Features of effective communication

Nodweddion allweddol cyfathrebu effeithiol

Language skills

Verbal communication is an important method of communication between carers and children and young people.

Through regular conversations ideas can be exchanged and decisions can be made through a process of speaking and listening. Communication is therefore a two way process. Ideas can be exchanged, and decisions made there and then.

If there is any confusion about what has been said, this can be clarified at the time so that everyone knows and understands exactly what has happened or is going to happen in the future.

Children and young people will be able to find out about the care or support they need or will be needing in the future. Instructions can be given to other health and social care workers so that they know what their duties are. In addition, activities can be carried out and problems solved, using an appropriate method of communication for the child/young person. Co-production relies upon effective communication within teams.

Mae cyfathrebu geiriol yn ddull cyfathrebu pwysig rhwng gofalwyr a phlant a phobl ifanc.

Bydd unigolion yn siarad â'i gilydd a chael sgyrsiau'n rheolaidd, gan dderbyn a rhoi gwybodaeth yn gyflym ac yn effeithiol. Mae cyfathrebu yn broses ddwyffordd. Dyma pryd y gellir cyfnewid syniadau a gwneud penderfyniadau yn y fan a'r lle.

Os bydd unrhyw ddryswch ynglŷn â'r hyn sydd wedi cael ei ddweud, gellir egluro hynny ar y pryd fel bod pawb yn gwybod ac yn deall beth yn union sydd wedi digwydd neu a fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Bydd plant a phobl ifanc yn gallu dysgu am y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt neu y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol. Gellir rhoi cyfarwyddiadau i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn iddynt wybod beth yw eu dyletswyddau. Yn ychwanegol i hyn, gellir cyflawni gweithgareddau a datrys problemau gan ddefnyddio dull addas o gyfathrebu ar gyfer y plentyn/person ifanc. Mae cydweithrediad yn dibynnu ar gyfathrebu effeithiol rhwng y timau.

Features of effective communication

Nodweddion cyfathrebu effeithiol

A colleague has just returned from leave and is not up to speed with what has been going on. They are updated very quickly, due to lack of time, and proceed to carry on with their duties.

Describe two examples of how ineffective communication may affect children and young people.

Mae gweithiwr yn dychwelyd i’w waith ar ôl cymryd gwyliau ac nid oes neb wedi gadael iddo wybod beth sydd wedi digwydd tra ei fod wedi bod i ffwrdd. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei drosglwyddo iddo yn sydyn iawn ac mae’n parhau gyda’i ddyletswyddau.

Disgrifiwch ddwy enghraifft o'r ffyrdd y gall cyfathrebu aneffeithiol effeithio ar blant a phobl ifanc.

Suggested response:

  • needs might not be identified and met
  • errors to treatment or service delivery can occur if information is not accurate
  • could lead to misunderstanding, loss of confidence, the wrong treatment or care being given
  • inaccurate or incorrect information being given or shared, leading to anxiety and stress.

Ymateb awgrymedig:

  • efallai na chaiff anghenion eu nodi na'u diwallu
  • gall gwallau ddigwydd wrth roi'r driniaeth neu ddarparu'r gwasanaeth os nad yw'r wybodaeth yn gywir
  • gall arwain at gamddealltwriaeth, ddiffyg hyder, y gofal neu driniaeth anghywir yn cael ei gynnig
  • gwybodaeth anghywir neu wallus yn cael ei rannu, gan arwain at bryder a straen.