Ways in which death and dying, grief and mourning may impact on individuals and key people in their lives

Ffyrdd y gall marwolaeth a marw, galar a galaru effeithio ar unigolion a phobl allweddol yn eu bywydau

Old man in bed looking at picture

Death, dying, grief and mourning affect individuals and key people in their lives in different ways. There are stages in the cycle of grief and mourning, starting with recognising a loss and moving towards acceptance.

Responses will vary according to the circumstances of a death and whether the death was expected. It may take longer to accept an accident or violent death than a death after a long period of illness.

Five stages of grief have been identified. They may occur in any order or together:

  • denial, disbelief, numbness
  • anger, blame
  • bargaining
  • depressed mood, sadness, and crying
  • acceptance, coming to terms.

Death, dying, grief and mourning can make individuals experience a range of emotions and reactions:

  • crying
  • having trouble sleeping
  • anger
  • guilt
  • anxiety
  • sadness
  • despair
  • changes in appetite
  • physical problems
  • illness
  • tiredness/exhaustion
  • forgetful
  • unable to concentrate
  • not wanting to see friends/family/work colleagues.

Mae marwolaeth, marw, galar a galaru yn effeithio ar unigolion a phobl allweddol yn eu bywydau mewn ffyrdd gwahanol. Mae gwahanol gamau i'r cylch galar a galaru, gan ddechrau gyda chydnabod colled a symud tuag at dderbyn.

Bydd yr ymatebion yn amrywio yn ôl amgylchiadau marwolaeth a ph'un a oedd y farwolaeth yn ddisgwyliedig. Gall gymryd mwy o amser i dderbyn damwain neu farwolaeth dreisgar na marwolaeth ar ôl cyfnod hir o salwch.

Mae pum cam galar wedi cael eu nodi. Gallant ddigwydd mewn unrhyw drefn neu gyda'i gilydd:

  • gwadu, anghrediniaeth, diffyg teimlad
  • dicter, bai
  • bargeinio
  • hwyliau isel, tristwch, a chrïo
  • derbyn, dod i delerau.

Gall marwolaeth, marw, galar a galaru wneud i unigolion brofi amrywiaeth o emosiynau ac ymatebion:

  • crïo
  • ei chael hi'n anodd cysgu
  • dicter
  • euogrwydd
  • gorbryder
  • tristwch
  • anobaith
  • newidiadau i awydd i fwyta
  • problemau corfforol
  • salwch
  • blinder/gorludded
  • anghofus
  • methu â chanolbwyntio
  • ddim am weld ffrindiau/teulu/cydweithwyr.

Ways in which culture, religion and personal beliefs will impact upon approach to death and dying

Ffyrdd y bydd diwylliant, crefydd a chredoau personol yn effeithio ar y dull o ymdrin â marwolaeth a marw

Health and Social Care

An individual’s approach to death and dying will be affected by their culture, religion and personal belief. Each culture has rituals related to the expression of grief. These give a sense of stability and security and bring comfort.

As well as cultural and religious beliefs and rituals, individuals within any culture could have different ways of expressing feelings and responses to grief. Some individuals do not feel at ease crying in public while others will show grief openly. Family background can impact on the way emotions are displayed.

Buddhists: Believe that when they die they will be reborn. They aim to escape the cycle of death and rebirth and reach a state or nirvana or perfect peace. They may ask nuns or priests to carry out Buddhist traditions to ensure a peaceful death as they place importance on an individual’s state of mind at death. It is important to treat the body with respect after death to allow the spirit to carry on its journey, happily. An individual may be buried or cremated.

Catholics: Believe in an afterlife. When an individual is close to death they will be given the Sacrament of the Anointing of the Sick. On the day of the funeral there is a Requiem Mass for the deceased individual with scripture, prayers and hymns. Catholics do not believe in cremation.

Christians: Believe they will go to heaven. A Christian may be either buried or cremated according to their wishes with a service either in a church or crematorium.

Mormons: Believe that at death, the body and spirit separate. Funeral services are generally carried out in a ward chapel or mortuary. Mormons are generally buried rather than cremated.

