ddim, sesiwn adferiad cardiaidd
  • Cysylltiadau â datblygu chwaraeon, a rhaglenni addysg gorfforol ysgolion

Mae cyfleusterau sector preifat yn cael eu sefydlu gan gwmnïau i wneud elw, yn aml mae’r rhain yn glybiau i aelodau yn unig e.e. clybiau iechyd a thennis David Lloyd

Sports provision

Manteision clybiau sector preifat:

  • Yn dueddol o fod â gwell cyfleusterau a chyfarpar
  • Detholrwydd h.y. ddim yn agored i’r cyhoedd
  • Gwell hyfforddiant, gan fod aelodau’n talu

Sector gwirfoddol

Clybiau chwaraeon lleol a sefydliadau/cymdeithasau sy’n cynnig gweithgareddau ym myd chwaraeon e.e. clwb rygbi lleol, clwb pêl-rwyd lleol, clwb rhedeg lleol.

Manteision clybiau sector gwirfoddol:

  • Am ddim neu gost finimol
  • Hyfforddiant am ddim
  • Gwasanaethu’r gymuned – datblygu ethos a diwylliant cymunedol
  • Datblygu clymau cyfeillgarwch

Darpariaeth Chwaraeon Genedlaethol

Y sefydliadau sy’n gyfrifol am amrywiaeth o gyfranogiad mewn chwaraeon gan gynnwys cyllido, o lawr gwlad (datblygu chwaraeon) i’r lefel elitaidd e.e. Chwaraeon Cymru, Sport England

Sports provision
Sports provision

Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol

Rhaid i bob person ifanc o 4 i 16 oed yn y DU gymryd rhan mewn addysg gorfforol. Mae’r llywodraethau ar draws y DU yn gweld pwysigrwydd pobl ifanc yn ymarfer er mwyn brwydro yn erbyn y problemau cynyddol sy’n gysylltiedig â gordewdra a’r angen i gael pobl ifanc i fod â diddordeb brwd mewn chwaraeon am oes.

Mae gwahanol fentrau ar draws y DU i wella darpariaeth Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol, e.e. y Primary PE and Sport Premium Fund yn Lloegr a’r Rhaglen Llythrennedd Corfforol yng Nghymru.

Manteision Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol:

  • Yn well mewn gweithgaredd corfforol – corfforol lythrennog
  • Gwybodaeth a sgiliau – i barhau i ymgysylltu â gweithgareddau
  • Bod â chymhelliant a brwdfrydedd dros gymryd rhan – manteision yr ymarfer
  • Iechyd a lles – corfforol, meddyliol a chymdeithasol
  • Cyfranogiad am oes – bod â diddordeb brwd mewn chwaraeon
  • Ymgysylltu â dysgu ar draws yr ysgol – hunanhyder a hunan-barch
Sports provision

Masnacheiddiwch

Mae chwaraeon yn ymwneud â mwy na chyfranogiad yn unig. Mae chwaraeon hefyd yn rhan o’r byd masnachol, yn cael eu rheoli a’u marchnata i wneud arian. Erbyn hyn mae nawdd a’r cyfryngau yn ddylanwadau pwysig ar chwaraeon.

Chwaraeon elitaidd, y cyfryngau a noddwyr

Mae chwaraeon wastad wedi cydio yn sylw pobl. Er enghraifft, roedd nifer y bobl oedd yn mynd i gemau pêl-droed yn rhan gyntaf yr 1900au yn gyson dros 40,000 ac roedd lle i 66,000 o wylwyr yn y stadiwm gafodd ei adeiladu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 1908. Mae hyn yn golygu bod gan chwaraeon y potensial i ddylanwadu ar amrywiaeth eang o bobl. Yn fwy diweddar, mae’r cyfuniad o sylw byd-eang yn y cyfryngau, cytundebau nawdd enfawr a mwy o fabolgampwyr yn berfformwyr amser llawn yn golygu bod chwaraeon elitaidd yn fusnes proffidiol iawn.

Charlotte Cooper three-time Wimbledon
Enillodd Charlotte Cooper gystadleuaeth Wimbledon ar dair achlysur a hi oedd y bencampwraig tennis Olympaidd gyntaf yn 1900 – cyfnod pan oedd chwaraewyr yn gwisgo dillad gwyn heb enwau brand na logos noddwyr arnyn nhw.

Mae masnacheiddiwch mewn chwaraeon yn ymwneud â gwneud elw o chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys tri phrif grŵp.

