Gan ddefnyddio’r ymresymiadau a'r dyfyniadau, crëwch eich traethawd eich hun mewn 35 munud gan sicrhau eich bod yn cynnwys eich crynodebau canolradd eich hun.

Cymerwch ofal, nid yw'r pwyntiau bwled yn y drefn gywir o reidrwydd ac ni fydd angen pob un ohonynt i gwblhau eich traethawd. Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn dewis dyfyniadau perthnasol.

Ar ôl gorffen, cymharwch ef ag eraill yn y dosbarth a thrafodwch unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ac ym mha ffyrdd gallai fod wedi cael ei wella.

Cychwynnwch yr amserydd pan fyddwch yn barod.

Dewiswch y dyfyniadau rydych yn dymuno eu hychwanegu at eich traethawd drwy glicio arnyn nhw.

TEITL Y TRAETHAWD: Gwerthuso'r posibilrwydd o gymathu â chymdeithas seciwlar i Iddewon ym Mhrydain.

Ddim yn bosibl cymathu ond aros 'ar wahân'

  • Fe'i gwelir yn aml yn gyfyngedig oherwydd rheolau a rheoliadau - wrth geisio byw yn ôl canllawiau crefyddol mewn cymdeithas seciwlar, mae Iddewon mewn perygl o ynysu eu hunain.
  • Yn annog ynysu gan eraill.
  • Colli hunaniaeth ac arwahanrwydd.
  • Gofynion arferion crefyddol ddim yn cyd-fynd â bywyd gwaith modern a phroblemau'n cysoni defodau a gofynion defod bywyd Iddewig penodol â chyfraith gwlad.
  • Addysg mewn ysgolion gwladol ddim yn cynnwys cyfleusterau bwyd kosher, yn cynnal gwasanaethau cydaddoli dyddiol nad ydynt yn Iddewig.
  • Ysgol Iddewig - gellir diwallu anghenion diwylliannol y plentyn yn llawn a bydd cyfarwyddyd moesol a moesegol yn unol â chred Iddewig.
  • Ni fyddai gwerthoedd materol y byd seciwlar yn unol â gwerthoedd Iddewig.
  • Bwyd - mae llawer o Iddewon Uniongred am ddilyn cyfreithiau kashrut yn eu cyfanrwydd, rhaid i fwyd gael ei gynhyrchu, ei baratoi a'i fwyta mewn ffordd benodol fel y nodir yn y Torah a thraddodiad rabinaidd.
  • Amhosibl i Iddewon Uniongred fwyta mewn bwytai nad ydyn nhw'n rhai Iddewig neu yng nghartrefi rhai nad ydyn nhw'n Iddewon, felly mae hyn yn cyfyngu ar y cysylltiad cymdeithasol â phobl y tu allan i'w grŵp diwylliannol arbennig eu hunain.
  • Gwisg grefyddol hefyd yn rhwystr i gymathu - mae gan ddynion Hasidig bob amser farf a chudynnau ochr er mwyn ufuddhau i Lefiticus 19:27. Mae menywod Hasidig hefyd yn sefyll allan gan eu bod nhw'n gwisgo dillad syml nad ydynt yn dangos eu gyddfau, eu breichiau na'u coesau ac maent hefyd yn gwisgo wig ar ôl priodi er mwyn gorchuddio eu gwallt.
  • Dydy Iddewon Hasidig ddim wedi ceisio cymathu, ac maen nhw'n byw mewn cymunedau caeedig gan ei bod hi'n amhosibl byw'r math yma o fywyd yng nghymdeithas y brif ffrwd.

