Consistent routines

Arferion cyson

Children with school dinners

Consistent routines allow children to have a pattern for their day. At times, children's behaviour indicates that the routine is not working for them, so it is important to observe children to ensure that the routine meets their needs. A routine that works well for one child may be less effective for another child, even if they are the same age.

A daily routine is essential for the implementation of the Curriculum, and allows children to learn in a safe environment. The daily schedule varies from one setting to another, but they are mostly planned around meal times, sleep or specific activities.

These periods can be excellent opportunities to promote the development of children.

For example, children can sing when washing hands or brushing teeth, making these activities more fun while developing other skills.

Adhering to consistent routines provides other child development benefits such as:

  • helping to understand and manage time
  • establishing important practices such as brushing teeth and hair
  • helping to strengthen relationships by concentrating on individual time with an adult
  • nurturing the routine of accomplishing specific tasks, for example, putting toys away during tidy time
  • feeling safe if the day follows a routine
  • avoiding the children becoming overtired, going too long without food or getting bored.

Mae arferion cyson yn galluogi plant i gael patrwm ar gyfer y diwrnod. Mae ymddygiad plant yn dangos ar adegau os nad yw’r drefn yn gweithio iddynt, felly mae’n bwysig arsylwi plant er mwyn sicrhau bod y drefn yn cwrdd â’u hanghenion. Gall trefn sy’n gweithio’n dda i un plentyn fod yn llai effeithiol i blentyn arall, hyd yn oed os ydynt yr un oedran.

Mae trefn ddyddiol yn hanfodol i weithrediad y Cwricwlwm, ac yn galluogi plant i ddysgu o fewn amgylchedd diogel. Mae rhaglen y dydd yn amrywio o leoliad i leoliad, ond gan amlaf maent wedi eu cynllunio o amgylch amseroedd bwyd, cwsg neu weithgareddau penodol.

Gall y cyfnodau hyn fod yn gyfleoedd gwych i hybu datblygiad plant.

Er enghraifft gall y plant ganu yn ystod amser golchi dwylo neu frwsio dannedd sy’n gwneud y gweithgareddau yn fwy hwyliog gan ddatblygu sgiliau eraill yr un pryd.

Mae cadw at arferion cyson yn cynnig manteision eraill o ran datblygiad plant megis:

  • helpu i ddeall a rheoli amser
  • sefydlu arferion pwysig megis brwsio dannedd a gwallt
  • helpu i gryfhau perthnasoedd trwy ganolbwyntio ar amser unigol gydag oedolyn
  • magu’r arfer o gyflawni tasgau penodol, er enghraifft cadw teganau yn ystod amser tacluso
  • teimlo’n ddiogel os oes trefn i’r diwrnod
  • atal plant rhag gorflino, mynd yn rhy hir heb fwyd neu ddiflasu.

Consistent routines

This is an example of activities which are part of the daily routine in a Nursery Group. Drag the activities into the correct order.

Arferion cyson

Dyma enghraifft o weithgareddau sy’n rhan o’r drefn ddyddiol mewncylch meithrin. Llusgwch y gweithgareddau i’r drefn gywir.