Structure and functions of the skin

Adeiledd a swyddogaethau'r croen

The skin is the largest and most visible organ of the body it weighs 6-8 lbs and has a surface area of around 20 square feet.

The skin is made up of two main layers:

  • Epidermis – very thin layer and is firmly attached to the dermis at the dermo- epidermal junction.
  • Dermis – made up of two layers comprising of fibrous proteins, collagen and elastin which give skin its strength and elasticity.

Beneath the dermis is the subcutaneous layer, this provides support to the dermis and stores fat which protects the internal structures.

The skin has 6 main functions:

  • Protection – Protects internal structures and acts as a physical barrier to microorganisms and foreign material. The slightly acid PH of the skin also helps to prevent infection.
  • Sensory perception – Allows the feeling of pain, pressure and heat, assisting in identifying potential dangers and avoid injury.
  • Heat regulation – Blood vessels constrict or dilate to raise or lower body temperature. Sweat production promotes healing.
  • Excretion – Small amounts of water and body waste are excreted via sweat.
  • Absorption – Some substances can be absorbed directly into the blood stream via the skin.
  • Secretion – The skin secretes sebum, a mixture of oils that keeps the skin soft and supple.

As we age certain functions of the skin diminish leaving the skin more vulnerable to damage:

  • increased susceptibility to friction and shear resulting in an increased risk of blistering
  • decreased sensitivity to pain perception
  • skin wrinkling
  • skin becomes dry as a result of shrinking sebaceous glands.

Y croen yw organ mwyaf a mwyaf amlwg y corff. Mae'n pwyso 6-8 pwys ac mae ganddo arwynebedd o tua 20 troedfedd sgwâr.

Mae'r croen wedi ei wneud o ddwy brif haen:

  • Epidermis – haen denau iawn sydd yn gysylltiedig â'r isgroen yn y gwnïad dermo-epidermaidd.
  • Isgroen – wedi ei wneud o ddwy haenen yn cynnwys proteinau ffibrog, colagen ac elastin sy'n rhoi nerth ac hyblygrwydd i'r croen.

O dan yr isgroen mae'r haen isgroenol; hwn sy'n cynnal yr isgroen ac yn storio braster sy'n diogelu'r strwythurau mewnol.

Mae gan y croen 6 phrif swyddogaeth:

  • Amddiffyniad – Mae'n amddiffyn strwythurau mewnol ac yn gweithredu fel rhwystr corfforol i ficro-organeddau a deunyddiau estron. Mae PH y croen sydd ychydig yn asidig hefyd yn helpu atal haint.
  • Dirnadaeth synhwyraidd – Mae'n galluogi teimlo poen, pwysedd a gwres, gan gynorthwyo i adnabod peryglon posibl ac osgoi anaf.
  • Rheoli gwres – Mae llestri gwaed yn tynhau neu'n lledu i godi neu i ostwng tymheredd y corff. Mae cynhyrchu chwys yn hybu iachâd
  • Ysgarthu – Mae dafnau bach o ddŵr a gwastraff o'r corff yn cael eu hysgarthu trwy'r chwys.
  • Amsugnad – Gall rhai sylweddau gael eu hamsugno'n uniongyrchol i'r gwaed trwy'r croen.
  • Secretiad – Mae'r croen yn secretu saim, cymysgedd o olewau sy'n cadw'r croen yn feddal ac ystwyth.

Wrth i ni heneiddio mae gweithgarwch y croen yn lleihau gan adael y croen yn fwy agored i niwed:

  • cynnydd yn y duedd i ddioddef rhwbiadau a thorri gan arwain at risg o bothellu
  • lleihad yn yr sensitifrwydd o amgyffred poen
  • croen yn crychu
  • croen yn sychu o ganlyniad i chwarennau sebwm yn crebachu.

The stages of the wound healing process

Camau'r broses o wella clwyf

Wound Healing

There are 4 stages to the wound healing process. Most of them will overlap each other, however having a brief understanding will allow better decision making in regards to the choice of dressing and recognising wound response.

