Introduction

Cyflwyniad

Man jumping

The term ‘transition’ describes the process of change, planning, preparing and moving from, for example, children’s health care to adult health care, or from children’s mental health services to adult’s mental health services. Transition is a gradual process of change, which gives everyone time to ensure that individuals and their families are prepared and feel ready to make the change.

Mae'r term ‘pontio’ yn disgrifio'r broses o newid, cynllunio, paratoi a symud, er enghraifft o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion, neu o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion. Proses raddol o newid yw trawsnewidiad, sy'n rhoi amser i bawb sicrhau bod unigolion a'u teuluoedd wedi'u paratoi ac yn teimlo'n barod i wneud y newid.

Significant life events or transitions

Digwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd neu gyfnodau o bontio

Life events

Changes that take place as a result of significant life events or transitions can include improved health and well-being as a result of a retirement, or reduced independence as a result of becoming a carer.

Significant life events include important changes in an individual’s life both positive and negative. For individuals with some conditions there may be changes and disruption to their routine; for others there may be onset of a deteriorating condition such as sensory loss or dementia; for others they may be a crisis affecting them. Transitions or change could include individuals moving into or out of the service provision, births, deaths, marriage, employment, redundancy, retirement, transferring between years in schools or colleges, transferring between education establishments, physical changes such as onset of puberty, moving into adulthood or becoming a carer.

Gall newidiadau sy'n digwydd o ganlyniad i ddigwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd neu gyfnodau o bontio gynnwys gwell iechyd a llesiant o ganlyniad i ymddeoliad, neu lai o annibyniaeth o ganlyniad i ddod yn ofalwr.

Mae digwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd yn cynnwys newidiadau pwysig ym mywyd unigolyn, yn gadarnhaol ac yn negyddol. I unigolion â rhai cyflyrau, gall fod newidiadau i'w trefn arferol ac amharu arno; i eraill gall fod yn gychwyn cyflwr dirywiol fel colli'r synhwyrau neu ddementia; i eraill gallant fod mewn argyfwng. Gallai cyfnodau o bontio neu newid gynnwys unigolion yn symud i mewn neu allan o'r ddarpariaeth gwasanaeth, genedigaethau, marwolaethau, priodas, cyflogaeth, ymddiswyddo, ymddeol, symud rhwng blynyddoedd mewn ysgol neu goleg, symud rhwng sefydliadau addysg, newidiadau ffisegol fel y glasoed, dod yn oedolyn neu ddod yn ofalwr.