Removing existing dressings and maintaining sterility

Tynnu gorchuddion presennol a chynnal anffrwythlondeb

Clinical waste bin

Ensure that ANTT (Aseptic Non Touch Technique) procedures are followed at all times and that PPE (Personal Protective Equipment) is worn throughout the procedure.

After gaining consent, the soiled wound dressing should be removed as gently as possible, without causing trauma to the patient or the wound bed. Some dressings may need to be soaked off.

Reassessment of the wound site is necessary to ensure the current treatment plan is still effective. It is important to specifically look for signs of healing or deterioration while ensuring this is documented.

The dressing should not come into contact with any non-sterile object. When removing from the packaging it should be dropped onto a sterile field. During the application process, the contact layer of the dressing should not be touched by anything other than the wound bed.

Sicrhewch fod y gweithdrefnau ANTT (Techneg Aseptig Di-Gyffwrdd) yn cael eu dilyn trwy gydol yr amser a bod CPD (Cyfarpar Diogelu Personol) yn cael ei wisgo trwy gydol y weithdrefn.

Ar ôl cael caniatâd, dylid tynnu gorchudd sydd wedi baeddu y clwyf mor dyner â phosibl, heb achosi trawma i'r claf na gwely'r clwyf. Efallai y bydd angen gwlychu rhai gorchuddion i'w tynnu i ffwrdd.

Mae angen ailasesu safle'r clwyf er mwyn sicrhau bod y cynllun triniaeth presennol yn parhau i fod yn effeithiol. Mae'n bwysig chwilio'n benodol am arwyddion o wella neu ddirywiad a sicrhau bod hyn yn cael ei ddogfennu.

Ni ddylai'r gorchudd ddod i gysylltiad ag unrhyw wrthrych nad yw'n ddi-haint. Wrth ei dynnu o'r pecyn dylid ei ollwng ar faes di-haint. Yn ystod y broses o roi'r gorchudd ymlaen, ni ddylai haen gyswllt y gorchudd gyffwrdd unrhyw beth heblaw gwely'r clwyf.

Applying dressings and providing support

Rhoi gorchuddion ymlaen a darparu cymorth

The dressing should be applied using the Aseptic non-touch technique (ANTT). When undertaking dressing treatments, we should engage with the patient throughout. Ensure that they are pain free and that the dressing is comfortable. Reassurance of the wound healing process should also be given.

The individual’s dignity and privacy should be maintained at all times, giving any assistance as necessary while ensuring confidentiality is maintained.

Any contaminated waste should be disposed of as per local guidelines – for example, with the correct colour clinical waste bin.

Further reading: https://bit.ly/2x4WOKv

Dylid rhoi'r gorchudd ymlaen gan ddefnyddio'r dechneg aseptig di-gyffwrdd (ANTT). Wrth drin gorchuddion, dylem gyfathrebu â'r claf drwyddi draw. Sicrhewch nad ydynt yn teimlo poen a bod y gorchudd yn gyfforddus. Dylid hefyd tawelu meddwl y claf ynghylch y broses o wella.

Dylid parchu urddas a phreifatrwydd yr unigolyn bob amser gan roi unrhyw gymorth yn ôl yr angen a sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal.

Dylid gwaredu unrhyw wastraff halogedig yn unol â chanllawiau lleol – er enghraifft, gyda'r bin gwastraff clinigol â'r lliw cywir.

Darllen pellach: https://bit.ly/2Ygknfu

Recording and reporting outcomes

Cofnodi a rhoi gwybod am ganlyniadau

Meeting

Thorough documentation of the initial assessment of the wound and throughout its various stages of wound healing is essential. It’s important to record any potential signs of infection. It is useful to document the description of the wound’s appearance and measure its size (length, width and depth).

Reporting of any findings to a senior member of staff is essential – for example, wound deterioration (infection) or significant improvements. This will allow collaborative working to change the management plan for that individual. Reporting to the individual is important so that they are kept informed at all times.

Mae'n hanfodol dogfennu'r asesiad cychwynnol o'r clwyf yn drylwyr a thrwy gydol ei amrywiol gamau o wella'r clwyf. Mae'n bwysig cofnodi unrhyw arwyddion posibl o haint. Mae'n ddefnyddiol dogfennu'r disgrifiad o ymddangosiad y clwyf a mesur ei faint (hyd, lled a dyfnder).

Mae'n hanfodol rhoi gwybod am unrhyw ganfyddiadau i uwch aelod o staff – er enghraifft, dirywiad (haint) neu welliannau sylweddol i glwyf. Bydd hyn yn caniatáu gweithio ar y cyd i newid y cynllun rheoli ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Mae rhoi gwybod i'r unigolyn yn bwysig fel ei fod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf bob amser.