Introduction

Cyflwyniad

Vegtables

We all have different beliefs, values and life experiences, but when supporting individuals in the health and social care sector, it is important that these factors do not impact on the practice through personal attitude and behaviour.

Mae gan bob un ohonom gredoau, gwerthoedd a phrofiadau bywyd gwahanol, ond wrth gefnogi unigolion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n bwysig nad yw'r ffactorau hyn yn effeithio ar yr ymarfer o ganlyniad i agwedd ac ymddygiad personol.

What are beliefs, values and life experiences?

Beth yw credoau, gwerthoedd a phrofiadau bywyd?

Hands painted like flags

Throughout life, beliefs, values and life experiences develop.

As children, individuals are dependent on close family and carers as they direct and shape their thoughts and behaviour. They also encourage and reward those that meet cultural customs, traditions and expectations in relation to manners and respect.

Growing up, individuals become increasingly exposed to society. Preferences, attitudes, values and beliefs develop as a result of new experiences and the influence of factors such as role models, peer groups, education, religious institutions and the media. The personal attributes developed throughout life promote the development of identity and the way individuals want themselves to be seen. This is what makes an individual who they are.

Gydol oes, mae credoau, gwerthoedd a phrofiadau bywyd yn datblygu.

Yn blant, mae unigolion yn ddibynnol ar deulu agos a gofalwyr wrth iddynt gyfarwyddo a llywio eu syniadau a'u hymddygiad. Maent hefyd yn annog ac yn gwobrwyo'r rhai sy'n cyd-fynd ag arferion diwylliannol, traddodiadau a disgwyliadau mewn perthynas â moesau a pharch.

Wrth dyfu'n hŷn, daw unigolion i gysylltiad cynyddol â chymdeithas. Bydd dewisiadau, agweddau, gwerthoedd a chredoau'n datblygu o ganlyniad i brofiadau newydd a dylanwad ffactorau fel modelau rôl, grwpiau cyfoedion, addysg, sefydliadau crefyddol a'r cyfryngau. Mae'r rhinweddau personol a ddatblygir gydol oes yn helpu unigolion i ddatblygu eu hunaniaeth a'r ffordd y maent am gael eu gweld. Dyma sy'n gwneud unigolyn fel y mae.

What are beliefs, values and life experiences?

Beth yw credoau, gwerthoedd a phrofiadau bywyd?

Think about two health and social care settings such as a residential setting or a day care centre for individuals with learning disabilities.

Meddyliwch am ddau leoliad iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft lleoliad preswyl a chanolfan gofal dydd i unigolion ag anableddau dysgu.

QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb Suggested ResponseAteb Awgrymedig

Suggested Response:

Ateb Awgrymedig:

Personal attitude and behaviour

Agwedd ac ymddygiad personol

Girls blowing glitter

Working with and getting to know a diverse range of individuals such as those accessing services, their friends and family, colleagues and other professionals, enables health and social care workers to develop their knowledge and understanding of different ways of thinking and living and the reasons for different beliefs, values and behaviours. As a consequence, tolerance of and respect for others develop, both which are important when meeting individual needs and preferences. Having their differences acknowledged and understood helps individuals to develop a sense of belonging, increasing their self-esteem and improving their well-being.

As a result, workers can become more open-minded to new experiences, opportunities and challenges, and are able to develop new relationships.

Mae gweithio gydag amrywiaeth eang o unigolion, fel y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau, eu ffrindiau a'u teuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, a dod i'w hadnabod, yn galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i feithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o feddwl a byw a'r rhesymau dros wahanol gredoau, gwerthoedd ac ymddygiadau. O ganlyniad i hynny, bydd goddefgarwch a pharch tuag at eraill yn datblygu, sy'n bwysig wrth ddiwallu anghenion a bodloni dewisiadau unigolion. Bydd cydnabod a deall gwahaniaethau unigolion yn eu helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn ac i wella eu hunan-werth a'u llesiant.

O ganlyniad i hynny, gall gweithwyr ddod yn fwy agored i brofiadau, cyfleoedd a heriau newydd, a gallu meithrin cydberthnasau newydd.

Personal attitudes and behaviour

Agwedd ac ymddygiad personol

QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb Suggested ResponseAteb Awgrymedig

Suggested Response:

Ateb Awgrymedig:

Personal attitude and behaviour

Agwedd ac ymddygiad

Disabled Icons

While a health and social care worker might not agree with the attitudes and behaviours of the individuals they work with, nor share their preferences, inclusive work practice involves respecting and promoting:

  • the right to freedom of thought and religion
  • the right to freedom to express their beliefs as they wish
  • the right to freedom of conscience, i.e. to personal values and a sense of right and wrong
  • respecting, promoting and responding to personal preferences.

Practice which doesn’t demonstrate inclusive practice, for example, denying someone the opportunity to worship in the way that their religion dictates or to choose what to eat or wear, is oppression. Oppressive behaviour denies individuals their freedoms and is a form of abuse.

Er ei bod yn bosibl na fydd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cytuno ag agweddau ac ymddygiad yr unigolion y maent yn gweithio gyda nhw, nac yn rhannu'r un dewisiadau, mae ymarfer gwaith cynhwysol yn golygu parchu a hyrwyddo:

  • yr hawl i ryddid meddwl a chrefydd
  • yr hawl i ryddid i fynegi eu credoau fel y dymunant
  • yr hawl i ryddid cydwybod, h.y. i werthoedd personol ac ymdeimlad o'r hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir
  • parchu dewisiadau personol, eu hyrwyddo ac ymateb iddynt.

Mae ymarfer nad yw'n gynhwysol, er enghraifft peidio â rhoi cyfle i rywun addoli yn unol â'i grefydd neu ddewis beth i'w fwyta neu ei wisgo, yn gyfystyr â gormes. Mae ymddygiad gormesol yn amddifadu unigolion o'u rhyddid, ac mae'n fath o gam-drin.

Personal attitude and behaviour

Agwedd ac ymddygiad

Think about your practice and how you could improve it. Monitor improvements in your practice by checking with individuals you support that you are showing respect for their beliefs, values, preferences and cultural background. In other words, that you are developing inclusive work practices, and that your attitude and behaviour demonstrates respect for these individual differences.

Meddyliwch am eich ymarfer a sut y gallech ei wella. Ewch ati i fonitro gwelliannau yn eich ymarfer drwy gadarnhau ag unigolion rydych yn eu cefnogi eich bod yn dangos parch at eu credoau, eu gwerthoedd, eu dewisiadau a'u cefndir diwylliannol. Mewn geiriau eraill, eich bod yn datblygu arferion gwaith cynhwysol, a bod eich agwedd a'ch ymddygiad yn dangos parch at y gwahaniaethau unigol hyn.

Suggested response: Changes or improvements could include increasing your knowledge about specific aspects of service delivery. This could be diabetes, autism or cultural aspects. Individuals could give feedback that you are more understanding, or more aware of their individual needs.

Ymateb awgrymedig: Gallai newidiadau neu welliannau gynnwys cynyddu eich gwybodaeth am agweddau penodol ar ddarparu gwasanaeth. Gallai hyn fod yn ddiabetes, awtistiaeth neu agweddau diwylliannol. Gallai unigolion roi adborth eich bod gennych ddealltwriaeth, neu'n fwy ymwybodol o'u hanghenion unigol.