Introduction

Cyflwyniad

Elderly man and young woman taking a self portrait

Attachment is a theory that explains how a child interacts with the adults caring for them.

Where there is a healthy attachment, the child is confident that the adult will look after their needs for food, comfort, stimulation and care. This gives the child a secure base from which they can explore, developing confidence and positive self-esteem. Adults who experienced positive attachment as infants are more likely to form more satisfying adult relationships.

Where there is poor attachment and a child cannot rely on those around them to care for them and respond to their needs, they may become anxious, insecure and have low self-esteem. Poor attachment in safeguarding cases can have an influence on any decision to remove children from their carers.

John Bowlby (1907 – 1990) considered that poor attachment in the early years can lead to an increase in aggression and ‘affectionless psychopathy’ where an individual cannot show affection or concern for others.

Adult Attachment

We often find that adults form attachments with the individuals that care for them. Individuals with dementia and mental health issues often form attachments.

Early attachment experiences form an important foundation for our later social and emotional development and for our mental health. An individual’s attachment trait often stays with them into adulthood and can become a model for the way individuals interact with others as adults.

Secure attachment helps children and adults learn positive ways to manage feelings, relationships and stressful situations. It also contributes to the development of trust, autonomy and self-esteem.

Insecure attachment does not necessarily increase the risk of a disorder, but can present certain challenges to people’s well-being. These may include low self-esteem, difficulty trusting others and finding it hard to manage difficult feelings.

Damcaniaeth sy'n esbonio'r ffordd y mae plentyn yn rhyngweithio â'r oedolion sy'n gofalu amdano yw ymlyniad.

Os oes ymlyniad iach, mae'r plentyn yn hyderus y bydd yr oedolyn yn diwallu ei anghenion o ran bwyd, cysur, ysgogiad a gofal. Mae hyn yn rhoi sylfaen ddiogel i'r plentyn ar gyfer archwilio, gan fagu hyder a hunan-barch cadarnhaol. Mae oedolion a brofodd ymlyniad cadarnhaol yn fabanod yn fwy tebygol o ffurfio cydberthnasau sy'n rhoi mwy o foddhad fel oedolion.

Os oes ymlyniad gwael, ni all plentyn dibynnu ar y rhai o'i gwmpas i ofalu amdano ac ymateb i'w anghenion. Gall fynd yn bryderus, yn ansicr a chael hunan-barch isel. Mewn achosion diogelu, gall ymlyniad gwael ddylanwadu ar unrhyw benderfyniad i fynd â phlant oddi wrth eu gofalwyr.

Roedd John Bowlby (1907 – 1990) o'r farn y gall ymlyniad gwael yn y blynyddoedd cynnar arwain at gynnydd mewn ymddygiad ymosodol a ‘seicopathi dideimlad’ lle na all unigolyn ddangos anwyldeb na phryder tuag at eraill.

Ymlyniad Oedolion

Yn aml, gwelwn fod oedolion yn ffurfio ymlyniadau â'r unigolion sy'n gofalu amdanynt. Bydd unigolion â dementia a phroblemau iechyd meddwl yn aml yn ffurfio ymlyniadau.

Mae profiadau cynnar o ymlyniad yn sylfaen bwysig i'n datblygiad cymdeithasol ac emosiynol diweddarach a'n hiechyd meddwl. Bydd nodwedd ymlyniad unigolyn yn aml yn aros gydag ef pan fydd yn oedolyn, a gall ddod yn fodel ar gyfer y ffordd y bydd unigolion yn rhyngweithio ag eraill fel oedolion.

Mae ymlyniad sicr yn helpu plant ac oedolion i ddysgu ffyrdd cadarnhaol o reoli teimladau, cydberthnasau a sefyllfaoedd sy'n peri straen. Mae hefyd yn cyfrannu at feithrin ymddiriedaeth, ymreolaeth a hunan-barch.

Nid yw ymlyniad ansicr yn cynyddu'r risg o anhwylder o reidrwydd, ond gall gyflwyno heriau penodol i lesiant pobl. Gall y rhain gynnwys hunan-barch isel, ei chael hi'n anodd ymddiried mewn pobl a'i chael hi'n anodd rheoli teimladau anodd.

Drag the impacts on adulthood to the correct childhood experiences.

Llusgwch yr effeithiau ar unigolyn pan fydd yn oedolyn tuag at y profiadau yn ystod plentyndod cywir.

Childhood experience

Profiad yn ystod plentyndod

Impact on adulthood

Effaith ar unigolyn pan fydd yn oedolyn

Correct answers

Atebion cywir