O blaid cymathu

  • Nid yw cymathu yn golygu troi cefn ar ffydd ac ymarfer ac mae Shabbat yn helpu i gynnal hunaniaeth.
  • Mae Prydain yn gymdeithas aml-ffydd sy'n parchu arferion crefyddol ei gwahanol ffydd ac yn croesawu/cofleidio gwahaniaethau.
  • Gellid dadlau bod canolbwyntio ar y teulu yn bwysig i ddiwylliant Prydeinig.
  • Mae sawl ffydd arall yn cymathu.
  • Addysg - Mae'r rhan fwyaf o Iddewon sy'n byw ym Mhrydain wedi gwneud yn dda iawn o fewn y system addysg Brydeinig - mae'r system addysg Brydeinig wedi newid ac yn berthnasol ac yn fuddiol i ddeall eu cymunedau seciwlar a chrefyddol.
  • Fodd bynnag, gall ysgolion ffydd Iddewig greu eu problemau eu hunain am eu bod yn gallu cynyddu'r ymdeimlad o fod yn estron a deimlir gan blant Iddewig drwy eu gwneud yn ymwybodol yn barhaus eu bod yn ddiwylliannol wahanol i'r gymdeithas ehangach y maent yn byw ynddi.
  • Mae Iddewon Diwygiedig bob amser wedi credu mewn cymathu er goroesiad Iddewiaeth. Credant y gall Iddewon gynnal eu ffordd o fyw ddefosiynol grefyddol heb gael unrhyw effaith andwyol ar eu gallu i weithredu'n llawn o fewn cymdeithas brif ffrwd.
  • Nid oes angen cymathu'n llwyr beth bynnag gan fod cymdeithas ym Mhrydain yn croesawu hunaniaeth grefyddol Iddewig ynghyd ag amrywiaeth eang o grefyddau, credoau a diwylliannau.

The prophet Jeremiah sent a letter to the exiles in Babylon, telling them, ‘Seek the peace in the city in which you find yourself, for it is in its peace that you will find peace.’ This is still true today. (Sacks)

'When a Jew dies, Jewish law and tradition require that the funeral and burial of the deceased take place as soon after death as possible – ideally, within twenty-four hours, but certainly within forty-eight hours. The funeral and burial are held so soon after death to emphasise the Jewish belief that the soul – wherein is the spark of life – immediately returns to God who gave it.' (Dosick)

'Without compromising their missions or neglecting their core audience, organisations that serve the Jewish community should, where appropriate, find ways of ensuring that their benefits spread as widely as possible.' (The Jewish Leadership Council)

'We hold that all such Mosaic and rabbinical laws as regulate diet… their observance in our days is apt rather to obstruct than to further modern spiritual elevation.' (Pittsburgh Platform of 1885)

'They require discrimination recognising that the body and food are given by God who calls for holiness in his people.' (Hoffman)

'Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.' (Lefiticus 19:27)

'[Jewish education] is meant to cushion the effect of the gentile environment, enhance social contact with fellow Jews, limit the prospect of inter-marriage, and provide a degree of Jewish education.' (Unterman)

'There is so much that communities can do to reverse the trend and attract people back. Younger people cannot afford to live in the big cities, and, as such, cities like Sheffield are seeing a growth in certainly the Jewish community. And Cardiff, being a capital city is a wonderful place to live, and we must fly the flag. Kosher food is sometimes used as a reason for not coming here, but everyone can order online anyway, so there is no problem there. We must do the right thing and make our synagogues welcoming and not stuffy. We must have a positive attitude, and if we take action to change things we will succeed.' (Stone)

'A lot of the religious younger people have moved away to have more religious amenities… People who want the religious education – the schools and universities – the social scene and restaurants have moved away… if you want to bring up your family with a lot of Jewish schools around, with Jewish delicatessens, you can’t always do it in Cardiff.' (Soffa)

'Many Orthodox Jews keep the laws of kashrut in their entirety; however, this can pose particular problems for Jewish communities and individuals who live in Britain today. Keeping kashrut certainly has the potential to isolate and separate Jews from the wider secular society.' (Gwynne-Kinsey)

'Religious dress also marks a person out as different, which can also act as a barrier to assimilation. One particular group within Judaism, Hasidic Jews, are immediately recognisable by their appearance and style of dress. Hasidic men always have a beard and side curls in obedience to Leviticus 19:27.' (Gwynne-Kinsey)

'Reform Jews have always been of the opinion that it is important to be assimilated into the wider society in which one lives, and they have shown that it is possible.' (Gwynne-Kinsey)