In any job role there is a range of support available to a worker which include:
Mewn unrhyw swydd, mae amrywiaeth o gymorth i weithiwr gan gynnwys y canlynol:
Mae rheolwr llinell neu oruchwylydd gweithiwr yn ffynhonnell adborth bwysig iawn gan mai nhw, yn y pen draw, sy'n gyfrifol am ei waith a'i ymddygiad. Dylai rheolwr llinell neu oruchwylydd roi adborth yn ystod sesiwn arfarnu a dylai'r adborth fod yn adeiladol, hynny yw'n gadarnhaol ac yn ddefnyddiol. Mae adborth negyddol yn ddinistriol ac nid yw'n hyrwyddo datblygiad personol na newid. Gellid darparu adborth goruchwylio ffurfiol, mewn cyfarfodydd neu adolygiadau penodedig. Fodd bynnag, mae goruchwylio mwy anffurfiol hefyd o fudd; gall trafodaethau rheolaidd, cyfarfodydd, sgyrsiau dros goffi, digwydd gweld eich gilydd wrth y llungopïwr a thrafodaethau mor syml â gofyn sut mae rhywun hefyd fod yn bwysig.
Check out how often formal supervision (appraisal or performance review) should take place at your workplace, when and where your next appraisal or performance review will take place, and who will carry it out with you.
Gofynnwch pa mor aml y dylid cynnal sesiynau goruchwylio ffurfiol (arfarniadau neu adolygiadau perfformiad) yn eich gweithle, pryd a ble y cynhelir eich arfarniad neu'ch adolygiad perfformiad nesaf, a phwy fydd yn ei gynnal.
In order for any learning to make a difference to a worker's practice, they must be prepared to act on it and make changes. Think about the feedback they're given and the training they have attended. They may not agree with the changes they're asked to make, for example they may be asked to do something in a way that they feel is inappropriate, is not within their level of responsibility or would compromise health and safety. In situations like this, a worker should talk with their supervisor or line manager. However, most feedback will be positive and changes they're asked to make will be well within their capability.
Think about what a worker does, how they do it and how they can use their learning to improve their practice. This might involve using a new way of moving and handling, or a new method of communication they have not used before.
Er mwyn i unrhyw ddysgu wneud unrhyw wahaniaeth i ymarfer gweithiwr, rhaid iddynt fod yn barod i weithredu arno a gwneud newidiadau. Ystyriwch yr adborth a roddir iddynt a'r hyfforddiant y maent wedi'i fynychu. Efallai na fyddant yn cytuno â'r newidiadau y gofynnir iddynt eu gwneud, er enghraifft efallai y gofynnir iddynt wneud rhywbeth mewn ffordd sy'n amhriodol, yn eu barn nhw, nad yw o fewn eu lefel cyfrifoldeb neu a fyddai'n rhoi iechyd a diogelwch yn y fantol. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, dylai gweithiwr siarad â'u goruchwylydd neu reolwr llinell. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o adborth yn gadarnhaol a byddant yn gallu gwneud y newidiadau y gofynnir iddynt eu gwneud yn ddigon hawdd.
Ystyriwch yr hyn y mae'r gweithiwr yn ei wneud, sut y mae'n ei wneud a sut y gall ddefnyddio'r hyn y mae wedi'i ddysgu er mwyn gwella ei ymarfer. Gallai hyn olygu defnyddio ffordd newydd o godi a thrin, neu ddull cyfathrebu newydd nad yw wedi'i ddefnyddio o'r blaen.