Introduction

Cyflwyniad

Elderly woman in wheelchair

For every role created within the health and social care sector, a job description will be created for their role. This will explain to the health and social care workers what their main duties, roles, responsibilities and accountabilities are and who they will need to report to. If a copy has not been provided for them, they should ask their employer to provide one for them. They should be aware of what is expected of them but should be aware of duties that are not included in their specific role.

Ar gyfer pob rôl a gaiff ei chreu yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, caiff disgrifiad swydd ei greu ar gyfer y rôl honno. Bydd yn egluro i'r gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol beth yw eu prif ddyletswyddau, rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwyddau a phwy y byddant yn atebol iddynt. Os na fyddant wedi cael copi, dylent ofyn i'w cyflogwr roi copi iddynt. Dylent fod yn ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir ganddynt ond dylent fod yn ymwybodol o'r dyletswyddau nad ydynt yn rhan o'u rôl benodol.

Professional responsibilities and accountabilities

Cyfrifoldebau ac atebolrwydd proffesiynol

Elderly man and nurse

Ways of working in health and social care settings are described in an organisation’s written policies and procedures, and in records such as care and support plans that have been agreed by all concerned and that allow needs to be met more flexibly. They are based on legislation, standards and professional body codes of practice. Workers are required to follow these ways of working to promote and maintain the health, safety and well-being of everyone in the workplace.

Ensuring that individuals are properly cared for when they access health and social care services requires the application of legislation, standards and codes of conduct and professional practice. This ensures individuals are given the best possible service.

The Code of Professional Practice for Social Care describes the standards of professional conduct and practice required of health and social care workers in Wales. The Code plays a key part in raising awareness of these standards. The Code promotes the values that underpin social care and support and seeks to embed them within working practice.

Individuals who access services, carers and family members need to know about the Code. The provision of safe care and support is everyone’s responsibility, not just health and social care workers and it is important that individuals in Wales know what to expect of social care workers.

https://socialcare.wales/reources/code-of-professional-practice-for-social-care

Caiff ffyrdd o weithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eu disgrifio fel rhan o bolisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig sefydliad, megis cynlluniau gofal a chymorth, ac mewn cofnodion y cytunwyd arnynt gan bawb dan sylw ac sy'n golygu y gellir diwallu anghenion mewn ffordd fwy hyblyg. Maent yn seiliedig ar ddeddfwriaeth, safonau a chodau ymarfer cyrff proffesiynol. Mae'n ofynnol i weithwyr ddilyn y ffyrdd hyn o weithio er mwyn hyrwyddo a chynnal iechyd, diogelwch a llesiant pawb yn y gweithle.

Er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael gofal priodol pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae angen cymhwyso deddfwriaeth, safonau a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol. Mae hyn yn sicrhau bod unigolion yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Mae'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn disgrifio'r safonau ymddygiad a'r ymarfer proffesiynol sy'n ofynnol gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Cod yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o'r safonau hyn. Mae'r Cod yn hyrwyddo'r gwerthoedd sy'n sail i ofal a chymorth cymdeithasol ac yn ceisio eu cynnwys o fewn ymarfer gweithio.

Mae angen i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau, eu gofalwyr ac aelodau o'u teuluoedd wybod am y Cod. Mae cyfrifoldeb ar bawb i ddarparu gofal a chymorth diogel, nid dim ond gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n bwysig bod unigolion yng Nghymru yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan weithwyr gofal cymdeithasol.

https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/côd-ymarfer-proffesiynol-gofal-cymdeithasol

The Code of Professional Practice for Social Care

Watch the video about The Code of Professional Practice for Social Care

Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Gwyliwch y fideo am y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

What is the Code of Professional Practice for Social Care and what does it mean?

Beth yw’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a beth y mae’n ei olygu?

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru

Carer

The Code applies to all Healthcare Support Workers employed in clinical and non-clinical settings within the NHS and is used in job descriptions. The Code of Practice for NHS Wales' employers is an important quality assurance process, supporting the employment, training and monitoring of Healthcare Support Workers in Wales.

http://www.wales.nhs.uk/nhswalescodeofconductandcodeofpractice

Mae'r Cod yn berthnasol i bob Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir mewn lleoliadau clinigol ac anghlinigol ac fe'i defnyddir mewn disgrifiadau swydd. Mae'r Cod Ymarfer i gyflogwyr GIG Cymru yn broses sicrhau ansawdd bwysig, sy'n helpu wrth gyflogi, hyfforddi a monitro Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru.

http://www.wales.nhs.uk/codymddygiadachodymarfergigcymru

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru

Multiple choice question Cwestiwn aml-ddewis

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales applies to: Mae Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru yn berthnasol i'r canlynol:

The Code of Practice for NHS Wales Employers

Y Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru

The Code of Practice for NHS Wales' employers is an important guidance and quality assurance document, supporting the job roles of Healthcare Support Workers in Wales.

