Promoting equality, diversity and inclusion

Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Inclusive practice

Child-centred approaches involve developing strategies to ensure that children and young people are not excluded or isolated from any service, treatment or activity.

All children and young people should be welcomed and included and nurture a sense of belonging. Through a range of activities and experiences that are adapted to ensure inclusivity, all children can feel supported in being able to fulfil their potential.

Health and social care workers demonstrate inclusive practice by working in ways that recognise, respect, value and make the most of all aspects of diversity. Having a good understanding and awareness of and responding sensitively to a child or young person’s diverse needs supports them in developing a sense of belonging, well-being and confidence in their identity and abilities.

Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn cynnwys yr agweddau a'r dulliau a ddilynir i sicrhau na chaiff unigolion eu hallgáu na'u neilltuo o unrhyw wasanaeth, triniaeth neu weithgaredd.

Mae'n golygu cefnogi amrywiaeth drwy dderbyn gwahaniaethau unigolion a hyrwyddo cydraddoldeb drwy sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Ymarfer cynhwysol yw'r ymarfer gorau.

Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddangos ymarfer cynhwysol drwy weithio mewn ffyrdd sy'n cydnabod, yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn gwneud y gorau o bob agwedd ar amrywiaeth. Mae meddu ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o anghenion amrywiol plant a phobl ifanc, ac ymateb yn sensitif iddynt, yn eu helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn, llesiant a hyder yn eu hunaniaeth a'u galluoedd.

The impact of not promoting equality, diversity and inclusion

Effaith peidio â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Inclusion

Inclusive practice strives to deter the negative impact that discrimination, inequality and social exclusion can have on a child or young person's physical and mental health. Having such an understanding ensures appropriate, personalised care and support, thereby enabling a child or young person to develop self-respect and maintain a valued role in society.

Individuals who fail to support diversity or promote equality are often not aware of their attitudes and the impact of their behaviour, therefore inclusive practice involves reflecting on and challenging one’s own prejudices, behaviours and work practices. It also involves challenging those of colleagues and other service providers, with a view to adapting ways of thinking and working to influence good practice.

Mae ymarfer cynhwysol yn golygu deall yr effaith drychinebus y gall gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac allgáu cymdeithasol ei chael ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn. Mae meddu ar ddealltwriaeth o'r fath yn sicrhau gofal a chymorth priodol sydd wedi'u teilwra i'r unigolyn, a thrwy hynny alluogi unigolyn i feithrin hunan-barch a chynnal rôl werthfawr mewn cymdeithas.

Yn aml, nid yw unigolion sy'n methu â chefnogi amrywiaeth neu hyrwyddo cydraddoldeb yn ymwybodol o'u hagweddau ac effaith eu hymddygiad, felly mae ymarfer cynhwysol yn golygu myfyrio ar ein rhagfarnau, ein hymddygiad a'n harferion gwaith ein hunain, a'u herio. Mae hefyd yn golygu herio rhagfarnau, ymddygiad ac arferion gwaith cydweithwyr a darparwyr gwasanaethau eraill, gyda'r nod o addasu ffyrdd o feddwl a gweithio a newid gwasanaethau er mwyn adeiladu ar arfer da a chefnogi amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn well.