Introduction

Cyflwyniad

Dentist with client

Oral health is an indicator of overall health, well-being and quality of life. The World Health Organization (WHO) defines oral health as a state of being free from chronic mouth and facial pain, oral and throat cancer, oral sores, birth defects such as cleft lip and palate, periodontal (gum) disease, tooth decay and tooth loss, and other diseases and disorders that affect the oral cavity.

https://bit.ly/2G9SRM5

Mouth care refers to oral hygiene and techniques used to maintain good oral health. Appropriate mouth care prevents infections, pain, and difficulties such as bad breath, dry mouth and thrush.

Good mouth care prevents problems from developing or getting worse. This helps support the general well-being of individuals. Care of teeth and dentures are included.

Mae iechyd y geg yn arwydd o iechyd cyffredinol, llesiant ac ansawdd bywyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio iechyd y geg fel y cyflwr o fod yn rhydd o boen cronig yn y geg a'r wyneb, canser y geg a'r gwddf, doluriau yn y geg, namau geni fel gwefus a thaflod hollt, clefyd periodontol (y deintgig), pydredd dannedd a cholli dannedd, a chlefydau ac anhwylderau eraill sy'n effeithio ar geudod y geg.

https://bit.ly/2G9SRM5

Mae iechyd y geg yn cyfeirio at hylendid y geg a thechnegau a ddefnyddir i gynnal iechyd da yn y geg. Mae gofalu'n briodol am y geg yn atal heintiau, poen ac anawsterau fel arogl drwg ar yr anadl, ceg sych a'r llindag.

Drwy ofalu'n dda am y geg, gellir atal problemau rhag datblygu neu waethygu. Mae hyn yn helpu i gefnogi llesiant cyffredinol unigolion. Mae hyn yn cynnwys gofal am y dannedd a dannedd gosod.

National policy and practice guidance on oral health care

Polisïau cenedlaethol a chanllawiau ymarfer ar gyfer gofal iechyd y geg

Health and Social Care

There are policies and guidelines that ensure that oral health and mouth care are dealt with effectively. These include:

Together for Health: A National Oral Health Plan for Wales (2013-2018). This is a plan to improve oral health and reduce inequalities in Wales.

It looks at:

  • the inequalities in oral disease and who is particularly at risk
  • the need for individuals to take personal responsibility for their oral health
  • how to improve the effectiveness and efficiency of services
  • how to improve the quality of dental services to promote access and health outcomes, in addition to providing excellent treatment.

https://bit.ly/2VEMjHx

1000 lives. This is the national improvement service for NHS Wales delivered by Public Health Wales. The aim is to support improvements in outcomes for individuals using services in Wales.

https://bit.ly/2Xg2YCP

https://bit.ly/1PvMPDp

The All Wales Dental Public Health Team (AWD PHT). This service provides advice and support, primarily for the Health Boards (HBs), NHS Wales Shared Services Partnership, Healthcare Inspectorate Wales, the Welsh Government and dental teams.

The Team aims to:

  • Provide specialist dental public health advice and leadership on oral health issues and dental services.
  • Provide advice for the planning of dental services and the development of policy and strategy.
  • Assess oral health status and the needs and demands of local populations.
  • Advise on screening and surveillance programmes.
  • Advise and assist the implementation of local and national oral health action plans and health promotion programmes.
  • Advise health boards on the monitoring and quality assurance of dental services.
  • Support and advise health boards in poor performance cases.
  • Support research and training in the Specialty of Dental Public Health.

https://bit.ly/2YWaGm4

https://bit.ly/2X2aL7u

Ceir polisïau a chanllawiau sy'n sicrhau yr ymdrinnir yn effeithiol ag iechyd y geg a gofal y geg. Mae’r rhain yn cynnwys:

Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg (2013-18). Cynllun yw hwn i wella iechyd y geg a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Mae'n edrych ar y canlynol:

  • anghydraddoldebau o ran clefyd yn y geg a phwy yn arbennig sy'n wynebu risg
  • yr angen i unigolion gymryd cyfrifoldeb personol am iechyd eu cegau eu hunain
  • sut i wneud gwasanaethau'n fwy effeithiol ac effeithlon
  • sut i wella ansawdd gwasanaethau deintyddol er mwyn hybu mynediad a chanlyniadau iechyd, yn ogystal â rhoi triniaeth ragorol.

https://bit.ly/2LYvjfM

1000 o fywydau. Dyma'r gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y nod yw cefnogi canlyniadau gwell i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau yng Nghymru.

https://bit.ly/2Xg2YCP

https://bit.ly/1PvMPDp

Mae Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus Cymru Gyfan (AWD PHT). Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cyngor a chymorth, yn bennaf i'r Byrddau Iechyd, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru a thimau deintyddol.

