Mae cylchrediad cyfryngau print wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly, mae hysbysebwyr yn fwy gofalus o ran lle maen nhw'n hysbysebu. Mae ffigyrau cylchrediad uchel, fel rhai Cosmopolitan, yn golygu y bydd hysbysebwyr yn ciwio i ymddangos yn y cylchgrawn a gall y cylchgrawn godi prisiau uchel iawn am y lleoedd gwag prin.

Edrychwch ar y cerdyn cyfradd ar gyfer cylchgrawn prif ffrwd cyfoes ac ystyriwch, pa mor arwyddocaol yw hysbysebu i'r cylchgrawn hwn?

"Mae cylchgronau o dan bwysau i gynnwys dillad hysbysebwyr … Maen nhw'n gwneud y llinell rhwng y golygyddol a'r hysbysebion yn un aneglur, felly does wnelo gwir swyddogaeth y cylchgrawn fawr ddim â’r darllenydd"
- Wayne Hemmingway, cyn-gynllunydd

Edrychwch yn ofalus ar bopeth sy'n gyfystyr â hysbysebu mewn dau gylchgrawn cyfoes.