Introduction

Cyflwyniad

Sensory perception

Sensory loss is when one of the senses, i.e. sight, hearing, smell, touch, taste, is not working as it should.

The term is used primarily to describe sight loss, hearing loss and deafblindness.

A sensory loss can affect individuals of any age. It may have been from birth or acquired at a later age. Sensory loss in the form of loss of sight or hearing affects many older people.

An individual does not have to fully lose a sense to be considered as having a sensory loss. Sensory losses will impact on the lives and needs of individuals in different ways.

When an individual has a sensory loss, their mobility and ability to communicate are affected, and there is a risk of loneliness and isolation that can impact on their well-being.

Ystyr colli synhwyrau yw pan na fydd un o'r synhwyrau, h.y. y gallu i weld, clywed, arogli, cyffwrdd a blasu, yn gweithio fel y dylai.

Caiff y term ei ddefnyddio yn bennaf i ddisgrifio colli golwg, colli clyw a bod yn fyddar a dall.

Gall colli synnwyr effeithio ar unigolion o unrhyw oed. Gall hynny fod ers adeg geni neu gall ddatblygu'n nes ymlaen. Mae colli synhwyrau ar ffurf colli golwg neu glyw yn effeithio ar lawer o bobl hŷn.

Nid oes angen i unigolyn golli synnwyr yn llwyr cyn iddo gael ei ystyried yn rhywun sydd wedi colli synnwyr. Bydd colli synhwyrau'n effeithio ar fywydau ac anghenion unigolion mewn ffyrdd gwahanol.

Pan fydd unigolyn wedi colli synnwyr, effeithir ar ei symudedd a'i allu i gyfathrebu, a bydd risg o unigrwydd ac ynysu a all effeithio ar ei lesiant.

Causes and conditions of sensory loss

Achosion a chyflyrau colli'r synhwyrau

Blind man trying to find train

Sensory loss can be caused by a range of factors. Some affect just one area of the senses and some on both vision and hearing.

Some of these are congenital (i.e. the individual is born with them) and some acquired (occur during life due to accident or illness).

Examples of causes and conditions of sensory loss include:

  • Trauma - An accident involving a head injury may impact on vision or hearing.
  • Glaucoma - Damage to the optic nerve by pressure of fluid in the eye.
  • Cataracts - Clouding of the lens in the eye leading to a loss of vision.
  • Macular degeneration - Usually age related. Affects the middle part of vision. Can be linked to smoking, high blood pressure, being overweight and family history of macular degeneration.
  • Diabetic retinopathy - A complication of diabetes caused by high blood sugars damaging the retina. Can cause blindness if left undiagnosed and untreated.
  • Viral causes (i.e. meningitis).
  • Hereditary conditions.
  • Industrial and noise induced deafness.
  • Meniere’s disease - Disorder of the inner ear. Causes vertigo and hearing loss.
  • Ageing - This is the largest cause of sensory loss.
  • Premature birth.
  • Viruses during pregnancy (e.g. rubella).
  • Genetic conditions such as Usher syndrome - Usher syndrome is caused by gene mutation and the main symptoms are hearing loss and an eye condition called retinitis pigmentosa.
  • Cerebral palsy - Many individuals with cerebral palsy also have sensory problems.

Gall colli synhwyrau gael ei achosi gan amrywiaeth o ffactorau. Bydd rhai yn effeithio ar un o'r synhwyrau yn unig, a bydd eraill yn effeithio ar y golwg a'r clyw.

Mae rhai o'r rhain yn gynenedigol (h.y. caiff yr unigolyn ei eni fel hyn) a bydd rhai'n datblygu (yn digwydd yn ystod bywyd yn sgil damwain neu salwch).