Nod y tîm yw:

  • Rhoi cyngor arbenigol ar iechyd deintyddol cyhoeddus ac arweiniad ar faterion yn ymwneud ag iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol.
  • Rhoi cyngor ar gyfer cynllunio gwasanaethau deintyddol a datblygu polisïau a strategaethau.
  • Asesu statws iechyd y geg ac anghenion a gofynion poblogaethau lleol.
  • Rhoi cyngor ar raglenni sgrinio ac arolygu.
  • Cynghori a chynorthwyo'r broses o roi cynlluniau gweithredu lleol a chenedlaethol mewn perthynas ag iechyd y geg a rhaglenni hybu iechyd ar waith.
  • Cynghori byrddau iechyd ar fonitro a sicrhau ansawdd gwasanaethau deintyddol.
  • Cefnogi a chynghori byrddau iechyd mewn achosion o berfformiad gwael.
  • Cefnogi ymchwil a hyfforddiant ym maes Arbenigedd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus.

https://bit.ly/2JZSnZf

https://bit.ly/2X2aL7u

Common oral and dental problems in older people and other individuals who need care and support

Problemau deintyddol a'r geg cyffredin mewn pobl hŷn ac unigolion eraill sydd angen gofal a chymorth

Health and Social Care

Older people and individuals who need care and support may suffer from a range of oral and dental problems.

Tooth wear comes with age and use. Some medical conditions which bring with them reduced mobility, such as arthritis, make toothbrushing difficult. Individuals with dementia are often unable to brush their own teeth. Poor vision can impact on the ability to brush teeth and floss effectively.

Some common problems in the elderly and those who need care and support include:

  • Gum (periodontal) disease – Caused by bacteria in plaque and tartar. Symptoms include irritated, red and bleeding gums.
  • Cavities/decay – Can cause pain, infection and tooth loss.
  • Receding gums – A gradual condition that means that gums shrink away from teeth. Caused by gum diseases, poor dental hygiene and smoking. Increases the likelihood of developing gum disease and tooth loss.
  • Dry mouth (xerostomia) – Decreased saliva production may occur with age or as a side effect of medication (including medication for high blood pressure, high cholesterol, depression). This means sugar and acids may build up in the mouth and increase the chance of cavities. It can also lead to dry and cracked lips and a swollen tongue that makes it difficult to speak and swallow.
  • Bacteria on tongue.
  • Mouth sores.
  • Tooth erosion - Loss of tooth structure caused by acid attacking enamel.
  • Tooth sensitivity.
  • Oral cancer - The chance of oral cancer increases with age and there is an increased risk in those who smoke or drink alcohol.
  • Poor fitting dentures - Can make eating difficult and affect nutrition.

Gall pobl hŷn ac unigolion sydd angen gofal a chymorth ddioddef o amrywiaeth o broblemau deintyddol ac yn y geg.

Bydd dannedd yn treulio wrth heneiddio a chael eu defnyddio. Mae rhai cyflyrau meddygol sy'n arwain at lai o symudedd, fel arthritis, yn ei gwneud hi'n anodd brwsio dannedd. Yn aml, ni all unigolion â dementia frwsio eu dannedd eu hunain. Gall golwg wael effeithio ar y gallu i frwsio dannedd a defnyddio edau ddeintyddol yn effeithiol.

Ymhlith y problemau cyffredin ymhlith yr henoed a'r rhai sydd angen gofal a chymorth mae:

  • Clefyd (periodontol) y deintgig – A achosir gan facteria mewn plac a deintgen. Mae'r symptomau'n cynnwys deintgig llidiog a choch a deintgig yn gwaedu.
  • Ceudodau/pydredd – Gall achosi poen, haint a cholli dannedd.
  • Deintgig enciliol – Cyflwr graddol sy'n golygu bod y deintgig yn crebachu i ffwrdd o'r dannedd. Fe'i achosir gan glefydau yn y deintgig, hylendid deintyddol gwael ac ysmygu. Mae'n cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd y deintgig a cholli dannedd.
  • Ceg sych (xerostomia) - Gellir cynhyrchu llai o boer wrth heneiddio neu fel sgil effaith meddyginiaeth (gan gynnwys meddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, iselder). Golyga hyn y gall siwgr ac asidau gronni yn y geg a chynyddu'r tebygolrwydd o geudodau. Gall hefyd arwain at wefusau sych ac wedi cracio a thafod wedi chwyddo, sy'n ei gwneud hi'n anodd siarad a llyncu.
  • Bacteria ar y tafod.
  • Doluriau yn y geg.
  • Erydu'r dannedd – Colli strwythur y dannedd o ganlyniad i asid yn ymosod ar enamel.
  • Dannedd sensitif.
  • Canser y geg – Mae'r tebygolrwydd o gael canser y geg yn cynyddu ag oedran ac mae pobl sy'n ysmygu neu'n yfed alcohol yn wynebu mwy o risg.
  • Dannedd gosod nad ydynt yn ffitio'n iawn – Gallant ei gwneud hi'n anodd bwyta, ac effeithio ar faethiad.

