Positive relationships

Perthnasoedd cadarnhaol

Disabled child and carers

Childcare workers have a responsibility for the children. They are required to care for their well-being and their physical and mental safety. This can be done by observing, considering individual needs and demonstrating positive attitudes.

In order to develop a positive relationship with children and their families/carers, the ability to communicate and interact effectively is essential. Empathy and a non-judgemental approach are required. Considering the needs and feelings of the children and their families/carers, showing respect and compassion in specific circumstances, can establish their trust.

A good relationship and establishing parents' trust from the outset is vital in order for them to feel happy and confident to cooperate with you and leave their children in your care. Someone who is polite, professional and friendly will give the children and parents more confidence which will lead to a good relationship. In order to maintain the relationship, parents must be listened to and their views and wishes respected, as well as their right to confidentiality. Any problems or successes should be identified and shared between the carers and parents.

Communication

  • Effective communication with children and parents is a two-way process.
  • Parents need to feel that you are sharing relevant information and that you understand that they play the principal role in their child's development.
  • People are influenced by attitudes. Allow enough time, be welcoming when greeting parents and children and don't rush when giving feedback at the end of the day. You must be sensitive when providing information about the child's day.
  • Show that you value the parent/carer and the child, which in turn will result in a good relationship between the home and the care setting.
  • Some parents may not speak the same language as the staff. The child's home language may not be English or Welsh. Be prepared to learn a few nursery rhymes or games the children will be familiar with, and ask for advice on their culture and customs.

Good communication includes:

  • Listening attentively and encouraging children and parents to ask questions. Look them directly in the eye when talking to them, giving them your full attention.
  • Clear explanations with accurate and relevant information. Think about the question you have been asked (this is not always the same as what you want to say).
  • A friendly and professional attitude. If you are unable to communicate with the child or parent/carer because you do not understand the language or accent, ask for help.
  • Open body language and open questioning. An open question is a question that requires an answer, which can lead to a conversation. Open body language also shows that you are friendly.

This will help you gain further knowledge and understanding of the child's needs and the needs of the parents/carers and what is important in order for the child to develop and realise their full potential. Success will be dependent on the relationship established between the staff, children and parents.

Mae gan weithwyr gofal plant gyfrifoldeb am y plant. Mae angen iddynt ofalu am eu lles a'u diogelwch corfforol a meddyliol. Gellir gwneud hyn wrth arsylwi, ystyried anghenion unigolion a dangos agweddau cadarnhaol.

Er mwyn meithrin perthynas gadarnhaol gyda phlant a’u teuluoedd/gofalwyr mae’n hanfodol gallu cyfathrebu a rhyngweithio’n effeithiol. Mae angen dangos empathi a pheidio barnu. Wrth ystyried anghenion a theimladau’r plant a’u teuluoedd/gofalwyr gan arddangos parch a thosturi mewn sefyllfaoedd penodol gellir sicrhau eu hymddiriedaeth.

Mae perthynas dda a sicrhau ymddiriedaeth rhieni o’r cychwyn cyntaf yn hollbwysig er mwyn iddynt deimlo’n hapus ac yn hyderus i gydweithio â chi a gadael eu plant yn eich gofal. Bydd rhywun sy'n gwrtais, yn broffesiynol ac yn gyfeillgar yn rhoi mwy o hyder i’r plant a’r rhieni ac yn arwain at berthynas dda. Er mwyn cynnal y berthynas rhaid gwrando ar rieni a pharchu eu safbwyntiau a'u dymuniadau, yn ogystal â'u hawl i gyfrinachedd. Dylid nodi unrhyw broblemau neu unrhyw lwyddiannau'n ofalus a'u rhannu rhwng y gofalwyr a'r rhieni.

