How to communicate effectively

Sut i gyfathrebu'n effeithiol

Listening

Within health and social care practice we sometimes need to adapt our method of communication to meet the needs of the child or young person we care for. We need to ensure we speak clearly and prevent using jargon or terminology that may be difficult for the individual to understand.

Active listening helps to maximise the communication interaction. It is important to show that workers are listening to the child or young person, and that they have heard and understood what has been said.

Using reassuring smiles and eye contact ensures that children and young people understand that workers are interested in what is being said.

Workers should use open body language and using gestures can also be helpful. Showing interest in what is being said encourages children and young people to communicate more and can improve the level of detail they are prepared to give. Communication should not be rushed, as this may make an individual feel that they are not important, or that there is little respect for them.

O fewn maes iechyd a gofal cymdeithasol bydd angen ar adegau addasu dulliau cyfathrebu er mwyn cwrdd ag anghenion y plentyn neu’r person ifanc sydd angen gofal. Mae’n rhaid siarad yn eglur, osgoi defnyddio jargon neu derminoleg a all fod yn anodd i’r unigolyn ei ddeall.

Mae gwrando gweithredol yn helpu i wneud y gorau o'r rhyngweithio wrth gyfathrebu. Mae'n bwysig i weithwyr ddangos eu bod yn gwrando ar y plentyn neu’r person ifanc, a'u bod wedi clywed a deall yr hyn sydd wedi cael ei ddweud.

Gall gwên galonogol a chyswllt llygaid sicrhau bod unigolion yn deall bod gan weithwyr ddiddordeb yn yr hyn y maent yn ei ddweud.

Dylai gweithwyr ddefnyddio iaith corff agored, a gall defnyddio ystumiau fod yn ddefnyddiol hefyd. Mae dangos diddordeb yn yr hyn sy'n cael ei ddweud yn annog plant a phobl ifanc i gyfathrebu mwy, a gall olygu eu bod yn fodlon rhoi mwy o fanylion. Ni ddylid rhuthro wrth gyfathrebu, oherwydd gall hyn wneud i unigolyn deimlo nad yw'n bwysig, neu nad yw'n cael ei barchu rhyw lawer.

How to communicate effectively

Sut i gyfathrebu'n effeithiol

What skills and approaches are required when speaking with children and young people and why are these important?

Pa sgiliau neu ddulliau sydd eu hangen pan yn siarad gyda phlant a phobl ifanc a pham mae'r rhain yn bwysig?

Suggested response:

  • listening skills
  • eye contact
  • time
  • use of questioning
  • active listening.

Ymateb awgrymedig:

  • sgiliau gwrando
  • cyswllt llygaid
  • amser
  • cwestiynu
  • gwrando gweithredol.