Introduction

Cyflwyniad

Tightrope walker

Supporting positive risk-taking is key to the implementation of individual-centred planning and approaches, which are aimed at increasing inclusion and promoting people’s participation in their care and service delivery.

Mae helpu pobl i gymryd risgiau cadarnhaol yn allweddol er mwyn dilyn cynlluniau a dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sydd â'r nod o gynyddu cynhwysiant a hyrwyddo cyfranogiad pobl yn eu gofal a'r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

The value of positive risk-taking to individuals

Gwerth cymryd risgiau cadarnhaol i unigolion

Jenga boardgame

Responsible and responsive services aim to find ways of balancing their duties as employers with supporting individuals to live the lives that are suitable for them.

Positive risk-taking is about individuals taking control of their own lives by weighing up the potential benefits and harms of exercising one choice of action over another. Positive risk-taking is not ignoring any potential risks. Risk is a part of everyone’s everyday life, and everyone has the right to take risks.

Individuals must be given the support they need to take the risks they want and to make informed choices. New experiences and greater community involvement potentially involve individuals taking risks that offer opportunities for the development of independence, confidence, well-being, voice and autonomy.

Mae gwasanaethau cyfrifol ac ymatebol yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gydbwyso eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr â'r gwaith o helpu unigolion i fyw eu bywydau mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.

Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn golygu bod unigolion yn cymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy bwyso a mesur manteision a niweidiau posibl dewis un ffordd o weithredu yn hytrach na ffordd arall. Nid yw cymryd risgiau cadarnhaol yn golygu anwybyddu unrhyw risgiau posibl. Mae risg yn rhan o fywyd bob dydd pawb, ac mae gan bawb hawl i gymryd risgiau.

Rhaid rhoi'r cymorth sydd ei angen ar unigolion i gymryd y risgiau y maent am eu cymryd ac i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Gallai profiadau newydd a chynnydd yng nghyfranogiad y gymuned olygu y bydd unigolion yn cymryd risgiau mewn ffyrdd sy'n cynnig cyfleoedd i feithrin annibyniaeth, hyder, llesiant, llais ac ymreolaeth.

The value of positive risk-taking to individuals

Gwerth ‘cymryd risgiau cadarnhaol’ i unigolion

How can risk-taking be a positive thing?

Think of some examples to illustrate this.

Sut y gall cymryd risgiau fod yn beth cadarnhaol?

Meddyliwch am rai enghreifftiau o hyn.

Suggested response: When we think about taking risks, we think of danger, fear and uncertainty. But risk-taking can also have many positive outcomes. For example, if the risk pays off, an individual with a disability might gain a huge confidence boost, and a sense of satisfaction which far outweighs the initial risk, or an individual can develop skills they did not know they had.

Ymateb awgrymedig: Pan fyddwn yn meddwl am gymryd risgiau, byddwn yn meddwl am berygl, ofn ac ansicrwydd. Ond gall cymryd risgiau hefyd arwain at lawer o ganlyniadau cadarnhaol. Er enghraifft, os bydd yn llwyddiant, gallai unigolyn ag anabledd gael hwb enfawr i'w hyder, ac ymdeimlad o foddhad sy'n llawer mwy na'r risg wreiddiol, neu gall unigolyn feithrin sgiliau nad oedd yn ymwybodol ei fod yn meddu arnynt.