Greek Orthodox: Believe in eternal life so there is a positive attitude towards death as the deceased is seen as being alive with God. Candles are lit for 40 days asking God for forgiveness on behalf of the deceased. Cremation is not permitted.

Hindus: Believe in reincarnation and that when an individual dies their soul moves from one body to another to reach Nirvana (heaven). Death is a celebration as well as a time of sadness. Hindus are cremated as it is believed that burning the body frees the spirit.

Jehovah’s Witnesses: Believe in resurrection and the idea of a restored paradise on earth. They allow burial or cremation.

Health and Social Care

Jews: Believe that when they die, they go to heaven to be with God. The dying individual should not be left alone. Jews may not be cremated or embalmed. Tears are shed as a sign of sadness and mourners tear clothes off as an expression of grief. Burial takes place as soon as possible after death.

Muslims: Believe the soul lives after death. The body is washed by family and friends after death. They accept death as God’s will. The body is buried within 24 hours, with women not allowed to go to the graveyard.

Sikhs: Believe in reincarnation and an afterlife where the soul meets God. Death is seen as an Act of God and it is forbidden to cry. Cremation is normal except for babies and children.

Humanists: Do not believe in the afterlife. Their view is that death is part of nature’s cycle and the deceased only live on in the memories of loved ones left behind. Humanists hold a positive celebration of the individual’s life before burial or cremation.

Bydd diwylliant, crefydd a chredoau personol unigolyn yn effeithio ar y ffordd y bydd yn ymdrin â marwolaeth a marw. Mae gan bob diwylliant ddefodau mewn perthynas â mynegi galar. Maent yn rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a sicrwydd ac yn rhoi cysur.

Yn ogystal â chredoau a defodau diwylliannol a chrefyddol, gallai fod gan unigolion sy'n rhan o unrhyw ddiwylliant wahanol ffyrdd o fynegi teimladau ac ymatebion i alar. Ni fydd rhai unigolion yn teimlo'n gyfforddus yn crïo'n gyhoeddus, tra bydd eraill yn dangos galar yn agored. Gall cefndir teulu effeithio ar y ffordd y caiff emosiynau eu harddangos.

Bwdhyddion: Maent yn credu y byddant yn cael eu haileni ar ôl marw. Y nod yw ceisio dianc cylch marwolaeth ac ailenedigaeth a chyrraedd cyflwr o nirfana neu heddwch perffaith. Gallant ofyn i leianod neu offeiriaid gyflawni traddodiadau Bwdhaidd er mwyn sicrhau marwolaeth heddychlon am eu bod yn rhoi llawer o bwys ar gyflwr meddwl unigolyn ar adeg marwolaeth. Mae'n bwysig trin y corff â pharch ar ôl marwolaeth er mwyn galluogi'r enaid i barhau â'i daith yn hapus. Gellir claddu neu amlosgi unigolyn.

Catholigion: Maent yn credu yn y bywyd tragwyddol. Pan fydd unigolyn yn agos at farw, bydd Sacrament Eneinio'r Sâl yn cael ei roi iddynt. Ar ddiwrnod yr angladd, ceir Offeren dros y Meirw ar gyfer yr unigolyn a fu farw, yn cynnwys ysgrythur, gweddïau ac emynau. Nid yw Catholigion yn credu mewn amlosgi.

Cristnogion: Maent yn credu y byddant yn mynd i'r nefoedd. Gall Cristion cael ei gladdu neu ei amlosgi yn unol â'i ddymuniadau, gyda gwasanaeth naill ai mewn eglwys neu amlosgfa.

Mormoniaid: Maent yn credu bod y corff a'r enaid yn gwahanu ar adeg marwolaeth. Fel arfer, caiff gwasanaethau angladd eu cynnal mewn capel ward neu gorffdy. Ar y cyfan, caiff Mormoniaid eu claddu yn hytrach na'u hamlosgi.

Eglwys Uniongred Roegaidd: Credu yn y bywyd tragwyddol felly ceir agwedd gadarnhaol tuag at farwolaeth oherwydd ystyrir bod y sawl a fu farw yn fyw gyda Duw. Caiff canhwyllau eu cynnau am 40 diwrnod yn gofyn i Dduw am faddeuant ar ran y sawl a fu farw. Ni chaniateir amlosgi.

Hindŵiaid: Maent yn credu mewn ailymgnawdoliad ac, ar adeg marwolaeth unigolyn, y bydd ei enaid yn symud o un corff i un arall er mwyn cyrraedd Nirfana (y nefoedd). Mae marwolaeth yn amser i ddathlu yn ogystal â bod yn drist. Caiff Hindŵiaid eu hamlosgi oherwydd credir bod llosgi'r corff yn rhyddhau'r ysbryd.

Health and Social Care

Tystion Jehofa: Maent yn credu mewn atgyfodiad a'r syniad o baradwys adferedig ar y ddaear. Maent yn caniatáu claddu neu amlosgi.

Iddewon: Maent yn credu, pan fyddant yn marw, y byddant yn mynd i'r nefoedd i fod gyda Duw. Ni ddylai'r unigolyn sy'n marw gael ei adael ar ei ben ei hun. Ni chaniateir amlosgi na phêr-eneinio (embalm) Iddewon. Bydd galarwyr yn crïo fel arwydd o dristwch ac yn rhwygo dillad i ffwrdd i fynegi galar. Dylid claddu'r sawl a fu farw cyn gynted â phosibl.

Mwslimiaid: Maent yn credu bod yr enaid yn byw ar ôl marwolaeth. Caiff y corff ei olchi gan deulu a ffrindiau ar ôl marwolaeth. Maent yn derbyn mai ewyllys Duw yw marwolaeth. Caiff y corff ei gladdu o fewn 24 awr, ac ni chaniateir i fenywod fynd i'r fynwent.

Sikhiaid: Maent yn credu mewn ailymgnawdoliad a'r bywyd tragwyddol, lle y bydd yr enaid yn cwrdd â Duw. Ystyrir mai Gweithred gan Dduw yw marwolaeth, ac ni chaniateir crïo. Mae amlosgi yn arferol, ar wahân i fabanod a phlant.

Dyneiddwyr: Nid ydynt yn credu yn y bywyd tragwyddol. Maent yn credu bod marwolaeth yn rhan o gylch natur ac mai dim ond yn atgofion yr anwyliaid y mae'r ymadawedig yn parhau i fyw. Nid yw Dyneiddwyr yn cynnal gwasanaethau crefyddol cyn claddu nac amlosgi. Mae dyneiddwyr yn cynnal dathliad positif o fywyd yr unigolyn cyn y claddu neu’r amlosgiad.

Culture, religion and personal beliefs

Drag the tradition or belief to the culture or religion

Diwylliant, crefydd a chredoau personol

Llusgwch y traddodiad neu'r gred at y diwylliant neu'r grefydd

Culture or religion

Diwylliant neu'r grefydd

Tradition or belief

Traddodiad neu'r gred

Correct answers

Atebion cywir

        The terms ‘advance care planning’ and ‘advance directives’ and why these are important

        Y termau ‘blaengynllunio gofal’ a ‘blaengyfarwyddebau’ a pham eu bod yn bwysig

        Signing contract

        Advance care planning is the voluntary preparation of a written statement that sets out an individual’s wishes, beliefs, values and preferences about their future care. It provides a guide to those who care for individuals such as healthcare professionals and anyone who needs to make decisions about care for an individual about their wishes and decisions should they become too unwell to make them.

        An Advance Care Plan gives an individual reassurance that they will be cared for according to their wishes if they become unable to communicate them. Advance Care Plans help families be reassured they are following an individual’s wishes.

        An Advance Care Plan can include personal preferences e.g. for hygiene routines, any religious beliefs or preferences, who is to be involved in decision making on behalf of an individual and where the individual wishes to be cared for.

        Individuals can continue to update Advance Care Plans once made.

        Advance directives are sometimes referred to as a living will. This is a legal document in which an individual, who has the mental capacity, states actions that should be taken for their health if they are unable to decide for themselves as a result of ill-health or incapacity. They could also identify an individual make decisions on their behalf. It may include things such as refusing treatment (the treatments must be named) such as ventilation, resuscitation or antibiotics that could sustain life. Decisions must be written down and signed by a witness.

        An advance directive is legally binding if it complies with the Mental Capacity Act, is valid and applies to the situation.

        It is only valid if:

        • the individual is over 18 and has the mental capacity to make decisions, specifies treatments to be refused and circumstances
        • it is signed
        • it is made without any pressure or harassment
        • the individual hasn’t since said anything contradicting the directive.

        Both Advance Care Planning and Advance Directives give individuals choice, autonomy and control and show respect for human rights. They support effective end of life care and reduce the stress of decision making for relatives.

        Palliative and end of life delivery plan:
        https://bit.ly/3cAs7jF

        Ystyr blaengynllunio gofal yw'r broses wirfoddol o baratoi datganiad ysgrifenedig sy'n nodi dymuniadau, credoau, gwerthoedd a dewisiadau unigolyn ynglŷn â'i ofal yn y dyfodol. Mae'n rhoi canllaw i'r rhai sy'n gofalu am unigolion, fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac unrhyw un sydd angen gwneud penderfyniadau am ofal i unigolyn, ynglŷn â'i ddymuniadau a'i benderfyniadau os bydd yn mynd yn rhy sâl i'w gwneud.

        Mae Blaengynllun Gofal yn rhoi sicrwydd i unigolyn y bydd yn cael gofal yn unol â'i ddymuniadau os bydd yn colli'r gallu i'w cyfleu. Mae Blaengynlluniau Gofal yn helpu i roi sicrwydd i deuluoedd eu bod yn dilyn dymuniadau unigolyn.

        Gall Blaengynllun Gofal gynnwys dewisiadau personol, e.e. ar gyfer arferion hylendid, unrhyw gredoau neu ddewisiadau crefyddol, neu pwy a ddylai fod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau ar ran unigolyn a ble mae'r unigolyn yn dymuno derbyn gofal.

        Gall unigolion barhau i ddiweddaru Blaengynlluniau Gofal ar ôl iddynt gael eu llunio.

        Weithiau cyfeirir at flaengyfarwyddebau fel ewyllys fyw. Dogfen gyfreithiol yw hon lle y bydd unigolyn, sydd â galluedd meddyliol, yn nodi'r camau y dylid eu cymryd ar gyfer ei iechyd os na fydd yn gallu penderfynu drosto'i hun o ganlyniad i salwch neu anallu. Gallai hefyd nodi unigolion i wneud penderfyniadau ar ei ran. Gall gynnwys pethau fel gwrthod triniaeth (rhaid enwi'r triniaethau) fel awyriad, dadebru neu wrthfiotigau a allai gynnal bywyd. Rhaid i'r penderfyniadau gael eu hysgrifennu a'u llofnodi gan dyst.

        Mae blaengyfarwyddeb yn gyfreithiol-rwym os yw'n cydymffurfio â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, os yw'n ddilys ac os yw'n gymwys i'r sefyllfa.

        Mae'n ddilys os yw'r canlynol yn wir:

        • mae'r unigolyn dros 18 oed ac mae ganddo'r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau, enwi triniaethau i'w gwrthod ac amgylchiadau
        • mae wedi'i llofnodi
        • fe'i gwneir heb unrhyw bwysau nac aflonyddu
        • nid yw'r unigolyn wedi dweud unrhyw beth yn groes i'r gyfarwyddeb ers hynny.

        Mae Blaengynlluniau Gofal a Blaengyfarwyddebau yn rhoi dewis, ymreolaeth a rheolaeth i unigolion ac yn dangos parch at hawliau dynol. Maent yn cefnogi gofal diwedd oes effeithiol ac yn lleihau'r straen sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau i berthnasau.

        Cynllun cyflawni ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes:
        https://bit.ly/2TnMXeO

        Support available to support individuals with end of life care

        Y cymorth sydd ar gael i helpu unigolion o ran gofal ar ddiwedd eu hoes

        Elderly woman and carer serving food

        End of life care can be supported and received in a number of ways:

        Care homes - Skilled nursing care round the clock. Help with washing, dressing and meals. Can be run by private individuals and companies or councils.

