A range of health checks are in place to support the health and well-being of individuals:
The NHS Health Check programme is available for all adults aged 40-74.
It assesses risks and gives advice in relation to heart disease, stroke, kidney disease, diabetes and dementia and is carried out every 5 years. Advice given supports lifestyle changes and looks at health and well-being with a preventative focus. https://bit.ly/2VyuJdn
Individuals with learning disabilities often have poorer physical and mental health than others. Because of this, annual health checks are in place for adults and young people over the age of 14 with learning disabilities.
The health check includes:
If a learning disability has a specific cause, additional tests may be completed if there is a risk e.g. for those with Down’s Syndrome a thyroid check may be completed.
This screening helps detect potential problems before there are symptoms. A Faecal Occult Blood Test (FOBt) is sent through the post and stool samples are analysed.
This screening detects abnormalities in a woman’s cervix. All women aged 25-64 are eligible for free screening every 3-5 years
A blood test that checks for cholesterol (a type of fat) in the blood. High levels of cholesterol increase the risk of heart attack or stroke. If cholesterol is high it can be reduced by exercise, losing weight, dietary change and medication.
A cuff is put around the upper arm and inflated to take blood pressure. High blood pressure increases the risk of heart disease, stroke and kidney disease. If blood pressure is high, lifestyle changes will be suggested alongside medication.
Breast screening detects abnormalities at an early stage. Screening is offered to women aged 50-70.
http://www.breasttestwales.wales.nhs.uk/home
Carried out according to individual needs every 6 months-2 years. These check teeth, gums and tongue and help keep the mouth healthy. Advice will be given on dental health, diet, smoking and alcohol.
AAA screening is offered to men over 65. It checks whether the main artery supplying blood to the body shows any sign of swelling. A ruptured or split artery carries a high risk of dying so finding an aneurysm early can save a life.
http://www.aaascreening.wales.nhs.uk/home
The newborn hearing test helps identify hearing problems in babies as soon as possible so that support can be given to the child and the parents.
Newborn bloodspot screening is part of a range of post-natal tests to check on a baby’s health. It happens on the 5th day of a baby’s life, when a small blood sample is taken from a baby’s heel and tested for diseases that may cause serious illness or even death if not treated early.
These tests are offered to all pregnant women at different stages throughout their pregnancy to check that the baby is growing as expected and to identify the risk of certain syndromes such as Down’s and Patau’s syndrome. The full range of tests will be offered, it is up to the parents to decide which they want to have.
Mae amrywiaeth o archwiliadau iechyd ar gael i gefnogi iechyd a llesiant unigolion:
Mae rhaglen Archwiliadau Iechyd y GIG ar gael i bob oedolyn rhwng 40 a 74 oed.
Mae'n asesu risgiau ac yn rhoi cyngor mewn perthynas â chlefyd y galon, strôc, clefyd yr arennau, diabetes a dementia ac fe'i cynhelir bob pum mlynedd. Mae'r cyngor a roddir yn cefnogi newidiadau mewn ffordd o fyw ac yn ystyried iechyd a llesiant gan ganolbwyntio ar atal. https://bit.ly/2VyuJdn
Yn aml, bydd gan unigolion ag anableddau dysgu iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwaeth na phobl eraill. Oherwydd hyn, mae archwiliadau iechyd blynyddol ar gael i oedolion a phobl ifanc dros 14 oed sydd ag anableddau dysgu.
Mae'r archwiliad iechyd yn cynnwys:
Os oes achos penodol i anabledd dysgu, gellir cynnal profion ychwanegol os oes risg, e.e. i'r rhai sydd â Syndrom Down, mae'n bosibl y caiff archwiliad o'r thyroid ei gynnal.
Mae'r prawf sgrinio hwn yn helpu i ganfod problemau posibl cyn bod symptomau. Caiff Prawf Gwaed Cudd yn yr Ysgarthion ei anfon drwy'r post a chaiff samplau carthion eu dadansoddi.
Mae'r prawf sgrinio hwn yn canfod annormaleddau yng ngheg y groth. Mae pob menyw rhwng 25 a 64 oed yn gymwys i gael ei sgrinio am ddim bob 3-5 mlynedd
Prawf gwaed sy'n profi am golesterol (math o fraster) yn y gwaed. Mae lefelau uchel o golesterol yn cynyddu'r risg o drawiad ar y galon neu strôc. Os yw'r colesterol yn uchel, gellir ei leihau drwy wneud ymarfer corff, colli pwysau, newid deiet a chymryd meddyginiaeth.
Caiff cyffen ei roi o gwmpas rhan uchaf y fraich a'i lenwi ag aer er mwyn mesur pwysedd gwaed. Mae pwysedd gwaed uchel yn cynyddu'r risg o glefyd y galon, strôc a chlefyd yr arennau. Os yw'r pwysedd gwaed yn uchel, caiff newidiadau mewn ffordd o fyw eu hawgrymu ochr yn ochr â meddyginiaeth.
Mae sgrinio'r fron yn canfod annormaleddau yn gynnar. Caiff profion sgrinio eu cynnig i fenywod rhwng 50 a 70 oed.
http://www.breasttestwales.wales.nhs.uk/home
Cânt eu cynnal yn unol ag anghenion unigol bob 6 mis–2 flynedd. Mae'r rhain yn archwilio'r dannedd, y deintgig a'r tafod, ac maent yn helpu i gadw'r geg yn iach. Rhoddir cyngor ar iechyd deintyddol, deiet, ysmygu ac alcohol.
Cynigir y profion hyn i ddynion dros 65 oed. Maent yn edrych i weld p'un a yw'r brif rydweli sy'n cyflenwi gwaed i'r corff yn dangos unrhyw arwyddion ei bod wedi chwyddo. Mae rhydweli wedi'i rhwygo neu ei hollti yn peri risg uchel o farwolaeth, felly gall canfod ymlediad yn gynnar achub bywyd.
http://www.aaascreening.wales.nhs.uk/hafan
Mae'r prawf clyw i fabanod yn helpu i ganfod problemau â chlyw babanod cyn gynted â phosibl er mwyn gallu rhoi cymorth i'r plentyn a'i rieni.
Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn rhan o ystod o brofion ôl-enedigol a gynhelir i gadw golwg ar iechyd babi. Mae'n digwydd ar bumed diwrnod bywyd babi, pan gaiff sampl fach o waed ei chymryd o sawdl babi a'i phrofi am glefydau a all achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth os na chânt eu trin yn gynnar.
Caiff y profion hyn eu cynnig i bob menyw feichiog ar wahanol gamau drwy gydol beichiogrwydd er mwyn gweld a yw'r babi'n tyfu'n unol â'r disgwyl a nodi'r risg o syndromau penodol fel syndrom Down a syndrom Patau. Cynigir yr ystod lawn o brofion, a lle'r rhieni yw penderfynu pa rai yr hoffent eu cael.
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Well done. You have matched them all correctly.
Da iawn. Rydych wedi paru pob un yn gywir.
Checks Archwiliadau |
Descriptions Disgrifiadau |
Correct answers |
---|