Chwaraeon

Mae chwaraeon yn elwa o fasnacheiddiwch. Mae derbyniadau uwch yn helpu mabolgampwyr unigol a sefydliadau unigol ym myd chwaraeon i gynyddu cyfranogiad, gwella perfformiadau a denu cefnogaeth. Wrth i dechnoleg ddod yn elfen fwy a mwy pwysig o chwaraeon ac wrth i gampau gystadlu â’i gilydd i sicrhau cysylltiad cyfranogwyr a noddwyr, mae cyllid yn fwy hanfodol byth.

Cyfryngau

Mae’r cyfryngau’n elwa o fasnacheiddio chwaraeon. Mae storïau proffil uchel ym myd chwaraeon yn helpu i ddenu cynulleidfaoedd, gwrandawyr a darllenwyr. Yn eu tro, mae’r cyfryngau’n sicrhau bod chwaraeon yn cynnal proffil uchel.

Noddwyr

Mae noddwyr yn elwa o fasnacheiddio chwaraeon. Mae eu harian yn hanfodol ar gyfer twf chwaraeon. Yn gyfnewid, mae sylw proffil uchel i chwaraeon yn sicrhau proffil uchel i’w cwmnïau.

Golygai hyn bod chwaraeon – yn enwedig chwaraeon elitaidd – y cyfryngau a nawdd yn gydgysylltiol. Mae’r term y triongl euraidd yn cael ei ddefnyddio am hyn.

Yn ogystal â’i fanteision niferus, gall masnacheiddiwch mewn chwaraeon fod yn negyddol hefyd. Er enghraifft, mae rhai pobl yn credu bod masnacheiddio pêl-droed elitaidd yn y DU wedi newid y gêm er gwaeth ac yn distrywio’r cysylltiadau traddodiadol rhwng cefnogwyr a chlybiau sy’n seiliedig ar gymuned.

Y triongl euraid

Mae’r triongl euraidd yn dangos y berthynas rhwng chwaraeon, y cyfryngau a nawdd. Mae’n cynrychioli natur fasnachol (gwneud arian) chwaraeon.

Mae’r berthynas yn amrywio’n enfawr rhwng campau a chystadlaethau gwahanol.

Effeithiau’r cyfryngau ar chwaraeon

Mae’r rhan fwyaf o bobl, boed yn chwarae neu’n gwylio chwaraeon neu beidio, yn ymwybodol o chwaraeon drwy’r cyfryngau. Mae hyn yn cynnwys chwaraeon lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O gylchlythyrau chwaraeon ysgol i sylw byd-eang ar y teledu, mae’r cyfryngau’n llais pwerus ar gyfer chwaraeon ac yn ddylanwad pwerus ar chwaraeon.

Mathau o gyfryngau

  • Teledu – lleol a chenedlaethol; freeview; tanysgrifio neu dalu-wrth-wylio; rhyngweithiol; ar-alw; gwasanaethau’r Botwm Coch; lloeren neu gebl.
  • Radio – lleol a chenedlaethol; analog a digidol; cyhoeddus a masnachol.
  • Y wasg – papurau newydd (lleol, cenedlaethol, dyddiol, wythnosol); cylchgronau (cyffredinol, arbenigol); llyfrau (technegol, bywgraffiadau, nofelau).
  • Ffilmiau – sinema; teledu; DVD ac ar-lein.
  • Rhyngrwyd – gwefannau; blogiau; sianelau fideo a chyfryngau cymdeithasol.

Dylanwadau'r cyfryngau

Mae’r cyfryngau’n gallu cael effaith gadarnhaol a negyddol ar chwaraeon. Ystyriwch y lluniau o’r Gemau Paralympaidd sy’n ysbrydoli a sut maen nhw’n newid canfyddiad pobl o bobl anabl. Cymharwch hynny â’r cyfryngau’n erlid mabolgampwyr sydd wedi 'methu' mewn rhyw ffordd ym marn rhai pobl.

Dylanwadau cadarnhaol Dylanwadau negyddol
Hyrwyddo ffyrdd bywiog ac iach o fyw Tarfu ar breifatrwydd perfformwyr
Amlygu gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon Tanseilio hyder a gyrfaoedd pobl
Cyflwyno modelau rôl cadarnhaol sy’n ysbrydoli Amlygu gwerthoedd ac ymddygiad negyddol
Rhoi cymhelliant i bobl gymryd rhan Tanseilio dyfarnwyr a’u penderfyniadau
Gosod safonau uchel ar gyfer perfformiad Mynnu rheolaeth ar amserlenni ac argaeledd gweithgareddau
Darparu enghreifftiau o sgiliau a thactegau Newid rheolau a thraddodiadau cystadlaethau
Rhoi cyhoeddusrwydd i amrywiaeth o gampau a gweithgareddau Golygu sylw fel ei fod yn anghyflawn neu â gogwydd bias
Dathlu ymdrech a llwyddiant Rhwystro gwylwyr a chyfranogwyr
Rhoi statws uchel i chwaraeon yn y gymdeithas Lleihau presenoldeb gwylwyr mewn gweithgareddau
Rhoi'r teimlad o berthyn i bobl Atgyfnerthu anghydraddoldebau drwy gyfyngu sylw i gampau neu grwpiau cymdeithasol traddodiadol
Cynhyrchu refeniw i chwaraeon Annog drwgdybio a rhagfarn rhwng grwpiau
Cynhyrchu refeniw i elusen