  1. Haemostasis (occurs immediately after injury, lasts for about 30 minutes) – This is a vascular response to the injury. This is the body’s attempt to prevent blood loss via vasoconstriction. Platelets will bond together to form a clot, sealing off the break in skin. Some wounds such as pressure ulcers and other chronic wounds may not experience this phase.
  2. Inflammation (days 0-3) - The purpose of this stage is for wound cleaning. White blood cells invade the wound bed and start to remove and destroy bacteria and contaminants. White blood cells that die during the inflammatory stage appear as white sticky tissue in the wound bed known as slough. A wound in the inflammatory stage of wound healing may display signs and symptoms such as pain, heat, redness, swelling and exudate, which can easily be mistaken for signs and symptoms of infection which are very similar in appearance. The following stage will not begin unless the wound is sufficiently clean.
  3. Proliferation (this process lasts 3-24 days) – New tissue develops (granulation) as a result of fibroblasts which are cells that ensure new blood vessels, collagen and connective tissue develop. A web of small blood vessels form, allowing for granulation, which will fill the wound bed. This will have a pale pink to bright red appearance. Epithelial cells, which surround the wound border, begin to cover the granulated tissue and decrease wound size by contracting (approximating the wound edges together).
  4. Maturation (this process can last between 21 days to 2 years) – Scar tissue is then formed within the healed wound, which will fade over time, however the skin will lose 20% of its strength compared to non-broken skin.

Ceir 4 cam i'r broses o wella clwyf. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd ond bydd rhywfaint o ddealltwriaeth yn arwain at wneud penderfyniadau gwell o ran dewis y gorchudd ac adnabod ymateb y clwyf.

  1. Gwaedataliad (yn digwydd yn syth wedi anaf, parhau am tua 30 munud) – Ymateb fasgwlaidd i'r anaf yw hyn. Dyma ymgais y corff i atal colli gwaed trwy fasgyfyngiad. Bydd platenau yn rhwymo ynghyd i ffurfio tolchen, gan selio'r toriad yn y croen. Efallai na fydd rhai clwyfau megis briwiau pwysedd a chlwyfau cronig eraill yn profi'r cam hwn.
  2. Llid (diwrnodau 0-3) - Pwrpas y cam hwn yw glanhau'r clwyf. Mae celloedd gwaed gwyn yn ymosod ar wely'r clwyf ac yn dechrau cael gwared ar a difa difwynwyr. Mae'r celloedd gwaed gwyn sydd yn marw yn ystod cam y llid yn ymddangos fel meinwe gwyn gludiog yng ngwely'r clwyf; gelwir hyn yn gramen. Gall clwyf yng ngham llid y gwellhad ddangos arwyddion a symptomau megis poen, gwres, cochni, chwyddo ac archwys; gellir gweld y rhain fel arwyddion a symptomau o haint sydd yn debyg iawn o ran golwg. Ni fydd y cam sy'n dilyn yn digwydd oni bai bod y clwyf yn ddigon glân.
  3. Ymlediad (mae'r broses hon yn parhau am 3-24 diwrnod) – Mae meinwe newydd yn datblygu (gronyniad) o ganlyniad i ffibroblastau - celloedd sy'n sicrhau bod llestri gwaed newydd, colagen a meinwe cysylltol yn datblygu. Mae gwe o lestri gwaed bychain yn ffurfio, i ganiatáu gronyniad, a fydd yn llenwi gwely'r clwyf. Bydd hyn yn ymddangos o binc ysgafn i goch llachar. Bydd celloedd epithelaidd, sy'n amgylchynu ymyl y clwyf, yn dechrau gorchuddio'r meinwe gronynnog ac yn lleihau maint y clwyf trwy grebachu (dynesu ymylon y clwyf ynghyd).
  4. Crawniad (gall y broses hon barhau am rhwng 21 diwrnod i 2 flynedd) – Yna bydd meinwe craith yn ffurfio o fewn y clwyf sydd wedi gwella; bydd yn diflannu gydag amser ond bydd y croen yn colli 20% o'i nerth o'i gymharu â chroen sydd heb dorri.

Factors that promote or delay the wound healing process

Ffactorau sy'n hybu neu'n oedi'r broses o wella clwyf

Wound Healing

Factors that promote wound healing:

  • good blood supply
  • adequate hydration
  • nutrition (protein and vitamins)
  • adequate sleep.

