Introduction

Cyflwyniad

Physical, social, intellectual, emotional graph

Meaningful activities can benefit individuals in a variety of ways:

  • physically, by helping to improve the body and can include movement and cardiovascular benefits
  • intellectually, by helping to develop the mind and improve memory, understanding and language
  • emotionally, by helping to improve mood, helping relaxation and encouraging self-esteem and confidence
  • socially, by encouraging relationships with others, promoting communication and interaction.
Graff corfforol, cymdeithasol, deallusol, emosiynol

Gall gweithgareddau ystyrlon fod yn fanteisiol i unigolion mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • yn gorfforol, drwy helpu i wella'r corff a gall gynnwys manteision symudiad a chardiofasgwlaidd
  • yn ddeallusol, drwy helpu i ddatblygu'r meddwl a gwella'r cof, dealltwriaeth ac iaith
  • yn emosiynol, drwy helpu i godi hwyliau, helpu i ymlacio a meithrin hunan-barch a hyder
  • yn gymdeithasol, drwy feithrin perthynas gydag eraill, hyrwyddo cyfathrebu a rhyngweithio.

Physical benefits of engagement in activities and experiences

Manteision corfforol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Coach helping girl on cheerleading team

Meaningful activities can benefit individuals physically by helping to develop gross and fine motor skills. Gross motor skills are skills that require the large muscles in the body to move. This can include running, walking, jumping etc. Fine motor skills, on the other hand, are movements that involve smaller muscles in the body and the hands and fingers. This can include picking up a cup, drawing and holding things such as a book.

If an individual has mobility issues or a disability, various activities could help develop/improve both fine and gross motor skills.

Other physical benefits could include strengthening muscle tone and stamina, improving coordination and improving the cardiovascular system.

For example, taking part in imaginative activities such as drama, or physical activities such as walking or dance could benefit individuals physically as it could help develop muscle tone and increase stamina and fitness.

Activities such as sewing and painting could promote fine motor skills as the fingers and hands are being used to create patterns and images.

Gall gweithgareddau ystyrlon fod yn fanteisiol yn gorfforol i unigolion drwy helpu i ddatblygu sgiliau echddygol bras a manwl. Mae sgiliau echddygol bras yn sgiliau sy'n gofyn am symud cyhyrau mawr y corff. Gall hyn gynnwys rhedeg, cerdded, neidio ac ati. Sgiliau echddygol manwl, ar y llaw arall, yw symudiadau sy'n ymwneud â chyhyrau llai y corff ac sy'n cynnwys y dwylo a'r bysedd. Gall hyn gynnwys codi cwpan, tynnu llun a gafael mewn eitemau fel llyfrau.

Os yw unigolyn wedi cael problemau symudedd neu anabledd, gallai gwahanol weithgareddau helpu i ddatblygu/gwella sgiliau echddygol manwl a bras.

Gallai manteision corfforol eraill gynnwys cryfhau ffurfder cyhyrau a stamina, gwella cydsymud a gwella'r system gardiofasgwlar.

Er enghraifft, gallai cymryd rhan mewn gweithgareddau llawn dychymyg fel drama, neu weithgareddau corfforol fel cerdded neu ddawnsio fod yn fanteisiol yn gorfforol i unigolion gan y gallai helpu i ddatblygu ffurfder cyhyrau a gwella stamina a ffitrwydd.

Gallai gweithgareddau fel gwnïo a pheintio wella sgiliau echddygol manwl gan fod y bysedd a'r dwylo yn cael eu defnyddio i greu patrymau a delweddau.

Physical benefits of engagement in activities and experiences

Looking at the images of different activities below, identify the physical benefits for an individual taking part in the activity.

Manteision corfforol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Edrychwch ar y lluniau o weithgareddau gwahanol isod, a nodwch y manteision corfforol i rywun sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Enjoying some afternoon entertainment
Dancing can help promote gross motor skills as individuals will use their legs and arms in a coordinated way in time with music. Dancing can also promote endurance and stamina, particularly if it is done for long periods of time. Gall dawnsio helpu i wella sgiliau echddygol bras oherwydd bydd unigolion yn defnyddio eu coesau a'u breichiau drwy gydsymud mewn amser i'r gerddoriaeth. Gall dawnsio hefyd helpu i wella dygnwch a stamina, yn enwedig os bydd rhywun yn ei wneud am gyfnodau hir.
Child drawing a happy family
Drawing can benefit individuals physically as fine motor skills are used when holding a pencil. It can also help coordination. Gall tynnu llun fod yn fanteisiol yn gorfforol i unigolion oherwydd mae sgiliau echddygol manwl yn cael eu defnyddio wrth afael mewn pensil. Gall hefyd helpu cydsymud.
Elderly couple gardening
Gardening can be very physical work that requires stamina and has many physical benefits. It can give the cardiovascular system a good work out. It helps to improve balance and can strengthen muscles in the arms, legs and back. Gardening can also increase hand strength as fine motor skills are being used. Gall garddio fod yn waith corfforol iawn sy'n gofyn am stamina ac mae'n fanteisiol iawn yn gorfforol. Gall roi ymarfer da i'r system gardiofasgwlar. Mae'n helpu i wella cydbwysedd, a gall gryfhau cyhyrau yn y breichiau, coesau a'r cefn. Gall garddio hefyd gryfhau'r dwylo gan fod sgiliau echddygol manwl yn cael eu defnyddio.