Enghreifftiau o achosion a chyflyrau colli synhwyrau

  • Trawma – Damwain lle ceir anaf i'r pen a all effeithio ar y golwg neu'r clyw.
  • Glawcoma – Niwed i'r nerf optig o ganlyniad i bwysedd hylif yn y llygad.
  • Cataractau – Lens y llygad yn cymylu gan arwain at golli golwg.
  • Dirywiad y maciwla – Yn gysylltiedig ag oedran fel arfer. Mae'n effeithio ar ran ganol y golwg. Gall fod yn gysylltiedig ag ysmygu, pwysedd gwaed uchel, bod dros bwysau a hanes teuluol o ddirywiad y maciwla.
  • Retinopathi diabetig – Un o gymhlethdodau diabetes a achosir gan lefelau siwgr uchel yn y gwaed sy'n niweidio'r retina. Gall wneud i unigolyn fynd yn ddall os na roddir diagnosis na thriniaeth.
  • Achosion firol, (e.e. llid yr ymennydd).
  • Cyflyrau etifeddol.
  • Byddardod diwydiannol a byddardod a achoswyd gan sŵn.
  • Clefyd Meniere – Anhwylder i'r glust fewnol. Mae'n achosi fertigo a cholli clyw.
  • Heneiddio – Dyma brif achos colli synhwyrau.
  • Genedigaeth gynamserol.
  • Firysau yn ystod beichiogrwydd (e.e. rwbela).
  • Cyflyrau genetig fel Syndrom Usher – achosir syndrom Usher gan fwtaniad genynnau a'r prif symptomau yw colli clyw a chyflwr ar y llygaid o'r enw retinitis pigmentosa.
  • Parlys yr ymennydd – Mae gan lawer o unigolion sydd â Pharlys yr ymennydd broblemau â'r synhwyrau hefyd.

Potential indicators and signs of sensory loss

Dangosyddion posibl ac arwyddion o golli'r synhwyrau

Woman signing

Indicators and signs of sight loss:

  • holding reading materials further away or nearer than usual
  • not reacting to visual clues or signs
  • sitting too close to the television
  • bumping into or tripping over objects
  • moving around slowly (using walls as a guide)
  • not seeing nearby objects
  • difficulty in determining floor level changes
  • discomfort with changes between light and dark
  • difficulty in seeing objects off to the side
  • white areas on the pupil
  • irises changing colour
  • complaining of seeing bright flashes of light.

Indicators and signs of hearing loss:

  • failing to react to voices coming from behind
  • difficulty following and joining a group conversation
  • apparent inattention
  • using an excessively loud voice
  • continually asking individuals to repeat what they have said
  • turning the television volume up
  • failing to respond to the doorbell or the telephone
  • giving inappropriate responses to questions/conversation
  • complaining of not being able to hear when there is a lot of background noise
  • feeling tired or stressed from having to concentrate while listening.

Dangosyddion posibl ac arwyddion o golli'r synhwyrau:

  • dal deunyddiau darllen yn bellach i ffwrdd neu'n agosach nag arfer
  • peidio ag ymateb i giwiau neu arwyddion gweledol
  • eistedd yn rhy agos at y teledu
  • taro i mewn i wrthrychau neu faglu drostynt
  • symud o gwmpas yn araf (gan ddefnyddio'r waliau fel canllaw)
  • peidio â gweld gwrthrychau sy'n agos
  • ei chael hi'n anodd synhwyro newidiadau yn lefel y llawr
  • ddim yn gyfforddus pan fydd y golau'n mynd yn fwy llachar neu'n pylu
  • ei chael hi'n anodd gweld gwrthrychau i'r ochr
  • rhannau gwyn ar gannwyll y llygad
  • irisau'n newid lliw
  • cwyno am weld fflachiadau llachar o olau.

Dangosyddion posibl ac arwyddion o golli clyw:

  • methu ag ymateb i leisiau o'r tu ôl
  • ei chael hi'n anodd dilyn sgwrs mewn grŵp ac ymuno ynddi
  • diffyg sylw ymddangosiadol
  • defnyddio lefel llais rhy uchel
  • gofyn i unigolion ailadrodd yr hyn y maent wedi'i ddweud yn barhaus
  • cynyddu lefel sain y teledu
  • methu ag ymateb i gloch y drws neu'r ffôn
  • ymateb yn amhriodol i gwestiynau/sgyrsiau
  • methu â chlywed pan fydd llawer o sŵn cefndir
  • teimlo'n flinedig neu deimlo straen yn sgil gorfod canolbwyntio wrth wrando.

