How balancing rights, risks and responsibilities supports person-centred approaches

Sut mae cydbwyso hawliau, risgiau a chyfrifoldebau yn cefnogi dulliau gweithredu person-ganolog

Jenga boardgame

The following are occasions when a risk assessment should be completed:

  • when planning activities, outings and events
  • when planning and purchasing new facilities
  • when new work practices are introduced
  • when an individual develops a special need, or where there is a significant change to their existing needs.

In addition, there should be a system for regularly reviewing the risk assessments. No risk assessment should be written without a review date, monthly, quarterly, six monthly or annually, depending upon the need. This practice ensures an individual has full control, responsibility and voice over decisions affecting them, utilising good practice in the form of individual-centred approaches.

A risk assessment is carried out, then the individual is informed and guided in weighing up the risk with the benefit, or drawbacks, from undertaking the identified activity. Health and social care workers support individuals to balance their rights, the risks and their responsibilities.

Dylid cwblhau asesiad risg ar yr achlysuron canlynol:

  • wrth gynllunio gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau
  • wrth gynllunio a phrynu cyfleusterau newydd
  • pan gyflwynir arferion gwaith newydd
  • pan fydd unigolyn yn datblygu angen arbennig, neu lle bo newid sylweddol i'r anghenion sydd ganddo eisoes.

Hefyd, dylid bod system ar gyfer adolygu'r asesiadau risg yn rheolaidd. Ni ddylid ysgrifennu unrhyw asesiad risg heb gynnwys dyddiad adolygu, boed yn fisol, yn chwarterol, bob chwe mis neu'n flynyddol, yn dibynnu ar yr angen. Mae hyn yn sicrhau bod gan unigolyn reolaeth, cyfrifoldeb a llais llawn dros benderfyniadau sy'n effeithio arno, gan ddilyn arfer da ar ffurf dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Cynhelir asesiad risg, wedyn caiff yr unigolyn ei hysbysu a'i arwain wrth bwyso a mesur y risg a'r manteision, neu'r anfanteision, sy'n gysylltiedig รข chyflawni'r gweithgaredd dan sylw. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu unigolion i gydbwyso eu hawliau, y risgiau a'u cyfrifoldebau.

How balancing rights, risks and responsibilities supports individual-centred approaches

Sut mae cydbwyso hawliau, risgiau a chyfrifoldebau yn cefnogi dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

What are the basic steps involved in carrying out a risk assessment?

Draw up a simple risk assessment form.

Beth yw camau sylfaenol y broses o gynnal asesiad risg?

Lluniwch ffurflen asesiad risg syml.