What are the differences between fact, opinion and judgement?

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng ffaith, barn a dyfarniad?

Carer

When working in health and social care knowing the difference between fact, opinion and judgement, particularly in relation to reporting and recording key information.

Facts are facts and they cannot be changed or influenced in any way. They should be accurate as otherwise the information being presented is false.

Opinion is the impression or view of whatever situation the individual is reporting or recording.

A judgement is based on an evaluation or review of evidence, taking into account both opinion and the facts. It is then made clear how the individual came to their final decision.

Wrth weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae gwybod y gwahaniaeth rhwng ffaith, barn a dyfarniad yn bwysig, yn arbennig mewn perthynas â rhoi gwybod am wybodaeth allweddol a chofnodi'r wybodaeth honno.

Mae ffeithiau yn ffeithiau ac ni ellir eu newid na dylanwadu arnynt mewn unrhyw ffordd. Dylent fod yn gywir neu fel arall, mae'r wybodaeth a gyflwynir yn anwir.

Ystyr barn yw'r argraff a geir neu ddehongliad yr unigolyn am ba bynnag sefyllfa y mae'n rhoi gwybod amdani neu'n ei chofnodi.

Mae dyfarniad yn seiliedig ar werthusiad neu adolygiad o dystiolaeth, gan ystyried barn a'r ffeithiau. Wedyn, bydd yn amlwg sut y gwnaeth yr unigolyn ei benderfyniad terfynol.

Which is which?

Identify if each statement are either a fact, opinion or judgement.

Pa un yw pa un?

Nodwch pa un ai ffaith, barn neu ddyfarniad yw pob datganiad.

Penalty total: Cyfanswm cosbau:

Your time: Eich amser: 00:00:00

The current record is: Yr amser gorau: 00:00:00

Well done! Da iawn!

You've set a new record! Record newydd!

Your time: Eich amser: 00:00:00

Total time penalty: Cyfanswm amser cosb: 00:00:00

The correct answers were: Yr atebion cywir:

Why it is important to understand the difference between, fact, opinion and judgement

Pam ei bod yn bwysig deall y gwahaniaeth rhwng ffaith, barn a dyfarniad

Paper and Gavel

When recording and reporting information about individuals and their families or carers it is important that the information is clear, accurate, current and complete. It must not be based on hearsay, gossip or third party information. Did the person take their medication or didn’t they? Did they go out without telling you where they were going or didn’t they? Did they have toast for breakfast or didn’t they?

Information recorded about individuals and their families or carers could be vital-their lives could depend on it, so it is so important this information is accurate and factual. It could relate to their well-being, or safeguarding issues.

An individual’s own opinion and judgement are not relevant, the evidence would be of no assistance and would not stand up in a court on law, should it be needed.

Wrth gofnodi a rhoi gwybod am wybodaeth am unigolion a'u teuluoedd neu ofalwyr, mae'n bwysig bod y wybodaeth yn glir, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn. Ni ddylai fod yn seiliedig ar sibrydion, sïon na gwybodaeth gan drydydd parti. A wnaeth y person gymryd ei feddyginiaeth neu beidio? A wnaeth fynd allan heb ddweud wrthych i ble roedd yn mynd neu beidio? A gafodd dost i frecwast neu beidio?

Gallai gwybodaeth a gaiff ei chofnodi am unigolion a'u teuluoedd neu ofalwyr fod yn hanfodol gan y gallai eu bywyd ddibynnu arni. Mae gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn gywir a ffeithiol yn hynod o bwysig. Gallai ymwneud â'u llesiant, neu faterion diogelu.

Nid yw barn na dyfarniad unigolyn yn berthnasol. Ni fyddai'r dystiolaeth o gymorth mewn unrhyw ffordd ac ni châi ei derbyn mewn llys cyfreithiol, pe byddai ei hangen.