What can make change positive or negative?

Beth sy'n gallu gwneud newid yn gadarnhaol neu'n negyddol?

Life events

Transition can be a time of celebration or a time of great anxiety and worry, change and challenges for children and young people. It is a time when the individual is considering and making decisions about their career, their continuing education, their social life and where they will live in the future. The options available to children and young people may be not be so readily available as they are for adults and putting in plans in place for the future can be more challenging.

The support in place can make these changes positive or negative. For example, resources may be accessed for a new role as a carer, or there may be increased funds due to a new or first job.

The support available during the change can vary greatly. A child/young person’s understanding of the reasons for change can support them throughout.

Gall cyfnod o bontio fod yn amser i ddathlu, neu'n gyfnod o lawer o bryder a gofid, newid a heriau i blant a phobl ifanc. Mae'n gyfnod pan fydd unigolion yn ystyried ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u gyrfa, eu haddysg barhaus, eu bywyd cymdeithasol a ble y byddant yn byw yn y dyfodol. Efallai na fydd yr opsiynau sydd ar gael i blant a phobl ifanc mor hygyrch ag ydynt i oedolion, ac felly mae cynllunio am y dyfodol yn gallu bod yn fwy o sialens.

Gall y cymorth sydd ar waith wneud y newidiadau hyn yn gadarnhaol neu'n negyddol. Er enghraifft, gellir cael gafael ar adnoddau ar gyfer rôl newydd fel gofalwr, neu gall fod mwy o arian ar gael oherwydd swydd newydd neu swydd gyntaf.

Gall y cymorth sydd ar gael yn ystod y newid amrywio'n fawr. Gall dealltwriaeth y plentyn/person ifanc o'r rhesymau dros newid ei helpu drwy gydol y broses.