Introduction

Cyflwyniad

Tightrope walker

Supporting positive risk-taking is key to the implementation of child-centred planning and approaches, which are aimed at increasing inclusion and promoting children and young people’s participation in their care and service delivery.

Mae helpu pobl i gymryd risgiau cadarnhaol yn allweddol er mwyn dilyn cynlluniau a dulliau gweithredu plentyn-ganolog, sydd â'r nod o gynyddu cynhwysiant a hyrwyddo cyfranogiad pobl yn eu gofal a'r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

The value of positive risk taking to children and young people

Gwerth cymryd risgiau cadarnhaol i blant a phobl ifanc

Jenga boardgame

Managing the risks is an important role within practice. Being able to discuss potential risks and how best to manage them is an area of discussion with children and young people in order for them to make informed choices.

Children and young people must be given the support they need to take the risks they want and to make informed choices. New experiences and greater community involvement potentially involve children and young people taking risks that offer opportunities for the development of independence, confidence, well-being, voice and autonomy.

Mae rheoli risgiau o fewn arferion yn rôl bwysig. Dylid trafod y risgiau posibl a beth yw’r ffordd orau o ymdrin â nhw gyda’r plant a phobl ifanc er mwyn iddynt wneud dewisiadau hyddysg.

Rhaid rhoi'r cymorth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc i gymryd y risgiau ac i wneud dewisiadau hyddysg. Gallai profiadau newydd a chynnydd yng nghyfranogiad y gymuned olygu y bydd plant a phobl ifanc yn cymryd risgiau mewn ffyrdd sy'n cynnig cyfleoedd i feithrin annibyniaeth, hyder, llesiant, llais ac ymreolaeth.

The value of positive risk taking to children and young people

Gwerth cymryd risgiau cadarnhaol i blant a phobl ifanc

How can risk taking be a positive thing?

Think of some examples to illustrate this.

Sut y gall cymryd risgiau fod yn beth cadarnhaol?

Meddyliwch am rai enghreifftiau o hyn.

Suggested response: When we think about taking risks, we think of danger, fear and uncertainty. But risk-taking can also have many positive outcomes. For example, if the risk pays off, a child or young person with a disability might gain a huge confidence boost, and a sense of satisfaction which far outweighs the initial risk, or a child or young person can develop skills they did not know they had.

Ymateb awgrymedig: Pan fyddwn yn meddwl am gymryd risgiau, byddwn yn meddwl am berygl, ofn ac ansicrwydd. Ond gall cymryd risgiau hefyd arwain at lawer o ganlyniadau cadarnhaol. Er enghraifft, os bydd yn llwyddiant, gallai plentyn neu berson ifanc ag anabledd gael hwb enfawr i'w hyder, ac ymdeimlad o foddhad sy'n llawer mwy na'r risg wreiddiol, neu gall plentyn neu berson ifanc feithrin sgiliau nad oedd yn ymwybodol ei fod yn meddu arnynt.