The importance of foot care for individuals

Pwysigrwydd gofal y traed i unigolion

Foot being treated with cream

It is important for individuals to follow good foot care guidance in order to prevent problems and to treat any arising or existing problems before they impact on an individual’s ability to carry out tasks and function. While foot problems can occur at any age, they increase as an individual gets older.

Daily activities such as walking, shopping, visiting friends and family, working and exercising are dependent upon mobility. Foot problems may lead to impaired mobility. If individuals are unable to carry out these daily activities, their quality of life is affected. If any individual alters the way they walk because of foot problems or pain, they are more susceptible to falls.

Reducing or stopping daily activities may impact on the well-being of an individual, reduce their social interaction and increase the likelihood of depression. Individuals may experience a reduction in independence, which can affect their confidence and well-being.

In the workplace, foot pain and reduced mobility may affect productivity and performance, resulting in lower efficiency and effectiveness. This will affect self-esteem and well-being.

Foot health may limit an individual’s ability to exercise which could affect their general health, feelings of well-being and weight. There can result in loss of muscle and strength and a higher risk of diseases such as diabetes and heart disease. Social opportunities from exercise and well-being will also be affected.

Surgery for foot problems may result in long-term disability and mobility issues that will change an individual’s lifestyle and impact on their quality of life and well-being.

For those with diabetes, foot care is particularly important. High blood sugar can cause circulation problems (peripheral neuropathy) and nerve damage. Poor foot care can also lead to infections which are difficult to treat because of poor circulation.

Good foot care has benefits such as:

  • reducing pain
  • increasing mobility and physical activity
  • increasing self-esteem and confidence
  • increasing and supporting social contact, sport and exercise
  • reducing the risk of trips and falls.

Mae'n bwysig i unigolion ddilyn canllawiau ar ofal y traed da er mwyn atal problemau a thrin unrhyw broblemau sy'n codi neu sydd eisoes yn bodoli cyn iddynt effeithio ar allu unigolyn i gyflawni tasgau a gweithredu. Er y gall problemau traed godi ar unrhyw oedran, byddant yn cynyddu wrth i unigolyn fynd yn hŷn.

Mae gweithgareddau dyddiol fel cerdded, siopa, ymweld â theulu a ffrindiau, gweithio a gwneud ymarfer corff yn ddibynnol ar symudedd. Gall problemau traed arwain at symudedd diffygiol. Os na all unigolion gyflawni'r gweithgareddau dyddiol hyn, bydd yn effeithio ar ansawdd eu bywyd. Os bydd unrhyw unigolyn yn newid y ffordd y mae'n cerdded oherwydd problemau neu boen traed, bydd yn fwy tueddol o gwympo.

Gall lleihau neu atal gweithgareddau dyddiol effeithio ar lesiant unigolyn, lleihau ei ryngweithio cymdeithasol a chynyddu'r tebygolrwydd o iselder. Gall unigolion fod yn llai annibynnol, a all effeithio ar eu hyder a'u llesiant.

Yn y gweithle, gall poen traed a llai o symudedd effeithio ar gynhyrchiant a pherfformiad, gan arwain at lai o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Bydd hyn yn effeithio ar hunan-barch a llesiant.

Gall iechyd y traed gyfyngu ar allu unigolyn i wneud ymarfer corff, a allai effeithio ar ei iechyd cyffredinol, ei ymdeimlad o lesiant a'i bwysau. Gall hyn arwain at golli cyhyrau a chryfder a risg uwch o glefydau fel diabetes a chlefyd y galon. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar gyfleoedd cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff a llesiant.

Gall llawdriniaethau ar gyfer problemau traed arwain at anabledd hirdymor a phroblemau symudedd a fydd yn newid ffordd unigolyn o fyw ac yn effeithio ar ansawdd ei fywyd a'i lesiant.

I bobl â diabetes, mae gofal y traed yn arbennig o bwysig. Gall lefelau siwgr uchel yn y gwaed achosi problemau cylchrediad (niwropatheg amgantol) a niwed i'r nerfau. Gall gofal y traed gwael hefyd arwain at heintiau sy'n anodd eu trin oherwydd cylchrediad gwael.

Mae i ofal y traed da fanteision fel:

  • lleihau poen
  • cynyddu symudedd a gweithgarwch corfforol
  • cynyddu hunan-barch a hyder
  • cynyddu a chefnogi cyswllt cymdeithasol, chwaraeon ac ymarfer corff
  • lleihau'r risg o faglu a chwympo.

Common conditions that can cause problems with feet

Cyflyrau cyffredin a all achosi problemau gyda'r traed

Health and Social Care

Common conditions that can cause foot problems include:

Athlete’s foot A fungal infection commonly found between the toes. Causes itching, discomfort and pain.

