Introduction

Cyflwyniad

Man jumping

The term ‘transition’ describes the process of change, planning, preparing and moving from, for example, children’s health care to adult health care, or from children’s mental health services to adult’s mental health services. Transition is a gradual process of change, which gives everyone time to ensure that individuals and their families are prepared and feel ready to make the change.

Mae'r term ‘pontio’ yn disgrifio'r broses o newid, cynllunio, paratoi a symud, er enghraifft, o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion, neu o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion. Proses raddol o newid yw pontio, sy'n rhoi amser i bawb sicrhau bod unigolion a'u teuluoedd wedi'u paratoi ac yn teimlo'n barod i wneud y newid.

Significant life events or transitions

Digwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd neu gyfnodau o bontio

Life events

For children and young people, there may be changes and disruption to their routine; others may be anxious and distressed.

Significant life events can include:

  • important changes in a child’s life, both positive and negative
  • changes and disruption to routines
  • the onset of a deteriorating condition such as sensory loss
  • a sudden change to their lives such as loss and bereavement
  • a crisis affecting them.

Transitions or change could include children/young people moving into or out of the service provision, births in the family, deaths, marriage of parents, transferring between years in schools or colleges, transferring between education establishments, physical changes such as onset of puberty, moving into adulthood or becoming a carer.

Mae plant a phobl ifanc yn ymateb yn wahanol i newidiadau neu aflonyddwch yn eu trefn ddyddiol, gall rhai fod yn bryderus neu’n ofidus.

Dyma enghreifftiau o ddigwyddiadau arwyddocaol mewn bywyd:

  • newidiadau pwysig a all fod yn gadarnhaol ac yn negyddol ym mywyd plentyn
  • newidiadau ac aflonyddwch i arferion
  • dechreuad cyflwr sy'n dirywio fel colled synhwyraidd
  • newid sydyn yn eu bywydau fel colled a phrofedigaeth
  • argyfwng sy'n effeithio arnynt.

Gallai cyfnodau o drawsnewid neu newid gynnwys plant/pobl ifanc yn symud i mewn neu allan o'r ddarpariaeth gwasanaeth, genedigaethau yn y teulu, marwolaethau, priodas eu rhieni, symud rhwng blynyddoedd mewn ysgol neu goleg, symud rhwng sefydliadau addysg, newidiadau ffisegol fel y glasoed, dod yn oedolyn neu ddod yn ofalwr.