The Code of Practice for Employers is underpinned by a Code of Conduct for Healthcare Support Workers which details the standards individuals must comply with. Both Codes support the basic principles of safety and public protection and should underpin the day to day working practices of NHS Wales.

Employers are required to develop and implement systems and processes to support Healthcare Support Workers to achieve the standards set out in the Code of Conduct. Employers also need to use the workplace as an opportunity to develop Healthcare Support Workers by providing working conditions that enable staff to carry out their roles effectively, preparing them to progress to new and extended roles.

Mae'r Cod Ymarfer i gyflogwyr GIG Cymru yn ddogfen ganllaw a sicrhau ansawdd bwysig, sy'n ategu rolau swydd Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru.

Mae'r Cod Ymarfer i Gyflogwyr wedi'i ategu gan God Ymddygiad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n nodi'r safonau y mae'n rhaid i unigolion gydymffurfio â nhw. Mae'r ddau God yn ategu egwyddorion sylfaenol diogelwch ac amddiffyn y cyhoedd a dylent weithredu fel sail i arferion gwaith beunyddiol GIG Cymru.

Mae'n ofynnol i gyflogwyr ddatblygu a gweithredu systemau a phrosesau er mwyn helpu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gyrraedd y safonau a nodir yn y Cod Ymddygiad. Mae angen hefyd i gyflogwyr ddefnyddio'r gweithle fel cyfle i ddatblygu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd drwy ddarparu amodau gwaith sy'n galluogi staff i ymgymryd â'u rolau'n effeithiol, gan eu paratoi i gamu ymlaen i rolau newydd ac estynedig.

Codes of Practice

Codau Ymarfer

Medical staff

What do both Codes of Practice support?

Beth mae'r ddau God Ymarfer yn ei gefnogi?

Suggested response

  • sets the standards expected of the workers
  • supports the behaviour and attitude you’d expect to receive
  • helps provide safe and guaranteed care and support
  • ensures they can carry out the requirements of their role
  • they support CPD of identified areas that require training.

Ymateb awgrymedig

  • yn nodi'r safonau a ddisgwylir gan y gweithwyr
  • yn cefnogi'r ymddygiad a'r agwedd y byddech yn disgwyl eu gweld
  • yn helpu i ddarparu gofal a chymorth diogel a sicr
  • yn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion eu rôl
  • maent yn nodi meysydd DPP lle y mae angen hyfforddiant.

The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales

Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl i Blant sydd wedi Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Nursery nurse

The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales also provides advice to help staff to support positive outcomes for children and young individuals. The guidance can also be used by employers to review procedures in relation to ensuring a professional and safe service. Sections in the guidance cover child-centred care and support, good residential child care practice, safeguarding individuals, health and safety, professional development, learning culture and contributing to the development of others and contributing to the service, including raising concerns. The guidance leads on from the ‘Code of professional practice for social care’. Failing to follow the guidance could put a worker’s registration at risk.

https://bit.ly/2kgmD7s

Mae'r Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl i Blant sydd wedi Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn rhoi cyngor er mwyn helpu staff i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant ac unigolion ifanc. Gall cyflogwyr hefyd ddefnyddio'r canllawiau i adolygu gweithdrefnau mewn perthynas â sicrhau gwasanaeth proffesiynol a diogel. Mae'r adrannau yn y canllawiau yn ymdrin â gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ymarfer gofal preswyl i blant da, diogelu unigolion, iechyd a diogelwch, datblygiad proffesiynol, diwylliant dysgu a chyfrannu at ddatblygiad eraill a chyfrannu at y gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon. Mae'r canllawiau yn ymhelaethu ar y 'Cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol'. Gallai methu â dilyn y canllawiau olygu y bydd cofrestriad gweithiwr yn y fantol.

https://bit.ly/2nvVPl2

The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales

Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl i Blant sydd wedi Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

What is the key focus of the Practice Guidance?

Beth yw ffocws allweddol y Canllawiau Ymarfer?

Suggested response:

The Practice Guidance explains what workers are expected to do, it provides a practical tool, supporting workers in their practice, giving guidance that enables workers to deliver a high quality, safe service.

Ymateb awgrymedig:

Mae'r Canllawiau Ymarfer yn esbonio beth y disgwylir i weithwyr ei wneud, maent yn darparu adnodd ymarferol, gan helpu gweithwyr mewn perthynas â'u hymarfer, a rhoi arweiniad sy'n galluogi gweithwyr i ddarparu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel.