The role of advocacy

Rôl eiriolaeth

Teamwork

Advocacy is the process of speaking up about an issue that is important to the individual. This can be either self-advocacy, where the individual speaks on their own behalf; or citizen advocacy, where a volunteer from a local advocacy group speaks on behalf of the individual.

Due to the complexity and sensitivity of some issues, advocates would be used within a professional capacity; for example, a solicitor or welfare rights consultant. This form of advocacy does not replace the likes of citizen advocacy or self-advocacy but works alongside it.

Eiriolaeth yw'r broses o leisio barn ynghylch mater sy'n bwysig i'r unigolyn. Gall hyn naill ai fod ar ffurf hunaneiriolaeth, lle y bydd yr unigolyn yn siarad drosto ei hun, neu eiriolaeth dinesydd, lle y bydd gwirfoddolwr o grŵp eiriolaeth lleol yn siarad ar ran yr unigolyn.

Oherwydd natur gymhleth a sensitif rhai materion, byddai eiriolwyr yn cael eu defnyddio mewn cymhwyster proffesiynol; er enghraifft, cyfreithiwr neu ymgynghorydd hawliau lles. Nid yw'r math hwn o eiriolaeth yn cymryd lle eiriolaeth dinesydd neu hunaneiriolaeth, ond yn hytrach yn gweithio ochr yn ochr â nhw.

The role of advocacy

Rôl eiriolaeth

Think about when an advocate would be used and what they can do to help someone. Make notes on your findings.

Meddyliwch am adeg y byddai eiriolwr yn cael ei ddefnyddio a'r hyn y gall ei wneud i helpu rhywun. Gwnewch nodiadau ar eich canfyddiadau.

Suggested response

If an individual finds it difficult to understand their care and support or finds it hard to speak up, there are individuals who can act as a spokesperson for them. They make sure the individual is heard and are given an advocate. Advocates can, for example, help an individual:

  • understand the care and support process
  • talk about how they feel about their care
  • make decisions
  • challenge decisions about their care and support if they do not agree with them
  • stand up for an individual’s rights.

Ymateb awgrymedig

Os bydd unigolyn yn ei chael hi'n anodd deall ei ofal a'i gymorth neu'n ei chael hi'n anodd lleisio ei farn, mae unigolion ar gael a all weithredu fel llefarydd ar ei ran. Maent yn sicrhau bod yr unigolyn yn cael ei glywed ac yn cael eiriolwr. Er enghraifft, gall eiriolwyr helpu unigolyn i wneud y canlynol:

  • deall y broses gofal a chymorth
  • siarad am ei deimladau ynglŷn â'i ofal
  • gwneud penderfyniadau
  • herio penderfyniadau ynghylch ei ofal a'i gymorth os nad yw'n cytuno â nhw
  • dadlau dros hawliau unigolyn.

When an advocate can help

Pryd y gall eiriolwr helpu

Businessman

Professionals, organisations and even family carers need to recognise the role and work of advocates in independently supporting individuals. An individual may be living in a care or supported setting, or with their family, and can still avail themselves of an advocate.

In all cases, the relationship is confidential to the individual and their advocate partner. Such partnerships can grow into long-term friendships which give much to supporting and safeguarding individuals and their interests, particularly if they live in a long-term care setting. All of these activities contribute to supporting a rights-based approach by ensuring an individual’s voice is heard, irrespective of their communication needs or abilities.

Mae angen i weithwyr proffesiynol, sefydliadau a hyd yn oed gofalwyr teulu gydnabod rôl a gwaith eiriolwr o ran rhoi cymorth annibynnol i unigolion. Gall unigolyn fod yn byw mewn lleoliad gofal neu leoliad â chymorth, neu gyda'i deulu, a gall gael eiriolwr o hyd.

Ym mhob achos, mae'r gydberthynas rhwng yr unigolyn a'i bartner eirioli yn gyfrinachol. Gall partneriaethau o'r fath dyfu'n gyfeillgarwch hirdymor sy'n helpu i gefnogi a diogelu unigolion a'u diddordebau, yn enwedig os ydynt yn byw mewn lleoliad gofal hirdymor. Mae'r gweithgareddau hyn i gyd yn cyfrannu at gefnogi dull gweithredu seiliedig ar hawliau drwy sicrhau bod llais unigolyn yn cael ei glywed, ni waeth beth yw ei anghenion neu alluoedd cyfathrebu.