Nawdd mewn chwaraeon

Mae nawdd i’w gael ar bob lefel o chwaraeon. Gall cit timau ysgol gael ei noddi a gall mabolgampwyr elitaidd gael eu talu symiau mawr o arian i wisgo dillad chwaraeon penodol. Gall nawdd fod yn daliadau ariannol neu mewn nwyddau. Mae nawdd yn golygu bod y ddau barti’n cael manteision o’r cytundeb.

Mathau o nawdd

  • Unigolion – arddangos logo; gwisgo brand penodol; cymeradwyo cynhyrchion.
  • Timau a chlybiau – gwisgo cit; arddangos baneri; cael enw cwmni ar gyfer y tîm, y maes neu eisteddle/cwrt.
  • Campau – ailenwi cystadlaethau, cwpanau a chynghreiriau; brandio eu rhaglenni datblygu talent.
  • Gweithgareddau – caniatáu defnyddio eu logo ar gynhyrchion noddwyr; darparu cynhyrchion am ddim i gyfranogwyr.

Manteision i chwaraeon

  • Unigolion – talu am gostau fel cit; cyfarpar; teithio; llety; ffioedd cystadlaethau; amser i ymarfer.
  • Timau a chlybiau – cael cymhorthdal ar gyfer cit; cyfarpar; cynnal a chadw meysydd neu adeilad y clwb.
  • Campau – talu am hyfforddiant ac am ddatblygu hyfforddwyr; rhaglenni dechreuwyr; datblygu talent
  • Gweithgareddau – talu am logi lleoliad; arlwyo; lletygarwch; cyhoeddusrwydd; rhaglenni; costau dyfarnwyr; da-da.

Manteision i noddwyr

  • Codi ymwybyddiaeth cwmni neu frand.
  • Hysbysebu cynhyrchion a gwasanaethau.
  • Hyrwyddo delwedd gadarnhaol o’r cwmni.
  • Darparu gwobrau neu gymhellion ar gyfer staff a chwsmeriaid.
  • Cynyddu gwerthiant neu dderbyniadau.
  • Lleihau treth drwy ryddhad (tax relief).

Effeithiau negyddol nawdd

Mae noddi chwaraeon yn creu tensiynau pan fydd yn ymddangos bod delwedd neu gynnyrch y noddwr yn tanseilio neges y gamp. Er enghraifft, roedd cwmnïau tybaco yn noddi gweithgareddau ym myd chwaraeon hyd at 2005 pan y cawson nhw eu gwahardd rhag gwneud hynny ledled yr Undeb Ewropeaidd (UE). Caniateir i gwmnïau sy’n gwerthu alcohol i noddi chwaraeon ond mae llawer o ASau Prydain eisiau eu gwahardd gan eu bod nhw’n credu ei fod yn awgrymu bod perthynas rhwng gallu ym myd chwaraeon ac yfed alcohol. Mae’r un peth yn wir am gwmnïau bwydydd cyflym – a ddylen nhw noddi chwaraeon pan mae pobl yn credu bod eu cynhyrchion yn cyfrannu at ordewdra plant?

Astudiaeth achos – Gemau Olympaidd Los Angeles

Gemau Olympaidd Los Angeles yn 1984 oedd y Gemau Olympaidd modern cyntaf i gael eu hariannu gan noddwyr corfforaethol a’r Gemau cyntaf ers 1932 i wneud elw. Roedd y Gemau blaenorol – ym Montreal (1976) a Moscow (1980) – wedi gadael y trefnwyr â dyledion enfawr. Daeth y dull masnachol hwn yn fodel ar gyfer Gemau yn y dyfodol. Hefyd defnyddiodd y trefnwyr rywfaint o’r elw i gefnogi chwaraeon ieuenctid a datblygu hyfforddwyr oedd yn fanteisiol i lawr gwlad yn ogystal â chwaraeon elitaidd.

Sebastian Coe winner of the 1500m in 1984,
Efallai bod Sebastian Coe, sef yr Arglwydd Coe erbyn hyn, enillydd y 1500 m yn 1984, wedi dysgu gwersi o Los Angeles a’i helpodd i ddarparu Gemau llwyddiannus yn Llundain yn 2012.