Resilience, self-identity, self-esteem, sense of security and belonging

Gwydnwch, hunaniaeth, hunan-barch ac ymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn

Social development

Resilience is the ability to deal with stress, conflict, failure and challenges. Children with a sense of security and belonging and high levels of self-esteem and self-confidence are more resilient and are better able to cope with life as they get older.

Resilient children are more likely to take healthy risks because they are not afraid of failure. They are inquisitive and trust in their own ability to solve problems independently. Resilience helps children to deal with stressful situations, for example moving to a new school, taking tests, dealing with bullying, grief or separation of parents/carers.

Promoting resilience can be beneficial to children, allowing them to cope with new and challenging situations. As self-identity, self-esteem and self-confidence increase, children will develop their personal and social skills and become more independent. Resilience, self-identity, self-esteem and sense of security lead to children feeling positive about themselves. They will feel comfortable and will be able to experience a range of emotions without feeling overwhelmed.

Children with high levels of resilience normally have the following characteristics:

  • ability to show empathy with others
  • problem-solving skills
  • communication skills
  • ability to socialise with others
  • independence
  • ability to concentrate on school-work
  • sense of humour
  • high self-concept, self-esteem and self-confidence.

Gwydnwch yw'r gallu i ddelio gyda straen, gwrthdaro, methiant a heriau. Mae plant sydd ag ymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn ac sydd gyda lefelau uchel o hunan-barch a hunanhyder yn fwy gwydn ac yn gallu ymdopi â bywyd yn well wrth iddynt fynd yn hŷn.

Mae plant gwydn yn fwy tebygol o gymryd risgiau iach oherwydd nad ydynt yn ofni methiant. Maent yn chwilfrydig ac yn ymddiried yn eu gallu eu hunain sy’n eu cynnal i ddatrys problemau yn annibynnol. Mae gwydnwch yn helpu plant i ddelio â sefyllfaoedd sy'n peri straen, er enghraifft symud i ysgol newydd, cymryd profion, delio â bwlio, galar neu rieni yn gwahanu.

Gall hyrwyddo gwydnwch fod yn fanteisiol i blant gan eu galluogi i ymdopi â sefyllfaoedd newydd a heriol. Wrth i hunaniaeth, hunan-barch a hunanhyder gynyddu bydd plant yn datblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol, a dod yn fwy annibynnol. Mae gwydnwch, hunaniaeth, hunan-barch ac ymdeimlad o ddiogelwch yn arwain plant i deimlo’n bositif am eu hunain. Byddant yn teimlo’n gyfforddus ac yn gallu profi ystod o emosiynau heb deimlo llethiant.

Mae plant â lefelau uchel o wydnwch fel arfer yn meddu ar y nodweddion canlynol:

  • y gallu i ddangos empathi gydag eraill
  • sgiliau datrys problemau
  • sgiliau cyfathrebu
  • y gallu i gymdeithasu ag eraill
  • annibyniaeth
  • y gallu i ganolbwyntio ar waith ysgol
  • synnwyr digrifwch
  • hunan-gysyniad, hunan-barch a hunanhyder uchel.

Resilience, self-identity, self-esteem, sense of security and belonging

Complete the activity below.

Gwydnwch, hunaniaeth, hunan-barch ac ymdeimlad o ddiogelwch a pherthyn

Cwblhewch y gweithgaredd isod.