Legislation and national guidance related to the administration of medication

Deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol sy'n ymwneud â rhoi meddyginiaeth

Nutritional suppliments

Legislation and national guidance related to the administration of medication includes:

Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Misuse of Drugs Act 1971 (regulations 1972 and 2001)

Health Act 2006 (Controlled Medication)

Control of Substances Hazardous to Health (COSHH) 1999

Hazardous Waste Regulations 2005

Mental Health Act 2007

Mental Capacity Act 2005 and associated Code of Practice

All Wales Guidance for Health Boards/trusts in respect of medicines and Health Care Support Workers November 2015

Care Inspectorate Wales National Minimum Standards Day care

Mae deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol sydd ynghlwm wrth roi meddyginiaeth yn cynnwys:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (rheoliadau 1972 a 2001)

Deddf Iechyd 2006 (Meddyginiaeth a Reolir)

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) 1999

Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005

Deddf Iechyd Meddwl 2007

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Chod Ymarfer cysylltiedig

Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Byrddau Iechyd/ymddiriedolaethau iechyd mewn perthynas â meddyginiaethau a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Tachwedd 2015

Arolygiaeth Gofal Cymru Safonau Gofynnol Cenedlaethol Gofal dydd


Woman holding pills

In childcare settings the National Minimum Standards for Regulated Day care give guidance in Standard 11.

The registered person is responsible for ensuring that:

11.1 if medication is administered to a child, this is with the written agreement of the parent and with an understanding of the possible side effects of the medication. If medication is self administered by the child, this is in line with written guidance from the parent and with an understanding of the possible side effects of this medication;

11.2 the parent gives written permission before any medication is given;

11.3 medication is stored in the original container, clearly labelled with the child’s name and must be inaccessible to children;

11.4 written records are kept of all medicines administered to children and parents sign the record book to acknowledge the entry;

11.5 there is a clear policy, understood and implemented by all staff and discussed with parents, about the storage and administration of medication. The policy conforms to the terms of the registered person’s insurance cover;

11.6 prescription medicines are not administered unless a doctor has prescribed them for that child. Any medicine received into the setting is not out of date;

11.7 information is gained to establish from the person delivering the child exactly when medication was last administered; and

11.8 if the administration of prescription medicines requires technical or medical knowledge then individual training is provided by a qualified health professional. Training is specific to the individual child concerned.

(https://bit.ly/2Wm9fzL)

Mewn lleoliadau gofal plant mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yn rhoi arweiniad yn Safon 11.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

11.1 os rhoddir meddyginiaeth i blentyn, mai dim ond gyda chaniatâd ysgrifenedig y rhiant y ceir gwneud hynny, a chyda dealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Os yw’r plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth ei hunan, gwneir hyn yn unol â chanllawiau ysgrifenedig gan y rhiant a chyda dealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddiginiaeth;

11.2 bod y rhiant yn rhoi caniatâd ysgrifenedig cyn i unrhyw feddyginiaeth gael ei rhoi;

11.3 bod meddyginiaeth yn cael ei storio yn y cynhwysydd gwreiddiol, wedi'i labelu'n glir gydag enw'r plentyn, ac na all plant ei chyrraedd;

11.4 bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o bob meddyginiaeth a weinyddir i blant a bod rhieni yn llofnodi'r llyfr cofnod i'w chydnabod;

11.5 bod polisi clir, a ddeëllir ac a weithredir gan bawb o'r staff ac a drafodwyd gyda'r rhieni ynghylch storio a gweinyddu meddyginiaeth. Bod y polisi yn cydymffurfio â thelerau yswiriant y person cofrestredig;

11.6 na weinyddir meddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod meddyg wedi'u rhagnodi ar gyfer y plentyn hwnnw. Nad yw unrhyw feddyginiaeth a dderbynnir yn y lleoliad yn hen;

11.7 yr holir y person sy'n dod â'r plentyn i'r lleoliad pryd yn union y gweinyddwyd y feddyginiaeth ddiwethaf; a

11.8 os yw gweinyddu meddyginiaethau presgripsiwn yn galw am wybodaeth dechnegol neu feddygol, bod hyfforddiant unigol yn cael ei roi gan weithiwr iechyd proffesiynol cymwys. Bod yr hyfforddiant yn benodol i'r plentyn unigol dan sylw.

