Equality, diversity, inclusion and discrimination and how child-centred approaches promote this

Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwahaniaethu a sut mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo hyn

A child with a teacher

Equality

Equality means appreciating every individual, with equal opportunities for all. In your role as childcare worker you will need to treat people in a manner appropriate to their needs. Equality does not mean treating everyone exactly the same, as that does not take into account people's differing needs, wishes and choices. Child-centred approaches promote equality by looking at each child or young person as an individual and planning suitable activities for them.

Diversity

Diversity means the differences between individuals in a group, e.g. different backgrounds, experiences, styles, perceptions, values and beliefs. In your role as childcare worker you will work with many children and people from different backgrounds. You will work with children and people of different genders, different abilities and people who speak different languages. Child-centred approaches promote diversity by showing children and young people that the services appreciate everyone. Children and young people's support services should develop a sense of identity and promote a positive feeling in them regarding their backgrounds and cultures.

Inclusion

Inclusion means that no-one is excluded because of differences such as where they live, what their beliefs are or due to their abilities. In your role as childcare worker you will need to ensure that all parts of society can use the service so that they can fulfil their potential in life, whatever their circumstances. Child-centred approaches promote inclusion as all children and young people have the right to have their needs met in the best way for them.

Discrimination

Discrimination means treating some people less favourably than others because they or their family/carers are considered to belong to a different group in society. Discrimination can be based on sex, age, religion or ethnicity and is often caused by other people's attitudes towards these.

Cydraddoldeb

Mae cydraddoldeb yn golygu gwerthfawrogi pob unigolyn a rhoi cyfle cyfartal i bawb. Yn eich rôl fel gweithiwr gofal plant bydd angen trin pobl mewn modd sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion. Nid yw cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn union yr un fath, gan nad yw hynny'n ystyried anghenion, dymuniadau a dewisiadau gwahanol sydd gan bobl. Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo cydraddoldeb drwy edrych ar bob plentyn neu berson ifanc fel unigolyn a chynllunio gweithgareddau addas iddynt.

Amrywiaeth

Mae amrywiaeth yn golygu’r gwahaniaethau rhwng unigolion mewn grŵp, e.e. gwahanol gefndiroedd, profiadau, arddulliau, canfyddiadau, gwerthoedd a chredoau. Yn eich rôl fel gweithiwr gofal plant byddwch yn gweithio gyda llawer o blant a phobl o wahanol gefndiroedd. Byddwch yn gweithio gyda phlant a phobl o wahanol ryw, gwahanol alluoedd a phobl sy'n siarad ieithoedd gwahanol. Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo amrywiaeth drwy ddangos i blant a phobl ifanc bod y gwasanaethau yn gwerthfawrogi pawb. Dylai gwasanaethau cefnogi plant a phobl ifanc ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth a hyrwyddo ymdeimlad positif ynddynt am eu cefndiroedd a’u diwylliannau.

Cynhwysiant

Mae cynhwysiant yn golygu na chaiff neb ei heithrio oherwydd gwahaniaethau megis ble maen nhw’n byw, beth yw eu credoau neu oherwydd eu galluoedd. Yn eich rôl fel gweithiwr gofal plant bydd angen i chi sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn gallu defnyddio’r gwasanaeth fel y gallant gyflawni eu potensial mewn bywyd, beth bynnag yw eu hamgylchiadau. Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo cynhwysiant gan fod pob plentyn neu berson ifanc â'r hawl i gael eu hanghenion wedi eu diwallu yn y ffordd orau iddynt.

Gwahaniaethu

Mae gwahaniaethu yn golygu trin rhai pobl yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eu bod hwy neu eu teulu/gofalwyr yn cael eu hystyried i fod yn perthyn i grŵp gwahanol mewn cymdeithas. Gall gwahaniaethu fod ar sail rhyw, oed, crefydd neu ethnigrwydd gydag agweddau pobl eraill at hynny yn achosi’r gwahaniaethu yn aml.

Equality, diversity, inclusion and discrimination and how child-centred approaches promote this

Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwahaniaethu a sut mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo hyn

Match the term to the correct description.

Cysylltwch y term gyda’r disgrifiad cywir.


Terms

Termau

Definitions

Diffiniadau

Correct answers

Atebion cywir

        Equality, diversity, inclusion and discrimination and how child-centred approaches promote this

        Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwahaniaethu a sut mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo hyn

        Try to answer the following questions:

        Rhowch gynnig ar ateb y cwestiynau canlynol:

        QuestionCwestiwn Your ResponseEich Ymateb Suggested ResponseYmateb Awgrymedig

        Suggested Response:

        Ymateb Awgrymedig:

        Appreciating the cultural, religious and linguistic backgrounds of the children and their families/carers and challenging discriminatory practices

        Gwerthfawrogi cefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol y plant a’u teuluoedd/gofalwyr a herio ymarferion sy’n gwahaniaethu

        Children clapping to a song

        Wales today is a multicultural society, which means that people in our society have different religions, ideas and beliefs or hail from countries with different cultural backgrounds. Childcare workers can show children and their families/carers that they appreciate them by:

        • learning a few greetings in the languages used by the families/carers who come to your setting so they feel welcomed
        • showing an interest in the parents/carers
        • being friendly and showing respect to different religions or beliefs
        • praising children and making them feel confident about their identity
        • not judging based on personal opinion, for example commenting on the different methods of raising children
        • challenging discrimination, for example if you hear boys say that girls can't play football.
        • involving parents/carers in the setting by letting them help or provide resources, such as books or music from different languages
        • providing paint in a variety of skin tones so that all children can draw themselves, their families/carers and their friends accurately
        • integrating learning about different cultures into the curriculum
        • supporting children and young people to learn about different people, for example people from different social, ethnic and cultural groups, discussing the differences between people
        • using positive language to discuss the differences in individuals
        • intervening sensitively when children make racist comments
        • offering learning experiences linked to all children's interests and ways of life
        • celebrating different holidays, such as Chinese New Year or Hanukkah
        • challenging adults who discriminate politely but firmly, for example a parent/carer using negative language to describe a child with a disability.

