The term 'attachment' describes the bond between a baby and their principal carer. Babies will develop strong attachments to the people who meet their needs regularly during the first months after birth. These positive attachments are essential for good emotional development. A child will feel secure and confident when they have a secure attachment with the principal carer, which enables them to develop other social relationships. Secure attachments during childhood lead to happier and healthy attachments in the future.
At times parents or carers will fail to form an attachment with the child due to postnatal depression, premature birth, illness or stress. This may lead to a child struggling to socialise and develop relationships with others. When a child does not have secure attachments, this may lead to problems trusting carers or adults in authority. They may have problems managing behaviour, as they do not have a positive role model. If a child does not have secure attachment, they may not develop the required secure base to support healthy development in the future.
Forming an attachment between a child and a carer requires:
Mae’r term ymlyniad yn disgrifio’r bond sydd rhwng baban a’i brif ofalwr. Bydd babanod yn datblygu ymlyniadau cryf at y bobl sy’n diwallu eu hanghenion yn rheolaidd yn ystod y misoedd cyntaf wedi genedigaeth. Mae’r ymlyniadau cadarnhaol hyn yn hanfodol ar gyfer datblygiad emosiynol da. Bydd plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus pan fydd ganddynt ymlyniad diogel gyda’r prif ofalwr ac mae hyn yn eu galluogi i feithrin perthnasau cymdeithasol eraill. Mae ymlyniadau diogel yn ystod plentyndod yn arwain at ymlyniadau hapusach ac iachach yn y dyfodol.
Ambell waith bydd rhieni neu ofalwyr yn methu ffurfio ymlyniad gyda’r plentyn oherwydd iselder ar ôl geni, genedigaeth gynamserol, salwch neu straen. Gall hyn arwain at blentyn sy’n ei chael hi’n anodd cymdeithasu a datblygu perthynas ag eraill. Pan na fydd gan blentyn ymlyniadau diogel gall arwain at broblemau ymddiried mewn gofalwyr neu oedolion mewn awdurdod. Efallai bydd ganddynt broblemau rheoli ymddygiad, gan nad oes ganddynt fodel rôl gadarnhaol. Os nad oes gan blentyn ymlyniad diogel efallai na fydd yn datblygu'r sylfaen ddiogel angenrheidiol i gefnogi datblygiad iach yn y dyfodol.
Er mwyn ffurfio ymlyniad rhwng plentyn a gofalwr mae angen:
What is required in order to form an attachment between a child and a carer? Drag the words to the most suitable image.
Beth sydd ei angen i ffurfio ymlyniad rhwng plentyn a gofalwr? Llusgwch y geiriau at y llun mwyaf addas.
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Well done. You have matched them all correctly.
Da iawn. Rydych wedi paru pob un yn gywir.