Anaphylaxis

Anaffylacsis

Allergies

How anaphylaxis differs from other allergic reactions

An anaphylactic reaction is a severe form of allergy which may be life threatening. The entire body will be affected by anaphylaxis. This reaction may be instant but can also occur within hours of coming into contact with the ‘trigger’. Anaphylaxis differs from other allergic reactions as it will involve either or both the cardio vascular system and respiratory system. If not dealt with promptly it can be fatal.

Signs and symptoms

Signs and Symptoms of anaphylaxis are swelling of the lips, mouth, tongue, throat and airway, causing difficulty breathing.

It may also include skin reactions such as flushing, hives and rash. The individual may also experience difficulty in swallowing and speaking, and they may drool.

Their heart rate will increase, and their blood pressure will drop. They may also experience abdominal pain, bowel dysfunction, nausea, vomiting, dizziness and unconsciousness. Without prompt medical intervention consequences can be fatal.

Potential Triggers

Potential triggers can be anything under the sun, as well as the sun itself. However, the most common triggers are:

  • shellfish
  • nuts
  • latex
  • dairy products
  • bees
  • wasps
  • medications
  • the environment (e.g. hay fever).

Diagnosis

Many conditions have signs and symptoms similar to those of anaphylaxis. Therefore, the doctor will want to rule out other possible conditions.

In order to diagnose an anaphylactic reaction, the doctor will firstly ask the patient a series of questions about previous allergic reactions. Skin tests can help determine the trigger and blood tests can be carried out to measure the amount of the enzyme (tryptase) that can be elevated up to three hours after anaphylaxis.

Signposting allergies in children

Raising awareness of the signs and symptoms of allergies in children is important as severe allergic reactions can be fatal. Health campaigns involving posters and information leaflets help educate parents and carers about the potential triggers, the signs to look out for, how it can be treated and when to seek medical help.

Treating anaphylactic reaction

Forms of treatment include:

  • adrenaline via injection
  • oxygen
  • nebuliser
  • steroids
  • antihistamines.

Factors that determine the appropriate treatment and support

The appropriate level of treatment will depend on the severity of the reaction. In a mild case, oral medication may be considered and the person may not require oxygen. However, in severe cases, medication via injection may be needed as well as supporting the individual with oxygen and intravenous fluids.

The individual will need constant reassurance during anaphylaxis. Remaining calm is essential.

Sut mae anaffylacsis yn wahanol i adweithiau alergaidd eraill

Mae adwaith anaffylactig yn fath difrifol o alergedd a allai beryglu bywyd. Bydd anaffylacsis yn effeithio ar y corff cyfan. Gall yr adwaith hwn fod yn sydyn ond gall hefyd ddigwydd o fewn oriau i ddod i gysylltiad â'r 'sbardun’. Mae anaffylacsis yn wahanol i adweithiau alergaidd eraill gan y bydd yn cael effaith ar naill ai'r system gardiofasgwlaidd neu'r system resbiradol neu'r ddwy. Os nad ymdrinir a nhw'n brydlon, gall fod yn angheuol.

Arwyddion a symptomau

Mae arwyddion a symptomau anaffylacsis yn cynnwys y gwefusau, y geg, y tafod, y gwddf a'r llwybr anadlu'n chwyddo, sy'n achosi anhawster wrth anadlu.

Gall hefyd gynnwys adweithiau croen fel gwres, llosg danadl a brech. Gall yr unigolyn hefyd brofi anhawster wrth lyncu a siarad, a gallant lafoeri.

Bydd cyfradd curiad eu calon yn cynyddu a bydd eu pwysedd gwaed yn gostwng. Gallant hefyd brofi poen yn yr abdomen, camweithrediad y coluddyn, cyfogi, chwydu, pendro ac anymwybyddiaeth. Heb ymyrraeth feddygol brydlon gall y canlyniadau fod yn angheuol.

Sbardunau Posibl

Gall sbardunau posibl fod yn unrhyw beth o dan yr haul, yn ogystal â'r haul ei hun. Fodd bynnag, dyma rai o’r sbardunau mwyaf cyffredin:

  • pysgod cregyn
  • cnau
  • latecs
  • cynnyrch llaeth
  • gwenyn
  • gwenyn meirch
  • meddyginiaethau
  • yr amgylchedd (e.e. clefyd y gwair).

Diagnosis

Mae gan lawer o gyflyrau arwyddion a symptomau tebyg i'r rhai o anaffylacsis. Felly, bydd y meddyg am ddiystyru cyflyrau posibl eraill.

Er mwyn gwneud diagnosis o adwaith anaffylactig, bydd y meddyg yn gofyn cyfres o gwestiynau i'r claf am adweithiau alergaidd blaenorol. Gall profion croen helpu i benderfynu beth yw'r sbardun a gellir cynnal profion gwaed i fesur faint o'r ensym (tryptase) y gall fod wedi ei gynyddu hyd at dair awr ar ôl anaffylacsis.

Cyfeirio alergeddau mewn plant

Mae codi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau alergeddau mewn plant yn bwysig gan fod adweithiau alergaidd difrifol yn gallu bod yn angheuol. Mae ymgyrchoedd iechyd sy'n cynnwys posteri a thaflenni gwybodaeth yn helpu i addysgu rhieni a gofalwyr am y sbardunau posibl, yr arwyddion i chwilio amdanynt, sut y gellir eu trin a phryd i geisio cymorth meddygol.

Trin adwaith anaffylactig

Mae'r mathau o driniaeth yn cynnwys:

  • adrenalin drwy bigiad
  • ocsigen
  • nebiwlydd
  • steroidau
  • gwrth-histaminau.

Ffactorau sy'n pennu'r driniaeth a'r cymorth priodol

Bydd y lefel briodol o driniaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr adwaith. Mewn achos ysgafn gellir ystyried rhoi meddyginiaeth drwy’r geg ac efallai na fydd angen ocsigen ar y person. Fodd bynnag, mewn achosion difrifol, efallai y bydd angen rhoi meddyginiaeth drwy bigiad yn ogystal â chynorthwyo'r unigolyn gydag ocsigen a hylifau mewnwythiennol.

Bydd angen tawelu meddwl yr unigolyn trwy'r amser yn ystod anaffylacsis. Mae aros yn ddigynnwrf yn hanfodol.

Supporting children who are experiencing signs of an anaphylactic reaction

Cefnogi plant sy'n profi arwyddion o adwaith anaffylactig

It can be assumed that a child is having an anaphylactic reaction to something (a trigger) if they are showing any of the following signs and symptoms:

  • flushing of the skin
  • hives/rash on the skin
  • panic/anxiety
  • swelling of mucus membranes (e.g. tongue, throat, lips and mouth)
  • difficulty in swallowing or speaking
  • elevated heart rate
  • severe asthma/breathing difficulties
  • abdominal pain
  • nausea/vomiting
  • drop in blood pressure
  • dizziness
  • feeling faint/fainting.

In this case it is important to:

  • remove the trigger that may have caused the reaction
  • reassure the child and keep them calm and safe
  • call for assistance.

The child will need prompt medical attention as these reactions can be fatal if not treated in a timely manner.

Accurate documentation of the anaphylaxis is essential. Accurate documentation requires listing the individual’s signs and symptoms along with any treatment given. To minimise the likelihood of an anaphylaxis or allergic reaction occurring again, it is essential that an accurate report/record of the event is made. With the child’s or carer’s agreement, record sharing with multi-agencies can be carried out. The child should be encouraged to carry or wear an allergy alert, such as a bracelet or card. This alerts others to the potential hazard.

Gellir tybio bod plentyn yn cael adwaith anaffylactig i rywbeth (sbardun) os yw'n dangos unrhyw un o'r arwyddion a'r symptomau canlynol:

  • y croen yn gwrido
  • llosg danadl/brech ar y croen
  • panig/gorbryder
  • pilenni mwcws wedi'u chwyddo (e.e. tafod, gwddf, gwefusau a cheg)
  • anhawster i lyncu neu siarad
  • cynnydd yng nghyfradd curiad y galon
  • asthma difrifol/anawsterau anadlu
  • poen yn yr abdomen
  • cyfog/chwydu
  • gostyngiad mewn pwysedd gwaed
  • pendro
  • teimlo'n wan/llewygu.

Yn yr achos hwn mae'n bwysig:

  • cael gwared â'r sbardun a allai fod wedi achosi'r adwaith
  • tawelu meddyliau'r plentyn a'u cadw'n ddigynnwrf a diogel
  • galw am gymorth.

Bydd angen sylw meddygol ar y plentyn gan y gall yr adweithiau hyn fod yn angheuol os na chânt eu trin yn brydlon.

Mae'n hanfodol dogfennu'r anaffylacsis yn gywir. Mae dogfennu manwl gywir yn gofyn am restru arwyddion a symptomau'r unigolyn ynghyd ag unrhyw driniaeth a roddir. Er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o anaffylacsis neu adwaith alergaidd yn digwydd eto, mae'n hanfodol bod adroddiad/cofnod cywir o'r digwyddiad yn cael ei wneud. Gyda chytundeb y plentyn neu'r gofalwr, gellir rhannu'r cofnodion ag amlasiantaethau. Dylid annog y plentyn i gario neu wisgo rhybudd alergedd, fel breichled neu gerdyn. Mae hyn yn rhybuddio pobl eraill am y perygl posibl.