Introduction

Cyflwyniad

Diversity

Best practice in any work setting is underpinned by effective working relationships, an ability to follow agreed ways of working and an ability to work in partnership with others.

Mae'r arfer gorau mewn unrhyw leoliad gwaith yn seiliedig ar gydberthnasau gwaith effeithiol, gallu i ddilyn ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt a gallu i weithio mewn partneriaeth ag eraill.

Effective work relationships

Cydberthnasau gwaith effeithiol

Dental team

In health and social care settings, effective work relationships are based on professionalism and principles of care, which require health and social care workers to respect and promote the rights of everyone they work with.

Relationship-centred working is a personalised, partnership approach of forming and maintaining important relationships, as well as recognising the importance of these relationships in delivering effective and safe care and support. This includes team members, colleagues, other professionals, the individuals who need care and support and everyone who is important to them. Their families, friends and advocates, for example, are further supported by relationship-centred working.

The relationship-centred approach recognises the importance of the interpersonal and intrapersonal relationships that exist between the individual and others around them. The relationship forms the context within which care and support takes place.

Think about the personal relationships you have experienced during your life.

  1. Why did the person become more than an acquaintance?
  2. What sort of personal relationship did they become?
  3. Which of them have survived?
  4. Why do you think this is?

Mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, mae cydberthnasau gwaith effeithiol yn seiliedig ar broffesiynoldeb ac egwyddorion gofal, sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol barchu a hyrwyddo hawliau pawb y maent yn gweithio gyda nhw.

Mae gwaith sy'n berthnasoedd-ganolog yn ddull wedi'i deilwra i ffurfio a chynnal cydberthnasau pwysig yn ogystal â chydnabod pwysigrwydd y cydberthnasau hyn wrth ddarparu gofal a chymorth effeithiol a diogel. Mae hyn yn cynnwys aelodau o'r tîm, cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill, yr unigolyn y mae angen gofal a chymorth arnynt a phawb sy'n bwysig iddynt. Er enghraifft, caiff eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u heiriolwyr gymorth pellach gan waith sy'n canolbwyntio ar gydberthnasau.

Mae'r dull gweithredu perthnasoedd-ganolog yn cydnabod pwysigrwydd y cydberthnasau rhyngbersonol a phersonol sy'n bodoli rhwng yr unigolyn ac eraill o'i gwmpas. Y gydberthynas sy'n ffurfio'r cyd-destun ar gyfer darparu gofal a chymorth.

Meddyliwch am y cydberthnasau personol rydych wedi'u profi yn ystod eich bywyd.

  1. Pam y daeth y person yn fwy na chydnabod i chi?
  2. Pa fath o gydberthnasau personol oedden nhw?
  3. Pa rai ohonynt sydd wedi goroesi?
  4. Pam hynny, yn eich barn chi?

Suggested response:

  1. This might be due to becoming friends, change to relationship due to work, socialising.
  2. Friends, neighbours, customers.
  3. This may be all of them, some of them or none of them.
  4. Moving away, change of interests, issues/problems.

Ymateb awgrymedig:

  1. Gallai hyn fod am eich bod wedi dod yn ffrindiau neu oherwydd newid i'r gydberthynas oherwydd gwaith, cymdeithasu.
  2. Ffrindiau, cymdogion, cwsmeriaid.
  3. Pob un ohonynt, rhai ohonynt neu ddim un ohonynt o bosibl.
  4. Symud i ffwrdd, newid diddordebau, problemau.