Intellectual benefits of engagement in activities and experiences

Manteision deallusol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Writing a letter

Meaningful activities can benefit individuals intellectually and help to develop the brain. Intellectual benefits of taking part in different activities can include developing an understanding of different concepts, developing language, improving memory and concentration, stimulating imagination and learning new skills.

For example, puzzles and word searches can all help to promote problem solving skills and to improve concentration.

Reading books can help individuals learn about places they haven’t been to and stimulate the imagination. Books can also promote language in terms of learning new words and how to spell them.

During group activities such as football or cooking, individuals will use language to help them make sense of things by asking questions.

Overall, meaningful activities can improve intellectual functioning.

Gall gweithgareddau ystyrlon fod yn fanteisiol i unigolion yn ddeallusol a chanolbwyntio ar ddatblygu'r ymennydd. Gall manteision deallusol cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol gynnwys datblygu dealltwriaeth o gysyniadau gwahanol, datblygu iaith, gwella'r cof a'r gallu i ganolbwyntio, ysgogi'r dychymyg a dysgu sgiliau newydd.

Er enghraifft, gall posau a chwileiriau oll helpu i wella sgiliau datrys problemau a’r gallu i ganolbwyntio.

Gall darllen llyfrau helpu unigolion i ddysgu am leoedd nad ydyn nhw wedi ymweld â nhw ac ysgogi'r dychymyg. Gall llyfrau hefyd hybu iaith o ran dysgu geiriau newydd a sut i sillafu'r geiriau.

Yn ystod gweithgareddau grŵp fel pêl-droed neu goginio, bydd unigolion yn defnyddio iaith er mwyn eu helpu i wneud synnwyr o bethau drwy ofyn cwestiynau.

Yn gyffredinol, gall gweithgareddau ystyrlon wella deallusrwydd.

Intellectual benefits of engagement in activities and experiences

Look at the images of different activities below. Identify the intellectual benefits for an individual taking part in the activity.

Manteision deallusol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Edrychwch ar y lluniau o'r gweithgareddau gwahanol isod. Nodwch y manteision deallusol i unigolyn sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Doing a crossword puzzle
Doing crosswords can help to stimulate problem-solving skills and can also help to learn about new words and topics. Mae gwneud croeseiriau yn gallu helpu i ysgogi sgiliau datrys problemau a gall hefyd fod o gymorth i ddysgu am eiriau a thestunau newydd.
Writing a letter
Writing can stimulate the imagination. It can encourage literacy and help individuals to express themselves in different ways. Gall ysgrifennu ysgogi'r dychymyg. Gall hybu llythrennedd a helpu unigolion i fynegi eu hunain mewn ffyrdd gwahanol.
Children playing
Role play can help stimulate a child’s imagination and help them to learn about different roles in society (e.g. shop keepers). They may use props to make sense of different concepts and to act out roles, which can encourage their understanding. Gall chwarae rôl helpu i ysgogi dychymyg plentyn a'i helpu i ddysgu am rolau gwahanol mewn cymdeithas (e.e. siopwyr). Efallai y byddan nhw'n defnyddio propiau i wneud synnwyr o gysyniadau gwahanol ac actio'r rolau, a gall hyn wella eu dealltwriaeth.

Emotional benefits of engagement in activities and experiences

Manteision emosiynol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Little girl playing in sand

There are many emotional benefits for individuals who participate in meaningful and creative activities. This can include:

  • relaxation
  • pleasure
  • having the opportunity to express themselves
  • building self-esteem
  • building confidence
  • feeling a sense of achievement
  • alleviating boredom.

For example, painting can allow individuals to express themselves. It can also create feelings of pleasure and help individuals to relax. Other activities such as singing can help to relieve tension and alleviate boredom. If singing as part of a group, it can help an individual to feel part of something, which in turn can help them to feel a sense of achievement. Activities that encourage the use of touch can help to release stress and tension.

Mae llawer o fanteision emosiynol i unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon a chreadigol. Gall y rhain gynnwys:

  • ymlacio
  • pleser
  • cael cyfle i fynegi eu hunain
  • meithrin hunan-barch
  • magu hyder
  • ymdeimlad o gyflawniad
  • lleihau diflastod.

Er enghraifft, gall peintio roi cyfle i unigolion fynegi eu hunain. Gall hefyd greu teimladau o bleser a helpu unigolion i ymlacio. Mae gweithgareddau eraill fel canu yn gallu helpu i gael gwared ar densiwn a lleihau diflastod. Os yw rhywun yn canu mewn grŵp, gall helpu'r unigolyn i deimlo yn rhan o rywbeth, a gall hyn yn ei dro helpu i greu ymdeimlad o gyflawniad. Gall gweithgareddau sy'n annog defnyddio’r synnwyr cyffwrdd helpu i leihau straen a thensiwn.