Factors that delay wound healing process:

  • fluid retention
  • age
  • obesity
  • poor diet
  • immunocompromised individuals
  • socioeconomic factors
  • psychological factors
  • some types of medication
  • smoking
  • infection
  • underlying disease, for example, diabetes.

Ffactorau sy'n hybu gwella clwyf:

  • cyflenwad gwaed da
  • hydradiad digonol
  • maeth (protein a fitaminau)
  • cwsg digonol.

Ffactorau sy'n oedi'r broses o wella clwyf:

  • dargadwedd hylif
  • oedran
  • gordewdra
  • diet gwael
  • unigolion ag imiwnedd wedi ei beryglu
  • ffactorau socioeconomaidd
  • ffactorau seicolegol
  • rhai mathau o feddyginiaeth
  • ysmygu
  • heintiad
  • clefyd cuddiedig, er enghraifft clefyd melys.

Signs and symptoms of infection of non-complex wounds

Arwyddion a symptomau haint mewn clwyfau nad ydynt yn rhai cymhleth

Wound Swelling

Signs and symptoms of infection include:

  • increased exudate
  • offensive odour
  • increased pain
  • loss of movement
  • redness
  • heat
  • swelling.

Some patients for example diabetic patients may not display obvious signs of infection.

Mae arwyddion a symptomau haint yn cynnwys:

  • cynnydd mewn archwys
  • sawr annymunol
  • cynnydd mewn poen
  • colli symudiad
  • cochni
  • gwres
  • chwyddo.

Efallai na fydd rhai cleifion megis cleifion â chlefyd melys yn dangos arwyddion amlwg o haint.

The differences between asepsis, decontamination and cross-infection

Y gwahaniaethau rhwng asepsis, dad-ddifwyno a chroes-heintio

Infectd Leg Wound

Asepsis – Being free from pathogenic bacteria in sufficient enough numbers to cause infection.

Decontamination –Removing or killing pathogens on an item or surface to make it safe for handling, reuse or disposal by cleaning, disinfection and or sterilisation.

Cross-infection – The transfer of bacteria from one site to another.

Healthcare-associated Infection (HCAI) – Any infection acquired by a person as a consequence of healthcare interventions regardless of where care is delivered.

Sterile – Free from all live bacteria or other micro-organisms.

Micro-organism (microbe) – Any living thing (organism) that is too small to be seen without the aid of a microscope. Bacteria, viruses and some parasites are microorganisms.

Mode of transmission – The way that micro-organisms spread from one person to another. The main modes or routes of transmission are airborne (aerosol) transmission, droplet transmission and contact transmission.

Asepsis – Bod yn rhydd rhag bacteria pathogenaidd mewn niferoedd digon uchel i achosi haint.

Dad-ddifwyno – Cael gwared ar neu ladd pathogenau ar eitem neu arwynebedd i'w wneud yn ddiogel i'w drin, ei ailddefnyddio neu waredu trwy lanhau, diheintio neu sterileiddio.

Croes-heintio – Trosglwyddo bacteria o un safle i un arall.

Haint cysylltiedig â Gofal Iechyd (HCAI) – Unrhyw haint a gaiff person o ganlyniad i ofal ymyriadau gofal iechyd waeth pa le cafwyd y gofal.

Di-haint – Yn rhydd o bob bacteria byw neu ficro-organebau eraill.

Micro-organeb (microb) – Unrhyw beth byw (organeb) sy'n rhy fach i'w weld heb gymorth microsgop. Mae bacteria, firysau a rhai parasitiaid yn ficro-organebau.

Dull trosglwyddo – Y ffordd mae micro-organebau yn lledu o un person i un arall. Y prif ddull neu lwybr trosglwyddo yw trosglwyddiad yn yr awyr, (erosol), trosglwyddiad trwy ddiferion a throsglwyddiad trwy gyswllt.

Potential sources of wound contamination

Ffynonellau posibl halogi clwyfau

Bandage

Any break in the skin increases the risk of bacterial invasion. The risk of wound infection increases according to the type of bacteria, the amount of bacteria present and how the individual responds to the bacteria (host response).

Certain patients and wounds will be more at risk from infection such as larger wounds that have been present for a long duration. The position of the wound may also increase risk.

Patient risk factors are:

  • age
  • poor nutrition
  • co-morbidities such as diabetes
  • immunosuppressed patients.

Some potential sources of wound contamination are:

  • poor handwashing technique prior to wound care
  • poor dressing technique and lack of ANTT
  • not using PPE (personal protective equipment) appropriately
  • poor personal hygiene of the injured person
  • integrity of the wound dressing being compromised
  • poor wound cleaning
  • inappropriate use of dressings such as being changed too frequently or not often enough.

Mae unrhyw doriad yn y croen yn cynyddu'r risg o ymlediad bacteria. Mae'r risg o haint yn cynyddu yn ôl y math o facteria, faint o facteria sy'n bresennol a sut mae'r unigolyn yn ymateb i'r bacteria (ymateb y claf).

Bydd rhai cleifion a chlwyfau yn wynebu mwy o risg o haint megis clwyfau mwy o ran maint sydd wedi bod yn bresennol ers cryn amser. Gall safle'r clwyf hefyd gynyddu'r risg.

Ffactorau risg claf yw:

  • oedran
  • maeth gwael
  • cyd-forbidrwydd megis y clefyd melys
  • cleifion ag imiwnedd wedi ei beryglu.

Ffynonellau posibl halogi clwyfau:

  • techneg golchi dwylo gwael cyn gofalu am glwyf
  • techneg gorchuddio gwael a diffyg ANTT
  • peidio â defnyddio PPE (offer amddiffyn personol) yn briodol
  • hylendid gwael y person a anafwyd
  • peryglu cryfder gorchudd y clwyf
  • glanhau clwyf yn wael
  • defnydd amhriodol o orchuddion megis eu newid yn rhy aml neu ddim yn ddigon aml.

Actions to take if a wound becomes infected

Camau i'w cymryd os bydd clwyf yn cael ei heintio

Medication

It is important to understand your role and responsibility if you suspect a wound has become infected. The signs and symptoms of the infection that you are observing within the wound bed should be clearly documented.

A qualified health care professional such as a Doctor or nurse should reassess the wound and decide on treatment choices.

These treatment choices could be:

  • Cleaning the wound with an appropriate cleansing agent.
  • Wound swab to be sent to the lab.* The wound should be swabbed using the Levine technique:
    • wound is cleaned prior to swabbing
    • swab is moved over the wound bed using light pressure
    • ensure the swab is labelled correctly.
  • Assess if antibiotics are necessary.
  • May need to re-select dressing choice.
  • Reinforce good rest, hydration, nutrition and elevation.

*Wound swabs are not always necessary and should only be considered if the wound is not responding to antibiotics or topical antimicrobial dressings.

Look at antimicrobial dressings that are available in your area.

What are the Pros and Cons of these dressings?

How long should I use these dressings for?

Mae'n bwysig deall eich rôl a'ch cyfrifoldeb os ydych yn amau bod clwyf wedi ei heintio. Dylid dogfennu'n glir yr arwyddion a'r symptomau o'r haint rydych yn gweld yng ngwely'r clwyf.

Dylai gweithiwr iechyd proffesiynol cymwys megis Meddyg neu nyrs ail-asesu'r clwyf a phenderfynu ar y triniaethau i'w dewis.

Gallai'r triniaethau o ddewis fod:

  • Glanhau'r clwyf gyda chyfrwng glanhau priodol.
  • Anfon swab o'r clwyf i'r labordy.* Dylid swabio'r clwyf gan ddefnyddio techneg Levine:
    • y clwyf i'w lanhau cyn swabio
    • y swab i'w symud dros wely'r clwyf gan ddefnyddio pwysedd ysgafn
    • sicrhau bod y swab wedi ei labelu'n gywir.
  • Asesu a oes angen gwrthfiotigau.
  • Efallai bydd angen ail-ddethol y dewis o orchudd.
  • Cadarnhau gorffwys da, hydradiad, maeth a dyrchafu.

*Nid yw swabiau clwyf yn hanfodol bob amser a dylid ond eu hystyried os nad yw'r clwyf yn ymateb i wrthfiotigau neu orchuddion gwrth-ficrobig argroenol.

Edrychwch ar rwymau gwrthficrobaidd sydd ar gael yn eich ardal.

Beth yw manteision ac anfanteision y gorchuddion hyn?

Am ba hyd dylwn i ddefnyddio'r gorchuddion hyn?