Cyfathrebu

  • Mae cyfathrebu'n effeithiol â'r plant a’r rhieni'n broses ddwy ffordd.
  • Mae angen i rieni deimlo'ch bod yn rhannu gwybodaeth berthnasol a'ch bod yn deall mai nhw sy'n chwarae'r brif rôl yn natblygiad eu plentyn.
  • Mae agweddau'n dylanwadu ar bobl. Gadewch ddigon o amser a byddwch yn groesawgar wrth gyfarch rhieni a phlant a pheidiwch â rhuthro wrth roi adborth ar ddiwedd y dydd. Rhaid ichi fod yn sensitif wrth ichi roi gwybodaeth am ddiwrnod y plentyn.
  • Dangoswch eich bod yn rhoi gwerth ar y rhiant ac ar y plentyn a bydd hynny'n arwain at berthynas dda rhwng y cartref a'r lleoliad gofal.
  • Efallai na fydd rhai o'r rhieni'n siarad yr un iaith â'r staff. Efallai nad Saesneg na Chymraeg yw iaith gartref y plentyn. Byddwch yn barod i ddysgu ambell hwiangerdd neu gêm a fydd yn gyfarwydd i'r plant a gofynnwch am gyngor am eu diwylliant a'u harferion.

Mae cyfathrebu da'n cynnwys:

  • Gwrando'n frwd ac annog plant a rhieni i ofyn cwestiynau. Edrychwch i fyw eu llygaid wrth ichi siarad gan roi eich sylw yn llawn iddyn nhw.
  • Esboniadau clir gyda gwybodaeth gywir a pherthnasol. Meddyliwch am y cwestiwn sydd wedi'i ofyn ichi (nid yw hynny bob tro'r un fath â'r hyn yr ydych chi am ei ddweud).
  • Agwedd gyfeillgar a phroffesiynol. Os na allwch chi gyfathrebu â'r plentyn neu’r rhiant oherwydd nad ydych chi'n deall yr iaith neu'r acen, gofynnwch am gymorth.
  • Iaith corff agored a chwestiynau agored. Ystyr cwestiwn agored yw cwestiwn y mae angen ateb iddo ac fe all hyn arwain at sgwrs. Mae iaith corff agored yn dangos hefyd eich bod yn gyfeillgar.

Trwy hyn byddwch yn dod i wybod a deall mwy am anghenion y plentyn ac anghenion y rhieni/gofalwyr a beth sy’n bwysig er mwyn i’r plentyn ddatblygu i’w lawn botensial. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar y berthynas sydd wedi ei greu rhwng y staff, y plant a’r rhieni.

Positive relationships

Developing positive relationships with children and families/carers. Note down your ideas on the diagram.

Perthnasoedd cadarnhaol

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant a theuluoedd. Nodwch eich syniadau ar y diagram.

Ways of working that develop positive relationships with children and families/carers. Ffyrdd o weithio sy’n meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant a theuluoedd.

Possible answers

  • showing empathy
  • being non-judgemental
  • showing respect
  • considering needs
  • building trust
  • collaboration
  • being polite
  • professional conduct
  • listening
  • respecting confidentiality
  • good communication
  • sharing information
  • positive attitude
  • valuing children
  • valuing families
  • being welcoming
  • being sensitive
  • respecting language
  • use of body language
  • encourage to ask questions
  • clear explanations
  • friendly attitude.

Atebion posib

  • dangos empathi
  • peidio â barnu
  • dangos parch
  • ystyried anghenion
  • adeiladu ymddiriedolaeth
  • cydweithio
  • bod yn gwrtais
  • ymddwyn yn broffesiynol
  • gwrando
  • parchu cyfrinachedd
  • cyfathrebu da
  • rhannu gwybodaeth
  • agwedd bositif
  • gwerthfawrogi plant
  • gwerthfawrogi teuluoedd
  • bod yn groesawgar
  • bod yn sensitif
  • parchu iaith
  • defnyddio iaith corff
  • annog i ofyn cwestiynau
  • esboniadau clir
  • agwedd cyfeillgar.