Factors that impact upon an individual with sensory loss

Ffactorau a all effeithio ar unigolyn sy'n colli'r synhwyrau

Woman having trouble hearing

There are a range of factors that can impact on individuals with sensory loss including:

Impact on communication – Hearing loss can often be a hidden disability which can lead to problems with communicating with others and feelings of isolation for the individual concerned. They can struggle to use a telephone or hear the doorbell. This can make the individual feel frustrated. They can also find it difficult to watch TV or join in with group conversations, and this may cause them to withdraw into themselves. Individuals with sight loss are unable to recognise people and places, which can cause confusion and feelings of inadequacy and isolation.

Impact on accessing information – Individuals with sight loss will be unable to read timetables, menus, signs etc. Having to rely on another for this type of information can impact an individual’s privacy and dignity. Similarly, an individual with hearing loss will struggle to access information that is not in print format and can feel a loss of privacy and dignity if not able to access their own information.

Impact on routines – Individuals who lose their sight will feel increasingly separated from the world around them as their brain receives less stimulation. They can also feel less secure and can tend to avoid going out, which can further exacerbate their sense of isolation. Individuals with hearing loss may withdraw from social routines as they struggle to cope with following conversations in noisy surroundings. Both sight and hearing loss can affect an individual’s mobility as they feel less able to move around their local area safely.

Impact on attitudes - Individuals with sight or hearing loss can feel that society begins to treat them differently. Individuals with hearing loss feel that those around them stop including them in conversations and talk over them. The thoughtlessness of others can put individuals with sensory loss in harm’s way. Hazards such as cars parked on pavements can cause risk of injury to individuals with sight loss as they will be expecting the pavement to be clear.

Gall amrywiaeth o ffactorau effeithio ar unigolion sy'n colli synhwyrau, gan gynnwys:

Effaith ar gyfathrebu – Yn aml, gall colli clyw fod yn anabledd cudd sy'n gallu arwain at broblemau wrth gyfathrebu ag eraill a gwneud i bobl deimlo'n ynysig. Gallant ei chael hi'n anodd defnyddio ffôn neu glywed cloch y drws. Gall hyn wneud i bobl deimlo'n rhwystredig. Hefyd, gallant ei chael hi'n anodd gwylio'r teledu neu ymuno â sgyrsiau mewn grŵp, a gall hyn wneud iddynt fynd i'w cragen. Ni all unigolion sy'n colli golwg adnabod pobl a lleoedd, sy'n gallu peri dryswch a gwneud iddynt deimlo fel methiant neu deimlo'n ynysig.

Effaith ar gael gafael ar wybodaeth – Ni fydd unigolion sy'n colli golwg yn gallu darllen amserlenni, bwydlenni, arwyddion ac ati. Gall gorfod dibynnu ar rywun arall i gael gwybodaeth o'r fath effeithio ar breifatrwydd ac urddas unigolyn. Yn yr un modd, bydd unigolyn sy'n colli clyw yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wybodaeth nad yw ar gael mewn print, a gall deimlo ei fod yn colli preifatrwydd ac urddas os na all gael gafael ar wybodaeth ar ei ben ei hun.

Effaith ar arferion – Bydd unigolion sy'n colli eu golwg yn teimlo fel eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth y byd o'u cwmpas wrth i'w hymennydd gael llai o ysgogiad. Gallant hefyd deimlo'n fwy ansicr a thueddu i osgoi mynd allan, a all wneud iddynt deimlo'n fwy ynysig byth. Mae'n bosibl y bydd unigolion sy'n colli clyw yn cilio rhag arferion cymdeithasol gan eu bod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â dilyn sgyrsiau mewn lleoedd swnllyd. Gall colli golwg a chlyw effeithio ar symudedd unigolyn am ei fod yn teimlo nad yw'n gallu symud o gwmpas ei ardal leol cystal.

Effaith ar agweddau – Gall unigolion sy'n colli golwg neu glyw deimlo bod cymdeithas yn dechrau eu trin yn wahanol. Yn aml, bydd unigolion sy'n colli clyw yn teimlo nad yw'r bobl o'u cwmpas yn eu cynnwys mewn sgyrsiau mwyach a'u bod yn siarad drostynt. Gall diffyg meddwl pobl eraill achosi perygl o niwed i unigolion sy'n colli synhwyrau. Gall peryglon fel ceir wedi'u parcio ar balmentydd beri risg o anaf i unigolion sy'n colli golwg oherwydd byddant yn disgwyl i'r palmant fod yn glir.

Considerations when communicating with an individual with: sight loss; hearing loss; deafblindness

Yr hyn mae angen ei ystyried wrth gyfathrebu ag unigolyn: sy'n colli golwg; sy'n colli clyw; sy'n fyddar a dall

Icons

Each individual with a sensory loss will have different needs and methods of communicating according to their individual loss. It is important to find out what these are and use them when communicating with individuals. There are, however, some general considerations that can be followed.

Considerations when communicating with an individual with sight loss:

  • allow extra time
  • stand in a place where you can be seen and touch for attention if necessary
  • always identify yourself
  • use names to identify individuals
  • tell the individual you are leaving them or if others are entering or leaving the room – don’t just walk away
  • don’t use non-verbal communication, such as pointing
  • when communicating in writing, use large printed words rather than joined up writing
  • provide information in different formats, e.g. email, large fonts, braille, audio tapes.

Considerations when communicating with an individual with hearing loss:

  • allow extra time
  • face the individual you are speaking to
  • do not shout as this distorts the voice and lip patterns
  • speak a little more slowly than usual
  • stay in their field of vision
  • use a loop system
  • find out about their communication methods, e.g. sign language
  • use finger spelling / sign language
  • speak at ear level
  • repeat/rephrase if needed
  • write things down
  • make sure there is no echo in the room
  • ask individuals to repeat important information back to you to make sure it has been understood
  • make sure hearing aids are switched on and functioning.

Considerations when communicating with an individual with deafblindness:

  • good lighting
  • plain background
  • stand in front of them
  • individuals with deafblindness may communicate using:
    • tactile communication – using touch with objects
    • tactual communication – using touch with individuals
  • use clear speech and clear print
  • it might be useful to look at the Deafblind Manual Alphabet to communicate use specialist communication support.

Bydd gan bob unigolyn sy'n colli synhwyrau wahanol anghenion a dulliau o gyfathrebu gan ddibynnu ar y synnwyr maent wedi ei golli. Mae'n bwysig gwybod beth yw'r rhain a'u defnyddio wrth gyfathrebu ag unigolion. Fodd bynnag, mae yna rhai ystyriaethau cyffredinol sy'n gallu cael eu dilyn.

Yr hyn mae angen ei ystyried wrth gyfathrebu ag unigolyn sy'n colli golwg:

  • rhoi mwy o amser
  • sefyll yn rhywle lle mae'n bosib eich gweld a lle y gallwch gyffwrdd yr unigolyn er mwyn cael ei sylw os oes angen
  • dweud pwy ydych chi bob amser
  • defnyddio enwau i ddweud pwy yw pobl
  • dweud wrth yr unigolyn eich bod yn ei adael neu os bydd pobl eraill yn dod i mewn i'r ystafell neu'n gadael – peidiwch â cherdded i ffwrdd heb ddweud dim
  • peidio â chyfathrebu heb eiriau, fel pwyntio
  • wrth gyfathrebu'n ysgrifenedig, defnyddio print mawr yn hytrach na llawysgrifen glwm
  • rhoi gwybodaeth mewn fformatau gwahanol, e.e. e-bost, ffontiau mawr, braille, tapiau sain.

Yr hyn mae angen ei ystyried wrth gyfathrebu ag unigolyn sy'n colli clyw:

  • rhoi mwy o amser
  • wynebu'r unigolyn rydych yn siarad ag ef
  • peidio â gweiddi am fod hyn yn ystumio'r llais ac yn aflunio patrymau'r gwefusau
  • siarad ychydig yn arafach nag arfer
  • aros yn rhywle lle y gall yr unigolyn eich gweld
  • defnyddio system dolen sain
  • dysgu am ddulliau cyfathrebu'r unigolyn, e.e. iaith arwyddion
  • sillafu â'r bysedd / defnyddio iaith arwyddion
  • siarad ar lefel y glust
  • ailadrodd/aralleirio os oes angen
  • ysgrifennu pethau
  • gwneud yn siŵr nad oes adlais yn yr ystafell
  • gofyn i unigolion ailadrodd gwybodaeth bwysig i chi er mwyn gwneud yn siŵr eu bod wedi'i deall
  • gwneud yn siŵr bod teclynnau clyw wedi'u troi ymlaen ac yn gweithio.