        Mae Cymru heddiw yn gymdeithas amlddiwylliannol, sy’n golygu bod pobl yn ein cymdeithas gyda chrefyddau, syniadau a chredoau gwahanol neu yn hanu o wledydd â chefndiroedd diwylliannol gwahanol. Gall gweithwyr gofal plant ddangos i blant a’u teuluoedd/gofalwyr eu bod yn eu gwerthfawrogi wrth wneud hyn:

        • dysgu ychydig o eiriau cyfarch yn yr ieithoedd a ddefnyddir gan y teuluoedd/gofalwyr sy'n dod i'ch lleoliad fel eu bod yn teimlo bod croeso iddynt
        • dangos diddordeb yn y rhieni/gofalwyr
        • bod yn gyfeillgar a dangos parch at wahanol grefyddau neu gredoau
        • canmol plant a gwneud iddynt deimlo’n hyderus am eu hunaniaeth
        • peidio barnu ar sail barn bersonol, e.e. sylw am y gwahanol ddulliau o fagu plant
        • herio gwahaniaethu, er enghraifft os ydych chi'n clywed bechgyn yn dweud na all merched chwarae pêl-droed.
        • cynnwys rhieni/gofalwyr yn y lleoliad drwy adael iddynt helpu neu ddarparu adnoddau, er enghraifft llyfrau neu gerddoriaeth o wahanol ieithoedd
        • darparu paent mewn amrywiaeth o donau croen fel y gall pob plentyn ddarlunio eu hunain, eu teuluoedd/gofalwyr a'u ffrindiau yn gywir
        • integreiddio dysgu am wahanol ddiwylliannau i’r cwricwlwm
        • cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu am bobl wahanol, er enghraifft pobl o grwpiau cymdeithasol, ethnig a diwylliant gwahanol, gan drafod y gwahaniaethau sydd rhwng pobl
        • defnyddio iaith bositif i drafod gwahaniaethau mewn unigolion
        • ymyrryd yn sensitif pan fydd plant yn gwneud sylwadau hiliol
        • cynnig profiadau dysgu sy’n gysylltiedig â diddordebau a ffordd o fyw pob plentyn
        • dathlu gwahanol wyliau, e.e. Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, Hanukka
        • herio oedolion sy'n gwahaniaethu yn gwrtais ond yn gadarn, er enghraifft rhiant/gofalwr sy'n defnyddio iaith negyddol i ddisgrifio plentyn ag anabledd.

        Appreciating the cultural, religious and linguistic backgrounds of the children and their families/carers and challenging discriminatory practices

        Gwerthfawrogi cefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol y plant a’u teuluoedd/gofalwyr a herio ymarferion sy’n gwahaniaethu.

        How can you show children and their families/carers that you appreciate different cultural, religious and linguistic backgrounds, and how could you challenge discrimination? Note down your ideas on the diagram.

        Sut allwch chi ddangos i blant a’u teuluoedd/gofalwyr eich bod yn gwerthfawrogi gwahanol gefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol, a sut allwch chi herio gwahaniaethu? Nodwch eich syniadau ar y diagram.

        Ways to appreciate cultural, religious
        and linguistic backgrounds,
        and challenge discrimination.
        Ffyrdd i werthfawrogi
        cefndiroedd diwylliannol,
        crefyddol ac ieithyddol,
        ac i herio
        gwahaniaethu.

        Suggested answers

        • learning and displaying a few greetings in the languages used by the families/carers who come to your setting
        • showing respect to different religions or beliefs, inviting families/carers to the setting to discuss their religions or beliefs
        • not judging based on personal opinion, for example not telling a vegan family/carers that they're wrong not to give their children meat
        • challenging discrimination, for example if you hear a girl say that boys shouldn't play with dolls
        • supporting children and young people to learn about people in jobs that challenge discrimination, for example a male nurse
        • providing dolls in a variety of skin tones
        • using positive language to discuss the differences in individuals, for example "Cadi uses a wheelchair, how cool!"
        • challenging adults who discriminate politely but firmly, for example a parent/carer using negative language to describe a child with a disability.

        Atebion awgrymedig

        • dysgu ac arddangos ychydig o eiriau cyfarch yn yr ieithoedd a ddefnyddir gan y teuluoedd/gofalwyr sy'n dod i'ch lleoliad
        • dangos parch at wahanol grefyddau neu gredoau, gwahodd teuluoedd/gofalwyr i’r lleoliad i drafod eu crefyddau neu gredoau
        • peidio barnu ar sail barn bersonol, er enghraifft drwy beidio dweud wrth deulu/gofalwyr sy’n fegan eu bod yn anghywir am beidio rhoi cig i’w plant
        • herio gwahaniaethu, er enghraifft os ydych yn clywed geneth yn dweud fod bechgyn ddim i fod i chwarae gyda doliau
        • cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu am bobl sydd mewn swyddi sy’n herio gwahaniaethu, er enghraifft nyrs gwrywaidd
        • darparu doliau mewn amrywiaeth o donau croen
        • defnyddio iaith bositif i drafod gwahaniaethau mewn unigolion, er enghraifft “mae Cadi yn defnyddio cadair olwyn, dyna cŵl!”
        • herio oedolion sy'n gwahaniaethu yn gwrtais ond yn gadarn, er enghraifft rhiant/gofalwr sy'n defnyddio iaith negyddol i ddisgrifio plentyn ag anabledd.