Why oral health and mouth care are important

Pam bod iechyd a gofal y geg yn bwysig

Health and Social Care

Oral health and mouth care are important for a number of reasons:

  • To support overall health and well-being.
  • To prevent tooth decay and gum disease. Regular brushing and care such as flossing help keep teeth and gums healthy.
  • To prevent infection. Gum disease and infection can lead to cardiovascular disease or respiratory infections.
  • To prevent bad breath which can impact on social interaction.
  • To support positive image and self-esteem. Dental problems can make individuals self-conscious about their appearance.
  • To support good nutrition. Poor dental health may impact on the ability to chew and eat.
  • Missing teeth can cause speech difficulties.

Mae iechyd a gofal y geg yn bwysig am nifer o resymau:

  • Er mwyn cefnogi iechyd a llesiant cyffredinol.
  • Er mwyn atal pydredd dannedd a chlefyd y deintgig. Mae brwsio a gofal rheolaidd fel defnyddio edau ddeintyddol yn helpu i gadw'r dannedd a'r deintgig yn iach.
  • Er mwyn atal haint. Gall clefyd a haint yn y deintgig arwain at glefyd cardiofasgwlar neu heintiau resbiradol.
  • Er mwyn atal arogl drwg ar yr anadl, a all effeithio ar ryngweithio cymdeithasol.
  • Er mwyn cefnogi delwedd a hunan-barch cadarnhaol. Gall problemau deintyddol wneud unigolion yn hunanymwybodol o'u hymddangosiad.
  • Er mwyn cefnogi maethiad da. Gall iechyd deintyddol gwael effeithio ar y gallu i gnoi a bwyta.
  • Gall colli dannedd achosi anawsterau lleferydd.

Potential impacts of poor oral health and mouth care on health, well-being, self-esteem and dignity

Effeithiau posibl iechyd a gofal y geg gwael ar iechyd, llesiant, hunan-barch ac urddas

QuestionCwestiwn Your responseEich ymateb Suggested responseYmateb awgrymedig

Suggested response:

Gall yr atebion gynnwys:

Links between oral health and mouth care and nutrition

Cysylltiadau rhwng iechyd a gofal y geg a maeth

Older lady eating cake

Good nutrition is essential to all aspects of health care. Where there is poor diet the mouth may be less able to resist infection.

A poor diet can lead to gum disease and tooth decay. Foods high in carbohydrates, sugars and starches contribute to the production of plaque acids that attack the tooth enamel. These acids can cause tooth enamel to break down, forming a cavity. Eating non-acidic foods helps avoid enamel wear and keep the mouth healthy.

Foods that contain sugars of any kind can contribute to tooth decay, gum disease, inflammation and obesity.

Vitamin D is important for oral health as it allows calcium to be absorbed. Without it, there can be underdeveloped teeth, gum disease and tooth decay.

Too little vitamin C will lead to bleeding gums and loose teeth.

Where nutrition is poor the first signs are often seen in dental health.

If an individual is missing teeth or if they have a toothache, good nutrition is compromised as the individual is unable to eat and chew properly.

Mae maethiad da yn hanfodol i bob agwedd ar ofal iechyd. Os yw deiet unigolyn yn wael, mae'n bosibl na fydd y geg yn gallu gwrthsefyll haint cystal.

Gall deiet gwael arwain at glefyd y deintgig a phydredd dannedd. Mae bwydydd sy'n cynnwys llawer o garbohydradau, siwgr a startsh yn cyfrannu at gynhyrchu asidau plac sy'n gallu ymosod ar enamel y dannedd. Gall yr asidau hyn achosi i enamel y dannedd erydu, gan ffurfio ceudod. Mae bwyta bwydydd nad ydynt yn asidig yn helpu i osgoi traul yr enamel a chadw'r geg yn iach.

Gall bwydydd sy'n cynnwys siwgr o unrhyw fath gyfrannu at bydredd dannedd, clefyd y deintgig, llid a gordewdra.

Mae fitamin D yn bwysig ar gyfer iechyd y geg am ei fod yn galluogi'r corff i amsugno calsiwm. Hebddo, mae'n bosibl na fydd y dannedd wedi'u datblygu'n ddigonol a gall fod clefyd y deintgig a phydredd dannedd.

Bydd rhy ychydig o fitamin C yn arwain at ddeintgig yn gwaedu a dannedd rhydd.

Os yw maethiad unigolyn yn wael, bydd yr arwyddion cyntaf yn aml i'w gweld yn ei iechyd deintyddol.

Os oes gan unigolyn ddannedd ar goll neu os oes ganddo'r ddannodd, bydd hyn yn effeithio ar faethiad am na all fwyta na chnoi yn iawn.

Links between oral health and mouth care and nutrition

Drag the words to the correct spaces

Cysylltiau rhwng iechyd a gofal y geg a maeth

Llusgwch y geiriau i'r bylchau cywir

Your Answers

Good nutrition is essential to all aspects of the health of an individual; where nutrition is poor it is often first seen in dental health. If an individual has a poor diet, their immune system may be affected and they will be less able to resist infection. A poor diet can lead to gum disease and tooth decay. Foods that are high in carbohydrates, sugars and starches lead to plaque which in turn attacks the tooth enamel and cause it to break down, forming a cavity. Eating non-acidic foods helps avoid enamel wear and keep the mouth healthy. Sugar in foods leads to tooth decay, gum disease and inflammation. Vitamin D in the diet is important for oral health as it allows calcium to be absorbed. Without it, there can be underdeveloped teeth, gum disease and tooth decay. If there isn’t enough vitamin C, this will lead to bleeding gums and loose teeth.

Correct answers

Good nutrition is essential to all aspects of the health of an individual; where nutrition is poor it is often first seen in dental health. If an individual has a poor diet, their immune system may be affected and they will be less able to resist infection. A poor diet can lead to gum disease and tooth decay. Foods that are high in carbohydrates, sugars and starches lead to plaque which in turn attacks the tooth enamel and cause it to break down, forming a cavity. Eating non-acidic foods helps avoid enamel wear and keep the mouth healthy. Sugar in foods leads to tooth decay, gum disease and inflammation. Vitamin D in the diet is important for oral health as it allows calcium to be absorbed. Without it, there can be underdeveloped teeth, gum disease and tooth decay. If there isn’t enough vitamin C, this will lead to bleeding gums and loose teeth.

Eich ymateb

Mae maethiad da yn hanfodol i bob agwedd ar iechyd unigolyn; os yw maethiad unigolyn yn wael, bydd hyn yn aml i'w weld gyntaf yn ei iechyd deintyddol. Os yw deiet unigolyn yn wael, gall hyn effeithio ar ei system imiwnedd ac ni fydd yn gallu gwrthsefyll haint cystal. Gall deiet gwael arwain at glefyd y deintgig a phydredd dannedd. Mae bwydydd sy'n cynnwys llawer o garbohydradau, siwgr a startsh yn arwain at greu plac sydd, yn ei dro, yn ymosod ar enamel y dannedd ac yn achosi iddo erydu, gan ffurfio ceudod. Mae bwyta bwydydd nad ydynt yn asidig yn helpu i osgoi traul yr enamel a chadw'r geg yn iach. Mae siwgr mewn bwydydd yn tueddu i arwain at bydredd dannedd, clefyd y deintgig a llid. Mae fitamin D yn y deiet yn bwysig ar gyfer iechyd y geg am ei fod yn galluogi'r corff i amsugno calsiwm. Hebddo, mae'n bosibl na fydd y dannedd wedi'u datblygu'n ddigonol a gall fod clefyd y deintgig a phydredd dannedd. Os nad oes digon o fitamin C, bydd hyn yn arwain at ddeintgig yn gwaedu a dannedd rhydd.

Atebion cywir

Mae maethiad da yn hanfodol i bob agwedd ar iechyd unigolyn; os yw maethiad unigolyn yn wael, bydd hyn yn aml i'w weld gyntaf yn ei iechyd deintyddol. Os yw deiet unigolyn yn wael, gall hyn effeithio ar ei system imiwnedd ac ni fydd yn gallu gwrthsefyll haint cystal. Gall deiet gwael arwain at glefyd y deintgig a phydredd dannedd. Mae bwydydd sy'n cynnwys llawer o garbohydradau, siwgr a startsh yn arwain at greu plac sydd, yn ei dro, yn ymosod ar enamel y dannedd ac yn achosi iddo erydu, gan ffurfio ceudod. Mae bwyta bwydydd nad ydynt yn asidig yn helpu i osgoi traul yr enamel a chadw'r geg yn iach. Mae siwgr mewn bwydydd yn tueddu i arwain at bydredd dannedd, clefyd y deintgig a llid. Mae fitamin D yn y deiet yn bwysig ar gyfer iechyd y geg am ei fod yn galluogi'r corff i amsugno calsiwm. Hebddo, mae'n bosibl na fydd y dannedd wedi'u datblygu'n ddigonol a gall fod clefyd y deintgig a phydredd dannedd. Os nad oes digon o fitamin C, bydd hyn yn arwain at ddeintgig yn gwaedu a dannedd rhydd.

Professionals that may help with oral health care

Gweithwyr proffesiynol a all helpu gyda gofal iechyd y geg

Dentist examining teeth

Many professionals work in the field of oral health care. These include:

Dentist - Diagnoses, manages and treats general oral care needs such as fillings, root canal treatment, crowns, gum care.

Endodontist - Deals with specialised procedures.

Dental hygienist - Cleans and advises on hygiene issues. Carry out procedures such as polishing, scaling.

Community Dental Professionals - Provide support in the community or home for those unable to access dental surgeries e.g. due to additional needs or age.

Orthodontist - Specialises in the prevention, diagnosis and treatment of dental problems that affect the teeth, jaw and their structures. They will identify if braces are needed and straighten teeth.

Oral and maxillofacial surgeon - Responsible for surgery involving mouth, jaw or face. Treat patients with cysts or tumours.

Periodontist - Specialises in prevention, diagnosis and treatment of diseases affecting soft tissues in the mouth including bones and gums.

Prosthodontist - Responsible for providing oral prostheses that replace damaged, decayed or missing teeth.

Oral pathologist - Studies different causes of diseases. May carry out a biopsy on areas of concern and have them tested.

Dental technicians - Creates crowns, dentures, braces.

Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn gweithio ym maes gofal iechyd y geg. Mae’r rhain yn cynnwys:

Deintydd - Yn trin, rheoli a rhoi diagnosis o anghenion gofal iechyd cyffredinol y geg fel llenwadau, triniaeth sianel y gwreiddyn, corunau a gofal y deintgig.

Endodontydd - Delio â thriniaethau arbenigol.

Hylenydd deintyddol - Glanhau ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â hylendid. Mae'n cyflawni triniaethau fel llathru a digennu.

Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol Cymunedol - Rhoi cymorth yn y gymuned neu'r cartref i bobl na allant fynd i ddeintyddfeydd, e.e. oherwydd anghenion ychwanegol neu oedran.

Orthodontydd - Arbenigo mewn atal, trin a rhoi diagnosis o broblemau deintyddol sy'n effeithio ar y dannedd, yr ên a'u strwythurau. Bydd yn nodi a oes angen ffrâm ddannedd ac yn sythu dannedd.

Llawfeddyg y geg a genol-wynebol - Yn gyfrifol am lawfeddygaeth sy'n ymwneud â'r geg, yr ên neu'r wyneb. Mae'n trin cleifion â chodenni neu diwmorau.

Periodontydd - Arbenigo mewn atal, trin a rhoi diagnosis o glefydau sy'n effeithio ar feinweoedd meddal yn y geg gan gynnwys esgyrn a deintgig.

Prosthodontydd - Yn gyfrifol am ddarparu prosthesisau'r geg sy'n cymryd lle dannedd sydd wedi'u niweidio, sydd wedi pydru neu sydd ar goll.

Patholegydd y geg - Astudio gwahanol achosion clefydau. Gall gynnal biopsi ar bethau sy'n peri pryder a threfnu eu bod yn cael eu profi.

Technegwyr deintyddol - Creu corunau, dannedd gosod a fframiau dannedd.

Professionals that may help with oral health care

Drag the roles and responsibilities to the correct oral health care professional

Gweithwyr proffesiynol a all helpu gyda gofal iechyd y geg

Llusgwch y rolau a'r cyfrifoldebau at y gweithiwr proffesiynol gofal iechyd y geg cywir

.

Oral health care professional

Gweithiwr proffesiynol gofal iechyd

Roles and responsibilities

Rolau a'r cyfrifoldebau

Correct answers

Atebion cywir