Rights, risks and responsibilities

Hawliau, risgiau a chyfrifoldebau

Jenga boardgame

The following are occasions when a risk assessment should be completed:

  • when planning activities, outings and events
  • when planning new facilities
  • when new work practices are introduced
  • when a child or young person has a specific need, or where there is a significant change to their existing needs.

In addition, there should be a system for regularly reviewing the risk assessments. No risk assessment should be written without a review date, monthly, quarterly, six monthly or annually, depending upon the need. This practice ensures a child or young individual has full control, responsibility and voice over decisions affecting them, utilising good practice in the form of child-centred approaches.

A risk assessment is carried out, then the child or young person is informed and guided in weighing up the risk with the benefit, or drawbacks, from undertaking the identified activity. Health and social care workers support children and young people to balance their rights, the risks and their responsibilities.

Dylid cwblhau asesiad risg ar yr achlysuron canlynol:

  • wrth gynllunio gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau
  • wrth gynllunio a phrynu cyfleusterau newydd
  • pan gyflwynir arferion gwaith newydd
  • pan fydd unigolyn yn datblygu angen arbennig, neu lle bo newid sylweddol i'r anghenion sydd ganddo eisoes.

Hefyd, dylid bod system ar gyfer adolygu'r asesiadau risg yn rheolaidd. Ni ddylid ysgrifennu unrhyw asesiad risg heb gynnwys dyddiad adolygu, boed yn fisol, yn chwarterol, bob chwe mis neu'n flynyddol, yn dibynnu ar yr angen. Mae hyn yn sicrhau bod gan blentyn neu berson ifanc reolaeth, cyfrifoldeb a llais llawn dros benderfyniadau sy'n effeithio arno, gan ddilyn arfer da ar ffurf dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Cynhelir asesiad risg, wedyn caiff y plentyn neu’r person ifanc ei hysbysu a'i arwain wrth bwyso a mesur y risg a'r manteision, neu'r anfanteision, sy'n gysylltiedig â chyflawni'r gweithgaredd dan sylw. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu unigolion i gydbwyso eu hawliau, y risgiau a'u cyfrifoldebau.

Rights, risks and responsibilities

Hawliau, risgiau a chyfrifoldebau

What are the basic steps involved in carrying out a risk assessment?

Draw up a simple risk assessment form.

Beth yw'r camau sylfaenol y broses o gynnal asesiad risg?

Lluniwch ffurflen asesiad risg syml.