Introduction

Cyflwyniad

Elderly DJ

Creative development and the ‘Arts’ can have a significant impact on the health and well-being of individuals. They promote confidence, self-esteem, support emotional development and physical well-being. Creative activities can be used to express and communicate ideas, thoughts and feelings openly and without judgement. Being able to create something e.g. a picture from their personal feelings and experiences supports and nurtures emotional health. In any creative activity, what is important is freedom of expression to help express feelings. Creative activities can help carers understand the feelings and emotions of individuals. Mental growth is supported by problem solving, trying out ideas and different ways of thinking.

To support and encourage this, individuals should be given choices during creative activities and time to express themselves, experience and explore different materials.

Arts in Health: There has been an increasing understanding of the positive impact of arts in health. Working together with medicine and physical care arts can help individuals with physical or mental health problems and promote well-being. Involvement in the arts gives an outlet for individuals who are ill and increasingly care homes, General Practitioners’ surgeries, hospitals and community hospitals are supporting individuals to access and take part in activities in the ‘arts’ as a way of supporting their well-being.

Creative activity and ‘Arts’ can include:

  • dance
  • drama
  • music
  • painting
  • drawing
  • craft
  • modelling and sculpting
  • design
  • imaginative play
  • creative movement.

Activities and experiences can be in both indoor and outdoor environments.

Gall datblygiad creadigol a'r ‘Celfyddydau’ gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant unigolion. Maent yn hybu hyder a hunan-barch ac yn cefnogi datblygiad emosiynol a llesiant corfforol. Gellir defnyddio gweithgareddau creadigol i fynegi a chyfleu syniadau, meddyliau a theimladau yn agored a heb farnu. Mae gallu creu rhywbeth, e.e. llun o deimladau a phrofiadau personol unigolyn, yn cefnogi ac yn meithrin iechyd emosiynol. Mewn unrhyw weithgaredd creadigol, yr hyn sy'n bwysig yw rhyddid mynegiant er mwyn helpu i fynegi teimladau. Gall gweithgareddau creadigol helpu gofalwyr i ddeall teimladau ac emosiynau unigolion. Caiff twf meddyliol ei gefnogi gan ddatrys problemau, rhoi cynnig ar syniadau a ffyrdd gwahanol o feddwl.

Er mwyn cefnogi ac annog hyn, dylid rhoi dewisiadau i unigolion yn ystod gweithgareddau creadigol, ac amser i fynegi eu hunain a phrofi ac archwilio gwahanol ddeunyddiau.

Y Celfyddydau ym maes Iechyd: Ceir dealltwriaeth gynyddol o effaith gadarnhaol y celfyddydau ym maes iechyd. Ar y cyd â meddyginiaeth a gofal corfforol, gall y celfyddydau helpu unigolion â phroblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl a hybu llesiant. Mae ymwneud â'r celfyddydau yn ffordd i unigolion sy'n sâl fynegi eu hunain ac, yn gynyddol, mae cartrefi gofal, meddygfeydd meddygon teulu, ysbytai ac ysbytai cymunedol yn helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y ‘celfyddydau’ fel ffordd o gefnogi eu llesiant.

Gall gweithgareddau creadigol a'r ‘Celfyddydau’ gynnwys:

  • dawnsio
  • drama
  • cerddoriaeth
  • peintio
  • lluniadu
  • crefft
  • modelu a cherflunio
  • dylunio
  • chwarae llawn dychymyg
  • symud creadigol.

Gall gweithgareddau a phrofiadau fod mewn amgylcheddau dan do neu yn yr awyr agored.

Case study

Astudiaeth achos

Jack is nine years old and has autism. He responds well to creative activities that allow him to create pieces of unique artwork. He does not like being involved in group activities.

Try to find 2 classes that Jack would be able to attend within a 20 mile radius of your local area.

Mae Jack yn 9 oed ac mae ganddo awtistiaeth. Mae’n ymateb yn dda i weithgareddau creadigol sy’n ei alluogi i greu darnau unigryw o waith celf. Dydy e ddim yn hoffi bod yn rhan o weithgareddau grŵp.

Ceisiwch ddod o hyd i ddau ddosbarth y byddai Jack yn gallu eu mynychu o fewn 10 milltir i’ch ardal leol.