        Hospices - Care for individuals from the point at which an illness is terminal until their death. Aim to improve the lives of individuals with a terminal illness, treating them with dignity and respect. Support holistic care in caring for medical, emotional, social, practical, psychological and spiritual needs as well as those of the family. Care in a hospice will be by doctors, nurses, social workers, therapists, counsellors and trained volunteers.

        Hospitals - Care from doctors, nurses and healthcare professionals. Supporting medical care and pain relief. Also have outpatient clinics.

        Palliative care teams - Provide pain and symptom control. Help with discharge plans or transfer to a hospice. They aim to relieve pain and discomfort and improve quality of life.

        General Practitioner - Prescribes medication. Liaises with community nurses regarding care at home, liaises with hospices, ensures 24-hour care.

        Community nurses - Provide practical care in the home, advise on pain control and support family carers. These may include Macmillan nurses/Marie Curie nurses who provide palliative care and support families.

        Specialist social workers - Provide counselling, advice about benefits and support for children.

        Social Services departments - Help with specialist equipment, personal care, respite services and support access to services e.g. meal delivery.

        Gellir cefnogi a derbyn gofal diwedd oes mewn nifer o ffyrdd:

        Cartref gofal – Gofal nyrsio medrus bob awr o'r dydd a'r nos. Help o ran ymolchi, gwisgo a phrydau bwyd. Gallant gael eu cynnal gan unigolion preifat a chwmnïau neu gynghorau.

        Hosbisau – Maent yn gofalu am unigolion o'r adeg pan fydd salwch yn derfynol nes byddant yn marw. Y nod yw gwella bywydau unigolion â salwch terfynol, gan eu trin ag urddas a pharch. Maent yn cefnogi gofal holistaidd drwy ofalu am anghenion meddygol, emosiynol, cymdeithasol, ymarferol, seicolegol ac ysbrydol yn ogystal ag anghenion y teulu. Caiff gofal mewn hosbis ei ddarparu gan feddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, cynghorwyr a gwirfoddolwyr hyfforddedig.

        Ysbytai – Gofal gan feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Maent yn cefnogi gofal meddygol a lleddfu poen. Mae ganddynt hefyd glinigau i gleifion allanol.

        Timau gofal lliniarol – Maent yn rheoli poen a symptomau, ac yn helpu gyda chynlluniau rhyddhau o'r ysbyty neu drosglwyddo i hosbis. Eu nod yw lleddfu poen ac anghysur a gwella ansawdd bywyd.

        Meddyg Teulu – Rhagnodi meddyginiaeth. Mae'n cysylltu â nyrsys cymunedol mewn perthynas â gofal yn y cartref, yn cysylltu â hosbisau ac yn sicrhau gofal 24 awr.

        Nyrsys cymunedol – Darparu gofal ymarferol yn y cartref, yn rhoi cyngor ar reoli poen ac yn cefnogi gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu. Gall y rhain gynnwys nyrsys Macmillan/Marie Curie sy'n darparu gofal lliniarol ac yn cefnogi teuluoedd.

        Gweithwyr cymdeithasol arbenigol – Maent yn darparu gwasanaethau cwnsela, cyngor am fuddiannau a chymorth i blant.

        Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol – Helpu gyda chyfarpar arbenigol, gofal personol a gwasanaethau seibiant ac yn helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau, e.e. dosbarthu prydau bwyd.

        Elderly care Doctor tool

        When you think you know the answer, click on the letters used to spell out the word. If you are correct that letter will turn green and will appear on the dashed line.

        If you are incorrect the letter will turn red and you will lose a life. You have 5 lives available to complete the activity.

        Pan fyddwch yn credu eich bod yn gwybod yr ateb, cliciwch ar y llythrennau a ddefnyddir i sillafu'r gair. Os byddwch yn gywir, bydd y llythyren honno'n troi'n wyrdd ac yn ymddangos ar y llinell doredig.

        Os byddwch yn anghywir, bydd y llythyren yn troi'n goch a byddwch yn colli bywyd. Mae gennych 5 bywyd i gwblhau'r gweithgaredd.

        Assistance that is available for workers when supporting individuals with end of life care

        Y cymorth sydd ar gael i weithwyr wrth gefnogi unigolion o ran gofal ar ddiwedd eu hoes

        stressed doctor

        It is important that staff working in end of life care are supported and protected from stress if they are to be able to effectively support patients and their families.