(https://bit.ly/2VYD4qD)

Legislation and national guidance related to the administration of medication

Deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol sy'n ymwneud â rhoi meddyginiaeth

Which of these pieces of legislation and guidance relate to the administration of medication? Drag the pieces of legislation and guidance to the correct columns.

Pa rai o'r darnau o ddeddfwriaeth a'r canllawiau hyn sy'n ymwneud â rhoi meddyginiaeth? Llusgwch y darnau o ddeddfwriaeth a'r canllawiau i mewn i'r colofnau cywir.



      Roles and responsibilities of those involved in prescribing, dispensing and supporting the use of medication

      Rolau a chyfrifoldebau'r rheini sy'n gysylltiedig â rhagnodi meddyginiaeth, ei rhoi a helpu i'w chymryd

      Doctor writing prescription

      Policies and procedures in settings related to medication are put in place to ensure that legislation is being followed so that both practitioners and those being cared for are safe. Policies will outline the roles of different individuals in the administration of medication within organisations.

      It is the role of the doctor to prescribe medication indicating the dose, type and amount of medication to be given. The doctor should explain what the medication is for and any side effects.

      It is the chemist’s/pharmacist’s role to dispense the medication checking that medication dispensed matches the prescription. The medication should be labelled with details such as the name of the individual who is to take the medication, the name of the medication, the date it is supplied and expiry date, the dose to be taken, how it is to be taken (e.g. orally / intravenously) and how often. Any special instructions e.g. eat before or after food should be recorded.

      In the case of ‘over the counter’ medicines the pharmacist has a responsibility to make sure the medicine is suitable for the individual and the medical condition they want it for.

      In a social care setting the manager should ensure that policies and procedures are in place that meet regulatory requirements and that staff have regularly updated training on the administration of medication. They should ensure that care plans and record keeping systems are in place.

      Regulation 13 of the Health and Social Care Act 2008 (Regulated Activities) Regulations 2010 states that: ‘The registered person must protect service users against the risks associated with the unsafe use and management of medicines, by means of the making of appropriate arrangements for the obtaining, recording, handling, using, safe keeping, dispensing, safe administration and disposal of medicines used for the purposes of the regulated activity.’

      In the case of ‘over the counter medicines’ the manager has a responsibility to confirm with the resident’s General Practitioner that any over the counter medicines will not interact with prescribed medication.

      It is the carer’s role to ensure that the patient gets their medication. They need to ensure they give the correct medication at the correct time and the correct dose. The respect and dignity of the individual should be maintained during the administration of medication. Records of administration of medication with date, time and dose should be kept.

      Carers should be aware that ‘over the counter’ medicines shouldn’t be taken with prescribed medicines unless a doctor or pharmacist has confirmed that it is safe.

      Caiff polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â meddyginiaeth eu rhoi ar waith mewn lleoliadau er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei dilyn fel bod ymarferwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal yn ddiogel. Bydd polisïau'n amlinellu rolau gwahanol unigolion yn y broses o roi meddyginiaeth mewn sefydliadau.

      Rôl y meddyg yw rhagnodi meddyginiaeth gan nodi'r dos, y math o feddyginiaeth i'w rhoi a faint ohoni. Dylai'r meddyg esbonio beth mae'r feddyginiaeth yn ei wneud ac unrhyw sgil effeithiau.

      Rôl y fferyllydd yw dosbarthu'r feddyginiaeth, gan sicrhau ei fod yn gwneud hynny'n unol â'r presgripsiwn. Dylai'r feddyginiaeth gael ei labelu gan roi manylion fel enw'r unigolyn a fydd yn cymryd y feddyginiaeth, enw'r feddyginiaeth, y dyddiad y caiff ei chyflenwi a'r dyddiad dod i ben, y dos i'w gymryd, sut i'w chymryd (e.e. drwy'r geg / drwy wythïen) a pha mor aml. Dylid cofnodi unrhyw gyfarwyddiadau arbennig, e.e. cymryd cyn neu ar ôl bwyd.

      Yn achos meddyginiaethau ‘dros y cownter’ mae cyfrifoldeb ar y fferyllydd i sicrhau bod y feddyginiaeth yn addas i'r unigolyn a'r cyflwr meddygol sydd ganddo.

      Mewn lleoliad gofal cymdeithasol, dylai'r rheolwr sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau ar waith sy'n bodloni gofynion rheoliadol a bod y staff yn cael hyfforddiant cyfredol yn rheolaidd ar roi meddyginiaeth. Dylai sicrhau bod cynlluniau gofal a systemau cadw cofnodion ar waith.

      Mae Rheoliad 13 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Gweithgareddau a Reoleiddir) Rheoliadau 2010 yn nodi: ‘The registered person must protect service users against the risks associated with the unsafe use and management of medicines, by means of the making of appropriate arrangements for the obtaining, recording, handling, using, safe keeping, dispensing, safe administration and disposal of medicines used for the purposes of the regulated activity.’

      Yn achos ‘meddyginiaethau dros y cownter’ mae cyfrifoldeb ar y rheolwr i gadarnhau gyda meddyg teulu'r preswyliwr na fydd unrhyw feddyginiaethau dros y cownter yn rhyngweithio â'r feddyginiaeth a ragnodwyd.

      Rôl y gofalwr yw sicrhau bod y claf yn cael ei feddyginiaeth. Mae angen iddo sicrhau ei fod yn rhoi'r feddyginiaeth gywir ar yr adeg gywir, ac yn rhoi'r dos cywir. Dylid cynnal parch ac urddas yr unigolyn wrth roi meddyginiaeth. Dylid cadw cofnodion o roi meddyginiaeth sy'n cynnwys y dyddiad, yr amser a'r dos.

      Dylai gofalwyr fod yn ymwybodol na ddylai meddyginiaethau ‘dros y cownter’ gael eu cymryd ar y cyd â meddyginiaethau a ragnodwyd, oni bai bod meddyg neu fferyllydd wedi cadarnhau bod hynny'n ddiogel.

      Roles and responsibilities of those involved in prescribing, dispensing and supporting the use of medication

      Drag the roles and responsibilities to the correct individuals.

      Rolau a chyfrifoldebau'r rheini sy'n gysylltiedig â rhagnodi meddyginiaeth, ei rhoi a helpu i'w chymryd

      Llusgwch y rolau a'r cyfrifoldebau at yr unigolion cywir.

      Terms

      Termau

      Definitions

      Diffiniadau

      Correct answers

      Atebion cywir

            Links between misadministration of medication and safeguarding

            Y cysylltiadau rhwng rhoi'r feddyginiaeth anghywir a diogelu

            Child taking medicine

            Errors and malpractice occur in the administration of medication through procedures not being followed correctly. Some may be intentional, where staff may misappropriate drugs or use sedatives to manage behaviour. Mistakes can be made at each stage of the medication process by the General Practitioner, pharmacist, manager, or carer.

            The misadministration of medication is considered to be a safeguarding issue when there are concerns that there has been:

            • medication withheld without a valid reason
            • incorrect use of medicine other than for the benefit of a patient/child or young person
            • deliberate act of harm using medication
            • accidental harm caused by an administration of medication error
            • deliberate falsification of records relating to the administration of medication
            • misuse or over-reliance on sedatives to control behaviour.

            Staff in social care settings (including childcare) should be aware that concerns regarding the administration of medication should be reported under safeguarding procedures.

            Gall camgymeriadau gael eu gwneud ar bob cam o'r broses o roi meddyginiaeth am nad yw'r gweithdrefnau wedi cael eu dilyn yn gywir. Gall rhai camgymeriadau fod yn bwrpasol, os yw gweithwyr yn camddefnyddio meddyginiaeth neu’n defnyddio tawelyddion i reoli ymddygiad. Gall camgymeriadau gael eu gwneud ar bob cam o'r broses o roi meddyginiaeth, gan y meddyg teulu, y fferyllydd, y rheolwr neu'r gofalwr.

            Ystyrir bod rhoi'r feddyginiaeth anghywir yn fater diogelu os oes pryderon bod y canlynol wedi digwydd:

            • meddyginiaeth wedi cael ei dal yn ôl heb reswm dilys
            • defnydd anghywir o feddyginiaeth heblaw er budd claf/plentyn neu berson ifanc
            • gweithred niweidiol fwriadol yn defnyddio meddyginiaeth
            • niwed damweiniol a achoswyd drwy wall mewn perthynas â rhoi meddyginiaeth
            • ffugio cofnodion yn fwriadol mewn perthynas â rhoi meddyginiaeth
            • camddefnydd neu orddibyniaeth ar dawelyddion i reoli ymddygiad.

            Dylai staff mewn lleoliadau gofal cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant) fod yn ymwybodol y dylid rhoi gwybod am bryderon mewn perthynas â rhoi meddyginiaeth o dan weithdrefnau diogelu.