Bunions - Abnormalities that cause a bump to develop on the large toe joint.

Diabetic neuropathy - Blood sugar levels can damage the nerves and cause a loss of feeling. There is a greater risk of cuts and damage being ignored because of lack of feeling and a risk of infection.

Ingrown toenails - This occurs when the toe starts to grow into the nail groove and causes pain and discomfort.

Plantar fasciitis - Causes heel pain. Can be caused by obesity.

Blisters - Fluid filled pockets. Appear after long periods of walking or running or where there has been ill-fitting footwear.

Corns - Patches of thickened skin. Can be caused by bunions, hammer-toe or ill-fitting shoes. If left they may become painful.

Heel spur - An overgrowth of calcium that develops between the heel bone and arch of the foot. Caused by long term strain on muscles and ligaments.

Claw toe - Where toe joints go in different directions. It may be present from birth or develop suddenly. Varying levels of pain or discomfort may be felt. May be a sign of diabetes, rheumatoid arthritis or cerebral palsy.

Stone bruises (metatarsalgia) - Can appear after high impact exercises or as a result of poorly fitting shoes.

Flat feet - Can occur when arches don’t develop in childhood or after injury.

Raynaud’s Disease - Causes areas of the body such as fingers and toes to feel numb in response to cold temperatures or stress. Smaller arteries that supply blood narrow, limiting blood circulation to affected areas.

Achilles Tendonitis - May be developed from years of stress on the tendon e.g. caused by weight or as a side effect of medication.

Tarsal Tunnel Syndrome - The nerve posterior tibialis becomes trapped causing irritation and pain.

Gout - Caused by too much uric acid. Can be aggravated by certain foods. Causes swelling and pain.

Ymhlith y cyflyrau cyffredin a all achosi problemau gyda'r traed mae:

Tarwden y traed - haint ffwngaidd a welir yn aml rhwng bysedd y traed. Mae'n achosi cosi, anghysur a phoen.

Bynionau - Annormaleddau sy'n peri i lwmp ddatblygu ar gymal bawd y droed.

Niwropatheg ddiabetig - Gall lefelau siwgr yn y gwaed niweidio'r nerfau a gwneud i'r unigolyn golli teimlad. Mae mwy o risg y bydd briwiau a niwed yn cael eu hanwybyddu oherwydd diffyg teimlad, a risg o haint.

Ewinedd yn tyfu i'r byw - Bydd hyn yn digwydd pan fydd ewin bys troed yn dechrau tyfu i mewn i rigol yr ewin ac yn achosi poen ac anghysur.

Plantar fasciitis - Achosi poen yn y sawdl. Gall gael ei achosi gan ordewdra.

Pothelli - Swigod yn llawn hylif. Maent yn ymddangos ar ôl cyfnodau hir o gerdded neu redeg neu ar ôl gwisgo esgidiau nad ydynt yn ffitio'n iawn.

Cyrn - Darnau o groen wedi tewychu. Gallant gael eu hachosi gan fynionau, bawd cam (hammer-toe) neu esgidiau nad ydynt yn ffitio'n iawn. Gallant fynd yn boenus os na chânt eu trin.

Sbardun sawdl - Gordyfiant calsiwm sy'n datblygu rhwng asgwrn y sawdl a phont y droed. Fe'i achosir gan gyfnodau hir o straen ar gyhyrau a ligamentau.

Bawd cam - Pan fydd cymalau bysedd traed yn mynd mewn cyfeiriadau gwahanol. Gall fod yn bresennol o adeg geni neu gall ddatblygu'n sydyn. Gellir teimlo lefelau amrywiol o boen neu anghysur. Gall fod yn arwydd o ddiabetes, arthritis rhiwmatoid neu barlys yr ymennydd.

Cleisiau cerrig (metatarsalgia) - Gallant ymddangos ar ôl ymarfer corff â llawer o wrthdrawiadau neu o ganlyniad i wisgo esgidiau nad ydynt yn ffitio'n iawn.

Traed fflat - Gall ddigwydd pan nad yw pontydd y traed yn datblygu yn ystod plentyndod neu ar ôl anaf.

Clefyd Raynaud - Mae'n achosi i rannau o'r corff fel y bysedd a bysedd y traed fod yn ddideimlad mewn ymateb i dymereddau isel neu straen. Mae'r rhydwelïau llai sy'n cludo gwaed yn culhau, gan gyfyngu ar gylchrediad y gwaed i'r rhannau dan sylw.

Achilles Tendonitis - Gall ddatblygu yn sgil blynyddoedd o straen ar y tendon, e.e. o ganlyniad i bwysau neu fel sgil effaith meddyginiaeth.

Syndrom Twnnel y Tarsol - Mae nerf y cyhyryn tibialis ôl yn mynd yn sownd gan achosi cosi poenus a phoen.

Gowt - A achosir gan ormod o asid wrig. Gall rhai bwydydd ei wneud yn waeth. Mae'n achosi chwyddo a phoen.

Common conditions that can cause problems with feet

Drag the condition to the correct description

Cyflyrau cyffredin a all achosi problemau gyda'r traed

Llusgwch y cyflwr at y disgrifiad cywir

Condition

Cyflwr

Description

Disgrifiad

Correct answer

Atebion cywir

        Signs of foot and toe nail abnormalities

        Arwyddion abnormaleddau gyda'r traed ac ewinedd y traed

        Health and Social Care

        Feet should be checked regularly. If there are signs of any abnormalities, the individual should seek advice in order to avoid potential long-term disability.

        Signs to look for include:

        • pain
        • inflammation
        • itching, stinging or burning feet
        • discolouration on feet
        • pockets of fluid
        • bumps on foot
        • feeling cold or numb
        • swelling to foot
        • change in walking
        • discolouration or changes in nail colour
        • changes in nail shape
        • changes in nail thickness (thickening or thinning)
        • brittle nails
        • pitted nails
        • bleeding around nails
        • swelling or redness around nails.

        Dylid archwilio’r traed yn rheolaidd. Os oes arwyddion o unrhyw annormaleddau, dylai'r unigolyn geisio cyngor er mwyn osgoi unrhyw anabledd hirdymor posibl.

        Ymhlith yr arwyddion y dylid chwilio amdanynt mae:

        • poen
        • llid
        • traed yn cosi, yn pigo neu'n llosgi
        • afliwiad ar y traed
        • swigod o hylif
        • lympiau ar y droed
        • teimlo'n oer neu'n ddideimlad
        • y droed yn chwyddo
        • newid y ffordd o gerdded
        • afliwiad neu newidiadau i liw'r ewinedd
        • newidiadau i siâp yr ewinedd
        • newidiadau i drwch yr ewinedd (tewychu neu deneuo)
        • ewinedd brau
        • ewinedd mân-bantiog
        • gwaedu o amgylch yr ewinedd
        • chwyddo neu gochni o amgylch yr ewinedd.

        Professionals that may help with foot care

        Gweithwyr proffesiynol a all helpu gyda gofal y traed

        Health and Social Care

        There are a range of professionals that can offer advice and support in relation to foot care. These include:

        General Practitioner - Identifies and diagnoses foot problems.

        Orthopaedic Surgeon - Performs surgery to correct foot problems.

        Podiatrist or chiropodist - Treats ingrown toenails, calluses, fallen arches, heel spurs, deformities of the feet, and some common foot and ankle injuries. They can provide treatment for foot problems related to diabetes and other systemic illnesses.

        Diabetes specialist nurse - Checks feet of patients with diabetes. If there is something that requires support, they can refer the patient to a chiropodist or podiatrist.

        Foot clinics / Chiropody clinics - Provide care and services such as nail cutting, dealing with hard skin, corns, cracked heels. Age UK provide foot care services for elderly patients.

        Sports Injury Clinic (musculoskeletal podiatry) - Assesses and deals with foot problems caused by sports injuries.

        Mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a all gynnig cyngor a chymorth mewn perthynas â gofal y traed. Mae’r rhain yn cynnwys:

        Meddyg Teulu - Nodi problemau gyda'r traed ac yn rhoi diagnosis.

        Llawfeddyg Orthopedig - Cyflawni llawdriniaethau er mwyn cywiro problemau gyda'r traed.

        Podiatrydd - Trin ewinedd sy'n tyfu i'r byw, caledennau, traed fflat-wadn (fallen arches), sbardunau sodlau, anffurfiadau'r traed, a rhai anafiadau cyffredin i'r traed a'r pigyrnau. Gallant roi triniaeth ar gyfer problemau gyda'r traed sy'n gysylltiedig â diabetes a mathau eraill o salwch systemig.

        Nyrs arbenigol diabetes - Archwilio traed cleifion â diabetes. Os oes angen cymorth gyda rhywbeth, gall atgyfeirio'r claf at giropodydd neu bodiatrydd.

        Clinigau traed / Clinigau trin traed - Darparu gofal a gwasanaethau fel torri ewinedd, delio â chroen caled, cyrn, sodlau wedi cracio. Mae Age UK yn darparu gwasanaethau gofal y traed i gleifion oedrannus.

        Clinig Anafiadau Chwaraeon (podiatreg gyhyrysgerbydol) - Asesu ac ymdrin â phroblemau gyda'r traed a achosir gan anafiadau chwaraeon.

        Professionals that may help with foot care

        What’s the word (hangman)

        Gweithwyr proffesiynol a all helpu gyda gofal y traed

        Beth yw'r gair (crogwr)