        Building resilience

        Workers need to be taught strategies to promote resilience so that they can find an equal balance of providing end of life care whilst also ensuring self-care.

        Care workers will be encouraged to focus on self-care by:

        • leading a healthy lifestyle
        • taking time for themselves
        • understanding their own views and beliefs about death and dying
        • engaging in activities unrelated to their job
        • knowing where to seek support and advice when needed.

        Speciality based support

        Care workers supporting end of life care are at risk of burn-out or compassion fatigue if they have no support mechanisms in place. These may take the following forms:

        • informal support from work colleagues
        • debriefing sessions following a distressing or unexpected death
        • feedback from line managers
        • regular staff meetings where the care worker can discuss their patients and their work-related feelings and stresses in a mutually supportive setting
        • regular supervision and support.

        Education

        Continuing professional development is vital so that care workers can continue to develop strategies that will enhance their coping skills.

        • Mentoring of novice staff can help them develop their own personal coping mechanisms as well as nurture collaborative, mutually supportive working relationships.
        • In-service training sessions to help care workers understand and develop coping strategies for situations they may be faced with such as grieving families directing their anger and frustration at them.
        • All care staff should be taught how to handle relationships with family members to ensure that they show compassion.

        https://bbc.in/2mgR6TV

        Mae'n bwysig bod staff sy'n gweithio ym maes gofal diwedd oes yn cael eu cefnogi a'u diogelu rhag straen er mwyn iddynt allu cefnogi cleifion a'u teuluoedd yn effeithiol.

        Meithrin gwydnwch

        Mae angen addysgu strategaethau i weithwyr er mwyn hybu gwydnwch fel y gallant daro cydbwysedd rhwng darparu gofal diwedd oes a sicrhau hunanofal.

        Caiff gweithwyr gofal eu hannog i ganolbwyntio ar hunanofal drwy wneud y canlynol:

        • dilyn ffordd iach o fyw
        • trefnu amser iddynt eu hunain
        • deall eu safbwyntiau a'u credoau eu hunain ynglŷn â marwolaeth a marw
        • cymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig â'u swydd
        • gwybod ble i gael cymorth a chyngor pan fo angen.

        Cymorth seiliedig ar arbenigedd

        Mae gweithwyr gofal sy'n cefnogi gofal diwedd oes yn wynebu risg o chwythu plwc neu ludded tosturi os nad oes ganddynt unrhyw systemau cymorth ar waith. Gall y rhain fod ar y ffurfiau canlynol:

        • cymorth anffurfiol gan gydweithwyr
        • sesiynau adrodd yn ôl yn dilyn marwolaeth drallodus neu annisgwyl
        • adborth gan reolwyr llinell
        • cyfarfodydd staff rheolaidd lle gall y gweithiwr gofal drafod eu cleifion a'u teimladau a straen sy'n gysylltiedig â gwaith mewn lleoliad sy'n gefnogol i bawb
        • goruchwyliaeth a chymorth rheolaidd.

        Addysg

        Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn hollbwysig fel y gall gweithwyr gofal barhau i ddatblygu strategaethau a fydd yn gwella eu sgiliau ymdopi.

        • Gall mentora staff newydd eu helpu i ddatblygu eu systemau ymdopi personol eu hunain yn ogystal â meithrin cydberthnasau gwaith cydweithredol sy'n gefnogol i bawb.
        • Sesiynau hyfforddiant mewn swydd er mwyn helpu gweithwyr gofal i ddeall a datblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â sefyllfaoedd y gallant eu hwynebu fel teuluoedd sy'n galaru yn cyfeirio eu dicter a'u rhwystredigaeth atynt.
        • Dylai pob aelod o staff gofal gael ei addysgu i ymdrin â chydberthnasau ag aelodau o'r teulu er mwyn sicrhau ei fod yn dangos tosturi.

        https://bbc.in/2mgR6TV

        Assistance that is available for workers

        Cymorth sydd ar gael i weithwyr

        QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb Suggested AnswerAteb Awgrymedig

        Suggested Answer:

        Ateb Awgrymedig: