Legislation and national policies underpinning a rights-based approach

Deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol sy'n sail i ddull gweithredu seiliedig ar hawliau

Human Rights Act 1998

Not supporting a child or young person to make choices or have their needs met is an injustice and may have devastating effects.

National legislation, regulations, policies and procedures are in place to promote diversity and to prevent discrimination. They are in place to promote everyone’s right to fair and equal treatment, regardless of their differences. For example, the Human Rights Act 1998 covers many different types of discrimination, including some that are not covered by other discrimination laws. Rights under the Act can be used only against a public authority, for example, the police or a local council, and not a private company. However, court decisions on discrimination usually have to take into account what the Human Rights Act says.

To make Britain fairer and strengthen anti-discrimination laws, the Equality Act 2010 provides understandable, practical guidance for employers, service providers and public bodies to ensure that rights to fair treatment are promoted for everyone. The Equality Act 2010 encompasses other acts which all aim to promote fairness and equality and to prevent discrimination.

Mae peidio â helpu plentyn neu berson ifanc i wneud dewisiadau neu sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu yn anghyfiawnder sy'n arwain at effeithiau dinistriol.

Yn y DU, mae nifer o ddeddfau, rheolau, rheoliadau, polisïau, dogfennau canllaw a chodau ymarfer statudol ar waith, ac mae pob un ohonynt yn hyrwyddo amrywiaeth, yn sicrhau cydraddoldeb ac yn rhoi terfyn ar wahaniaethu. Mae'r rhain ar waith er mwyn hyrwyddo hawl pawb i gael eu trin yn deg ac yn gyfartal, ni waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt.

Er enghraifft, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cwmpasu llawer o wahanol fathau o wahaniaethu, gan gynnwys rhai na chânt eu cwmpasu gan ddeddfau eraill mewn perthynas â gwahaniaethu. Dim ond yn erbyn awdurdod cyhoeddus y gellir defnyddio hawliau o dan y Ddeddf, er enghraifft, yr heddlu neu gyngor lleol, ac nid cwmni preifat. Fodd bynnag, rhaid i benderfyniadau llysoedd ynghylch gwahaniaethu fel arfer ystyried yr hyn y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei ddweud.

Er mwyn gwneud Prydain yn decach ac atgyfnerthu deddfau gwrthwahaniaethu, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi canllawiau ymarferol dealladwy i gyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau bod hawliau i driniaeth deg yn cael eu hyrwyddo i bawb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cwmpasu deddfau eraill sy’n ceisio hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb yn ogystal a cheisio atal gwahaniaethu.

Implementing legislation and national policies in health and social care

Gweithredu deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol yn ymwneud ag iechyd a gofal

Choices

Everyone that works in health and social care must ensure that they follow anti discriminatory practice in their role in working with children and young people. Employees have a duty of care to the individuals they care for, acting in their best interests and challenging any unfair practice, upholding their rights in doing so.

A rights-based approach could include religious and cultural choices being respected and an individual having the rights to practice these and be supported to do so.

The Office of the Children’s Commissioner for Wales has published a framework for working with children, grounded in the United National Conventions of the Rights of the Child (UNCRC). It is a durable approach that withstands social change. It is about placing the UNCRC at the core of a child’s experience of education and at the core of school planning, teaching, decision-making, policies and practice.

https://bit.ly/2L46EWP

Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau eu bod yn dilyn trefn sy’n atal gwahaniaethu yn eu rôl wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r gweithwyr yn gyfrifol am yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt, gan wneud y penderfyniadau gorau drostynt ac amddiffyn eu hawliau.

Gallai dull gweithredu seiliedig ar hawliau gynnwys parchu dewisiadau crefyddol a diwylliannol, gan gefnogi’r unigolyn a rhoi’r cyfle a’r hawl iddynt eu hymarfer.

Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae'n ddull gwydn sy'n gwrthsefyll newid cymdeithasol.

Mae’n golygu sicrhau bod CCUHP yn greiddiol i brofiad plentyn o addysg ac yn ganolog i gynllunio, addysgu, gwneud penderfyniadau, polisïau ac ymarfer yn yr ysgol.

https://bit.ly/2W8KaVy

Implementing legislation and national policies in health and social care

Gweithredu deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol yn ymwneud ag iechyd a gofal

How do other legislation and national policies underpin a rights-based approach?

Choose one of the following and make notes on the impact you think it has on following a rights-based approach in health and social care.

  • Social Services and Well-being (Wales) Act 2014
  • Children Act (1989)
  • Equality Act 2010
  • UN Convention on the Rights of a Child (1990)
  • Welsh Language measure (2011) and Mwy na Geiriau
  • Framework for the Welsh Language in Health and Social Care (2013).

Sut mae deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol eraill yn sail i ddull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Edrychwch ar un o'r canlynol a gwnewch nodiadau ar ei effaith ar ddilyn dull gweithredu seiliedig ar hawliau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn eich barn chi.

  • Deddf Gwasnaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Y Ddeddf Plant (1989)
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 1990
  • Mesur y Gymraeg (2011) a Mwy na Geiriau
  • Fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013).

Suggested response

Welsh Language measure (2011) and Mwy na Geriau – identifies provision in relation to the official status of the Welsh language. Established the office of Welsh Language Commissioner. Commissioner’s aim is to promote and facilitate the use of the Welsh language, working towards ensuring that the Welsh language is treated no less favourably than the English language.

Framework for the Welsh Language in Health and Social Care (2013) – outlines the approach to improve services for those who need or choose to receive their care in Welsh.

Ymateb awgrymedig

Mesur y Gymraeg (2011) a Mwy na Geiriau – yn nodi darpariaeth mewn perthynas â statws swyddogol y Gymraeg. Sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gan weithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) – yn amlinellu'r dull o wella gwasanaethau i'r rhai sydd angen neu sy'n dewis derbyn eu gofal yn Gymraeg.