Yr hyn mae angen ei ystyried wrth gyfathrebu ag unigolyn sy'n fyddar a dall:

  • goleuadau da
  • cefndir plaen
  • sefyll o'i flaen
  • gall unigolion sy'n fyddar a dall gyfathrebu gan ddefnyddio:
    • cyfathrebu cyffyrddol gan ddefnyddio gwrthrychau
    • cyfathrebu cyffyrddol gan ddefnyddio unigolion
  • siarad yn glir a defnyddio print clir
  • gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar yr Wyddor Llaw i Bobl Fyddar a Dall i gyfathrebu defnyddio cymorth cyfathrebu arbenigol.

The importance of supporting individuals to use aids, such as hearing aids, and glasses

Pwysigrwydd helpu unigolion i ddefnyddio cymhorthion fel cymorth clyw a sbectol

Woman with a hearing aid

Some individuals are reluctant or embarrassed to use aids, such as glasses and hearing aids, because they see them as a sign of disability or ageing.

It is important that individuals are supported to use available aids to maximise remaining sight and hearing, and enable them to manage in different environments.

Wearing hearing aids and glasses support an individual's independence, which in turn gives them dignity, positive self-esteem and a greater sense of well-being.

Wearing glasses helps minimise confusion about the environment and minimises trips and falls. Not wearing glasses increases eye strain, causes headaches, an inability to focus and double vision.

Use of hearing aids enables individuals to concentrate better, participate more fully in work and social events, and have better relationships with friends and family.

Mae rhai unigolion yn amharod i ddefnyddio cymhorthion fel sbectol a theclynnau clyw, neu'n teimlo cywilydd ynglŷn â'u defnyddio am eu bod yn eu gweld fel arwydd o anabledd neu heneiddio.

Mae'n bwysig bod unigolion yn cael cymorth i ddefnyddio'r cymhorthion sydd ar gael, fel teclynnau clyw a sbectol, er mwyn gwneud y gorau o'r golwg a'r clyw sydd ar ôl ganddynt a'u galluogi i ymdopi mewn gwahanol amgylcheddau.

Mae gwisgo teclynnau clyw a sbectol yn helpu unigolion i fod yn annibynnol sydd, yn ei dro, yn rhoi urddas a hunan-barch cadarnhaol iddynt ac yn gwella eu llesiant. Mae teclynnau clyw a sbectol yn galluogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau, sgyrsiau ac arferion dyddiol, sy'n eu rhwystro rhag teimlo'n ynysig.

Mae gwisgo sbectol yn helpu i leihau dryswch ynglŷn â'r amgylchedd ac yn lleihau'r tebygolrwydd o faglu a chwympo. Mae peidio â gwisgo sbectol yn peri mwy o straen i'r llygaid, yn achosi cur pen, yn ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio ac yn arwain at olwg dwbl.

Mae gwisgo teclynnau clyw yn rheolaidd yn helpu'r ymennydd i adnabod synau ac yn gwella'r clyw. Mae defnyddio teclynnau clyw yn galluogi unigolion i gael cydberthnasau gwell â ffrindiau a theulu, i ganolbwyntio'n well, i allu cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol a gweithio'n well.

The considerations when supporting an individual with loss of taste, smell or touch

Yr hyn y dylid ei ystyried wrth gynorthwyo unigolyn sy'n colli synnwyr blasu, arogli neu gyffwrdd

Mouth with tongue out

Taste

Loss of taste (hypogeusia) may be a result of health disorders, medication or an age-related decrease in taste buds on the tongue. A loss of taste makes it more difficult to eat a balanced and nutritious diet. Loss of the experience of enjoying meals affects social interaction and can lead to depression.

A nutritionist can create a menu or eating plan to help overcome the loss of the sense of taste and smell with different tastes and textures.

Smell

Loss of smell (anosmia) can be caused by infection, changes in the brain or ageing. Loss of smell also decreases an individual’s appetite and makes it harder to notice hazards such as fire, gas leak or out of date/spoiled foods. Smell ensures an individual maintains personal hygiene, but they may need additional support with this. For many, smell helps to evoke memories.