Emotional benefits of engagement in activities and experiences

Looking at the images of different activities below, identify the emotional benefits for an individual taking part in the activity.

Manteision emosiynol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Edrychwch ar y lluniau o weithgareddau gwahanol isod, a nodwch y manteision emosiynol i rywun sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Pottery on wheel
Pottery can be beneficial in many ways. Individuals may feel a sense of achievement for creating something, which can increase self-esteem. Pottery uses touch, which can help to relieve stress and tension. Gall crochenwaith fod yn fanteisiol mewn llawer o ffyrdd. Gall unigolion gael ymdeimlad o gyflawniad wrth greu rhywbeth, a gall hyn feithrin hunan-barch. Mae crochenwaith yn defnyddio cyffyrddiad a gall hyn helpu i leihau straen a thensiwn.
Little girl playing in sand
Using sand encourages the use of touch, where children can develop knowledge about the use of textures. They can also make things out of the sand. Mae defnyddio tywod yn annog cyffyrddiad, a gall plant ddatblygu gwybodaeth am y defnydd o weadau. Gallan nhw hefyd wneud pethau o'r tywod.
Knitting
Knitting can be a sociable experience, as individuals can attend knitting groups. It can help to relieve boredom, stress and tension. It can encourage creativity and help create a sense of achievement by knitting clothes and other items. Gall gweu fod yn brofiad cymdeithasol, oherwydd gall unigolion fynd i grwpiau gwau. Gall helpu i leihau diflastod, straen a thensiwn. Gall annog creadigrwydd a helpu i greu ymdeimlad o gyflawniad drwy wau dillad ac eitemau eraill.

Social benefits of engagement in activities and experiences

Manteision cymdeithasol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

There are many social benefits to individuals who participate in meaningful and creative activities. This can include:

  • promoting social interaction
  • cooperation with others
  • sharing
  • turn-taking
  • developing friendships
  • improving communication and listening skills.

Taking part in group activities such as cooking can encourage individuals to talk to one another. They may chat about the activity, how they are or just about their day in general. This in turn can encourage friendships. Other activities such as those with rules can encourage cooperation as individuals will need to take turns and follow the rules of the game.

Mae llawer o fanteision cymdeithasol i unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon a chreadigol. Gall y rhain gynnwys:

  • hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol
  • cydweithio gydag eraill
  • rhannu
  • cymryd tro
  • datblygu cyfeillgarwch
  • gwella sgiliau cyfathrebu a gwrando.

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp fel coginio annog unigolion i siarad gyda'i gilydd. Gallan nhw siarad am y gweithgaredd, sut maen nhw'n teimlo neu am eu diwrnod yn gyffredinol. Gall hyn yn ei dro feithrin cyfeillgarwch. Gall gweithgareddau eraill, fel rhai sy’n cynnwys rheolau, annog cydweithio oherwydd bydd yn rhaid i unigolion gymryd tro a dilyn rheolau'r gêm.

Social benefits of engagement in activities and experiences

Look at the images of different activities below. Identify the social benefits for an individual taking part in the activity.

Manteision cymdeithasol cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau

Edrychwch ar y lluniau o'r gweithgareddau gwahanol isod. Nodwch y manteision cymdeithasol i unigolyn sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Actors rehearsing on stage
Drama is a social activity. Individuals interact with one another, which can encourage relationships. If children are taking part in drama, they can learn about different roles in society. Mae drama yn weithgaredd cymdeithasol. Mae unigolion yn rhyngweithio gyda'i gilydd, a gall hyn helpu i greu perthynas. Os yw plant yn cymryd rhan mewn drama, gallan nhw ddysgu am rolau gwahanol mewn cymdeithas.
Bingo playing
Bingo is a group activity that adults tend to take part in. Individuals can interact with one another, and they cooperate and follow the rules of the game. Mae bingo yn weithgaredd grŵp y mae oedolion yn tueddu i gymryd rhan ynddo. Gall unigolion ryngweithio gyda'i gilydd ac maen nhw'n cydweithio ac yn dilyn rheolau'r gêm.
Children playing football
Football is a group activity that has many physical and social benefits. In football, the team will work together towards the same goal, that being to win the match. They must follow the rules of the game and cooperate with one another to win. Communication and effective listening are key factors to consider if the team is to be successful. Mae pêl-droed yn weithgaredd grŵp sydd â llawer o fanteision corfforol a hefyd llawer o fanteision cymdeithasol. Wrth chwarae pêl-droed, bydd y tîm yn gweithio gyda'i gilydd tuag at yr un nod, sef ennill y gêm. Mae'n rhaid iddyn nhw ddilyn rheolau'r gêm a chydweithio er mwyn ennill. Mae cyfathrebu a gwrando yn effeithiol hefyd yn ffactor allweddol yn y gêm, os yw'r tîm am lwyddo.