Rhaglen Ffitrwydd Bersonol

Pennod 6

CBAC branding

Ysgrifennu’r rhaglen ffitrwydd bersonol

Rhaid i fabolgampwyr gynllunio rhaglen ffitrwydd bersonol gyda’r nod o wella perfformiad yn un o’u gweithgareddau ymarferol. Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynllunio i gyd-fynd â’u hanghenion unigol.

Sut i gyflawni’r dadansoddi a gwerthuso perfformiad

Mae rhaglen ffitrwydd bersonol (RhFfB) yn cael ei chynllunio i gwrdd ag anghenion penodol mabolgampwr unigol. Yn nodweddiadol mae’n cynnwys:

Rhagarweiniad

  • Nod – y sgiliau cyffredinol neu’r ffitrwydd rydych yn bwriadu eu gwella ar gyfer pa gamp a pham?
  • Proffil o bwy mae’r RhFfB ar ei chyfer – oed; rhyw; gallu; profiad
  • Trosolwg byr o’r rhaglen ymarfer – hyd; amlder a math
  • Sut byddwch chi’n dangos cynnydd – y profion a’r mesurau byddwch chi’n eu defnyddio

Profion gwaelodlin

  • Crynodeb o brofion sy’n cael eu defnyddio i fesur sgìl presennol a chydrannau presennol o ffitrwydd
  • Canlyniadau’r profion

Gwerthuso cryfderau a gwendidau

• O ganlyniadau’r profion, crynodeb o’r:

  • o cryfderau
  • o meysydd i’w gwella

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer y RhFfB hon

  • • Nodi’r sgìl a/neu y cydrannau o ffitrwydd sydd i gael eu gwella
  • • Gosod targed SMART ar gyfer pob cydran

Cynllun ymarfer

• Manylion am y cynllun ymarfer yn gysylltiedig ag egwyddorion ymarfer:

  • o monitro manwl ac addasiadau
  • o tystiolaeth o egwyddorion ymarfer

Canlyniadau

  • • Canlyniadau ar ôl gwneud y profion gwaelodlin eto

Gwerthuso

  • • Effeithiolrwydd y cynllun ymarfer o ran gwella’r cydrannau sydd wedi'u pennu
  • • Sut i gynnal, estyn neu wella’r rhaglen ymarfer
  • Am gymorth ar gyfer ysgrifennu RhFfB, edrychwch ar Egwyddorion ymarfer.

    Sut i werthuso RhFfB

    Dim ond os yw’n helpu perfformiwr i wella mae RhFfB yn effeithiol. Mae’n hanfodol monitro a gwerthuso effaith y RhFfB ar y perfformiwr. Mae proses 5-cam yn eich helpu chi i werthuso RhFfB.

    1. Nodi’r waelodlin

    Dim ond os ydych chi’n gwybod ble dechreuodd y perfformiwr y gallwch chi weld gwelliant – mae’n hanfodol nodi gwaelodlin. Cyn dechrau’r rhaglen ymarfer, mae angen i chi fesur y sgìl neu’r cydrannau o ffitrwydd mae’r perfformiwr yn bwriadu eu gwella. Er enghraifft, i fesur ffitrwydd perfformiwr gallwch ddefnyddio prawf blîp dygnwch.

    2. Monitro cynnydd

    Yn dibynnu ar hyd y rhaglen ymarfer, mae angen i chi ail-brofi yn rheolaidd – o bosibl bob pedair wythnos – er mwyn gwirio a yw cynnydd yn cael ei wneud. Os nad yw, efallai bydd angen i chi ailgynllunio neu addasu’r rhaglen ymarfer.

    3. Cofnodi a chyflwyno’r data

    Mae monitro cynnydd yn haws os ydych chi’n cofnodi’r data ac yn eu defnyddio i blotio cynnydd dros amser. Er enghraifft, gallwch greu graff sy’n dangos canlyniadau’r profion blîp. Mae hyn yn eich helpu chi a’r perfformiwr i weld cynnydd yn syth a/neu gymharu canlyniadau rhwng perfformwyr.

    4. Cymharu canlyniadau

    Mae’r RhFfB yn benodol i unigolyn, ond gall fod yn ddefnyddiol cymharu canlyniadau’r perfformiwr â chanlyniadau perfformwyr eraill i wirio bod cynnydd priodol yn cael ei wneud. Er enghraifft, mae’r prawf blîp yn rhoi arweiniad cenedlaethol am yr amrediad rhagorol i wael ar gyfer oedrannau a rhywiau gwahanol. Mae’n bwysig defnyddio cymariaethau yn sensitif oherwydd dylai’r ffocws fod ar welliant personol.

    5. Gwerthuso’r effaith

    Bydd prawf ar ôl y RhFfB yn dangos effaith y rhaglen ymarfer ar y perfformiwr. A yw wedi cael yr effaith roeddech chi ei heisiau? Os ydy, byddwch chi eisiau archwilio’r camau nesaf gyda’r perfformiwr – ydych chi’n gwneud mwy o’r un peth, yn estyn yr her neu’n canolbwyntio ar gydran newydd? Os nad yw’r RhFfB wedi cael yr effaith roeddech chi ei heisiau, sut byddwch chi’n newid y rhaglen ymarfer fel y bydd hi’n gwneud hynny?

    Bydd llawer o fabolgampwyr yn cadw dyddiadur ymarfer i’w helpu nhw i fonitro a gwerthuso eu RhFfB.