Smoke and gas alarms enhance safety for those with a diminished sense of smell.

Touch

A reduced sense of touch (hypoesthesia) is a result of illnesses and diseases reducing blood flow to nerve endings. This makes it more difficult to detect pressure, temperature and texture, and in turn increases risks of falling and burns. Overall healthcare is important to individuals with no sense of touch as they may not feel injuries. Good footcare is important to those with a reduced sense of touch to stop the spread of infection. Care needs to be taken around hot objects/heat.

Blasu

Gall colli synnwyr blasu (hypogeusia) fod o ganlyniad i anhwylderau iechyd, meddyginiaeth neu ddirywiad ym mlasbwyntiau'r tafod sy'n gysylltiedig ag oedran. Mae colli synnwyr blasu yn ei gwneud hi'n anodd bwyta deiet cytbwys a maethlon. Mae colli'r profiad o fwynhau prydau bwyd yn effeithio ar ryngweithio cymdeithasol, a gall arwain at iselder.

Gall maethegydd lunio bwydlen neu gynllun bwyta sy'n helpu i oresgyn colli synnwyr blasu ac arogli drwy gyflwyno gwahanol flasau ac ansawdd.

Arogli

Gellir colli synnwyr arogli (anosmia) o ganlyniad i haint, newidiadau yn yr ymennydd neu heneiddio. Mae colli synnwyr arogli hefyd yn lleihau archwaeth bwyd unigolyn ac yn ei gwneud hi'n anodd sylwi ar beryglon fel tân, nwy yn gollwng neu fwydydd wedi dyddio/difetha. Mae synnwyr arogli yn sicrhau bod unigolyn yn cynnal hylendid personol, ond gall fod angen cymorth ychwanegol arno gyda hyn. I lawer, mae synnwyr arogli yn helpu i ddeffro atgofion.

Mae larymau mwg a nwy yn gwella diogelwch i bobl â llai o synnwyr arogli.

Cyffwrdd

Mae llai o synnwyr cyffwrdd (hypoesthesia) yn deillio o salwch a chlefydau sy'n lleihau llif y gwaed i derfynau'r nerfau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd synhwyro pwysau, tymheredd a gwead ac, yn ei dro, yn cynyddu'r risg o gwympo a llosgi. Mae gofal iechyd cyffredinol yn bwysig i unigolion heb synnwyr cyffwrdd oherwydd efallai na fyddant yn teimlo anafiadau. Mae gofal traed da yn bwysig i bobl â llai o synnwyr cyffwrdd er mwyn atal haint rhag lledaenu. Mae angen bod yn ofalus o gwmpas gwrthrychau poeth/gwres.

Support available for individuals with sensory loss

Y cymorth sydd ar gael i unigolion sy'n colli'r synhwyrau

Woman reading with magnifying glass

There are a number of organisations that can offer advice and support for individuals suffering from sensory loss:

General

Centre of Excellence for Sensory Impairment (coesi) http://www.coesi.org.uk/Home.aspx

Sense https://www.sense.org.uk/get-support/information-and-advice/

Hearing loss

Action on Hearing Loss https://www.actiononhearingloss.org.uk

  • information for individuals who are deaf or have hearing loss
  • specialist employment support
  • home visits for individuals struggling with hearing loss
  • community-based hearing aid clinics
  • outreach support for individuals who are deaf with additional needs
  • online skills training.

Wales Council for Deaf People http://www.wcdeaf.org.uk

  • facilitates support groups across Wales
  • provides training in sign language, sensory awareness and lip reading.

Hearing link Wales https://www.hearinglink.org/connect/hearing-link-wales

  • helpline manned by individuals who have experience of hearing loss, providing advice and information
  • community support workers to provide personal and practical support
  • run local community events.

Sight loss

RNiB Cymru https://www.rnib.org.uk/wales-cymru-1

  • offer courses on living with sight loss
  • helpline giving advice of support available
  • talking book library
  • information on eye conditions
  • support to use assistive technology
  • Welsh language text to speech software.

Sight Cymru http://sightcymru.org.uk/

  • rehabilitation & mobility
  • counselling
  • information, advice and advocacy
  • welfare rights assistance
  • clubs and activities
  • aids, equipment and resources specially designed for independence training
  • technology assistance
  • befriending and telephone support.

Guide dogs Cymru https://www.guidedogs.org.uk/guide-dogs-cymru/

  • provides life-changing mobility services to adults.

Wales Council for the Blind http://www.wcb-ccd.org.uk/perspectif/index.php

  • provides information on support and advice available across all areas of Wales.

Deafblind

Deafblind Cymru https://deafblind.org.uk/about-us/deafblind-cymru/

  • provide information and advice
  • organise social groups and events
  • befriending service
  • assistive technology training and support
  • holiday caravans catering to individuals with sight loss
  • provide independent living flats
  • care at home.

Mae nifer o sefydliadau yn cynnig cyngor a chymorth i unigolion sy'n colli synhwyrau:

Cyffredinol

Y Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer Colli Synhwyrau (coesi) http://www.coesi.org.uk/Home.aspx

Sense https://www.sense.org.uk/get-support/information-and-advice/

Colli clyw

Action on Hearing Loss https://www.actiononhearingloss.org.uk

  • gwybodaeth i unigolion sy'n fyddar neu sy'n colli clyw
  • cymorth cyflogaeth arbenigol
  • ymweliadau â chartrefi unigolion sy'n wynebu anhawster oherwydd colli clyw
  • clinigau cymorth clyw yn y gymuned
  • allgymorth i unigolion byddar sydd ag anghenion ychwanegol
  • hyfforddiant sgiliau ar-lein.

Cyngor Cymru i Bobl Fyddar http://www.wcdeaf.org.uk/?lang=cy

  • hwyluso grwpiau cymorth ledled Cymru
  • darparu hyfforddiant ar iaith arwyddion, ymwybyddiaeth o'r synhwyrau a darllen gwefusau.

Hearing link Cymru https://www.hearinglink.org/connect/hearing-link-wales

  • llinell gymorth lle mae unigolion â phrofiad o golli clyw yn rhoi cyngor a gwybodaeth
  • gweithwyr cymorth cymunedol yn rhoi cymorth personol ac ymarferol
  • digwyddiadau cymunedol lleol.

Colli golwg

RNiB Cymru https://www.rnib.org.uk/wales-cymru-1

  • cynnig cyrsiau ar fyw â cholli golwg
  • llinell gymorth sy'n rhoi cyngor ar y cymorth sydd ar gael
  • llyfrgell o lyfrau llafar
  • gwybodaeth am gyflyrau'r llygaid
  • cymorth i ddefnyddio technoleg gynorthwyol
  • meddalwedd testun i leferydd Gymraeg.

Sight Cymru http://sightcymru.org.uk/?lang=cy

  • adferiad a symudedd
  • cwnsela
  • gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth
  • cymorth gyda hawliau lles
  • clybiau a gweithgareddau
  • cymhorthion, cyfarpar ac adnoddau a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer hyfforddiant annibyniaeth
  • cymorth gan dechnoleg
  • ymgyfeillio a chymorth dros y ffôn.

Guide dogs Cymru https://www.guidedogs.org.uk/guide-dogs-cymru/

  • darparu gwasanaethau symudedd i oedolion sy'n newid eu bywydau.

Cyngor Cymru i Bobl Ddall http://www.wcb-ccd.org.uk/perspectif/index.php

  • darparu gwybodaeth am y cymorth a'r cyngor sydd ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Pobl fyddar a dall

Deafblind Cymru https://deafblind.org.uk/about-us/deafblind-cymru/

  • darparu gwybodaeth a chyngor
  • trefnu grwpiau a digwyddiadau cymdeithasol
  • gwasanaeth ymgyfeillio
  • hyfforddiant a chymorth ar gyfer technoleg gynorthwyol
  • carafanau gwyliau sy'n addas ar gyfer unigolion sy'n colli golwg
  • darparu fflatiau byw'n annibynnol
  • gofal yn y cartref.

Supporting individuals

Cefnogi unigolion

Study each individual’s needs and identify the support available to help them achieve a more fulfilled life.

Astudiwch anghenion pob unigolyn a nodwch y cymorth sydd ar gael i'w helpu i fyw bywyd sy'n rhoi mwy o foddhad.

QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb Suggested responseAteb Awgrymedig

Suggested response:

Ateb Awgrymedig: