What is equality?

Beth yw cydraddoldeb?

Gender equality

Equality involves treating individuals fairly, regardless of their differences, by ensuring that they have access to the same life opportunities as everyone else, meaning that they have equal opportunities.

Life opportunities include:

  • housing - warmth and shelter are basic human needs
  • education and employment
  • transport
  • health and social care
  • the ability to purchase goods and services.

Mae cydraddoldeb yn golygu trin unigolion yn deg, waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt, drwy sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phawb arall, sy'n golygu eu bod yn cael cyfle cyfartal.

Mae cyfleoedd mewn bywyd yn cynnwys:

  • tai – mae gwres a lloches yn anghenion dynol sylfaenol
  • addysg a chyflogaeth
  • cludiant
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • y gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau.

What is diversity?

Beth yw amrywiaeth?

Racial equality

Diversity means variety. For example, every high street or shopping centre has a diverse selection of shops, restaurants, banks and bars. Even football teams have a diversity of roles, including full back, goalkeeper, centre forward and winger. We live in a diverse society, where individuals vary in many ways. These diversities can be age, sex, sexual orientation, physical characteristics such as height, weight and skin colour, ability, personal experiences and personal attributes, such as beliefs, values and preferences.

Health and social care settings reflect the diversity of the population. Every individual will have their own experiences and may come from a variety of different countries. An individual’s preference for food and music for example, will vary from one to another.

Mae amrywiaeth yn golygu gwahaniaethau. Er enghraifft, mae detholiad amrywiol o siopau, bwytai, banciau a thafarndai ar bob stryd fawr neu ym mhob canolfan siopa. Mae gan dimau pêl-droed, hyd yn oed, amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cefnwr, gôl-geidwad, blaenwr canol ac asgellwr. Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol, lle mae unigolion yn amrywio mewn llawer o ffyrdd. Gall yr amrywiaethau hyn fod ar sail oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, nodweddion corfforol fel taldra, pwysau a lliw croen, gallu, profiadau personol a rhinweddau personol, fel credoau, gwerthoedd a dewisiadau.

Mae lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth. Bydd gan bob unigolyn ei brofiadau ei hun a gall ddod o amrywiaeth o wahanol wledydd. Er enghraifft, bydd hoff fwyd neu gerddoriaeth yn amrywio o un unigolyn i'r llall.

What is inclusion?

Beth yw cynhwysiant?

People gossip about disabled man

Inclusion is about accepting everyone, regardless of their differences. It is also about being understanding and tolerant of differences and providing help and support where appropriate.

Any organisation or institution, including local authorities, health and social care service providers, educational establishments, the police service, voluntary organisations and workplaces that supports and promotes inclusion must demonstrate that it values everything about the individuals involved within it. Inclusion brings about a sense of well-being and of confidence in one’s own identity and abilities.

Mae cynhwysiant yn golygu derbyn pawb, ni waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hefyd yn golygu deall gwahaniaethau a bod yn oddefgar ohonynt, a rhoi cymorth a chefnogaeth lle bo hynny'n briodol.

Rhaid i unrhyw sefydliad, gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, gwasanaeth yr heddlu, sefydliadau gwirfoddol a gweithleoedd sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant, ddangos ei fod yn gwerthfawrogi popeth ynglŷn â'r unigolion sydd ynghlwm wrtho. Mae cynhwysiant yn rhoi ymdeimlad o lesiant i unigolion, yn ogystal â hyder yn ei hunaniaeth a'i alluoedd ei hun.

What is discrimination?

Beth yw gwahaniaethu?

Gender equality

Discrimination means treating individuals differently or negatively without having a good reason for doing so. The law states that everyone should be treated as favourably as everyone else and that an individual must not be discriminated against because of a personal characteristic such as religion, gender, age or race.

Discrimination can include:

  • not offering a job to someone who meets all the criteria
  • identifying an individual for redundancy and not others
  • paying less to one individual than another with no good reason.

There are two forms of discrimination, direct and indirect. Direct discrimination occurs when someone is intentionally treated unfairly, for example harassment on the basis of skin colour or religion. Indirect discrimination occurs when rules or guidelines meant to apply to everyone unintentionally affect one group of individuals more than others. For example, a company policy requiring everyone to work night shifts indirectly discriminates against single parents or individuals who care for elderly relatives, and menus that fail to offer a selection of food indirectly discriminates against individuals with specific dietary needs or preferences.

Mae gwahaniaethu yn golygu trin unigolion yn wahanol neu mewn ffordd negyddol heb fod rheswm da dros wneud hynny. Noda'r gyfraith y dylai pawb gael eu trin mor ffafriol â'i gilydd ac na ddylid gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd nodwedd bersonol fel crefydd, rhywedd, oedran neu hil.

Gall gwahaniaethu gynnwys:

  • peidio â chynnig swydd i rywun sy'n bodloni'r holl feini prawf
  • dewis unigolyn ar gyfer dileu swydd ac nid pobl eraill
  • talu llai i un unigolyn nag unigolyn arall heb reswm da.

Mae dau fath o wahaniaethu – uniongyrchol ac anuniongyrchol. Bydd gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei drin yn annheg yn fwriadol, er enghraifft aflonyddu ar sail lliw croen neu grefydd. Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd rheolau neu ganllawiau sydd wedi'u bwriadu i fod yn berthnasol i bawb yn effeithio ar un grŵp o unigolion yn fwy na grwpiau eraill yn anfwriadol. Er enghraifft, mae polisi cwmni sy'n ei gwneud yn ofynnol i bawb weithio sifftiau nos yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn rhieni sengl neu unigolion sy'n gofalu am berthnasau oedrannus, ac mae bwydlenni nad ydynt yn cynnig detholiad o fwyd yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn unigolion ag anghenion neu ddewisiadau deietegol penodol.

What are ‘protected characteristics’?

Beth yw ‘nodweddion gwarchodedig’?

The Equality Act 2010 protects individuals from unfair treatment by bringing together anti-discrimination laws that have been in use over the last 40 years to make it easier for individuals to understand their rights and responsibilities and challenge discrimination.

The Equality Act 2010 introduced the term "protected characteristics" to refer to groups that are protected under the Act. The nine groups protected under the Act are:

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu unigolion rhag cael eu trin yn annheg drwy ddwyn ynghyd ddeddfau gwrthwahaniaethu sydd wedi cael eu defnyddio dros y 40 mlynedd diwethaf er mwyn ei gwneud hi'n haws i unigolion ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau a herio gwahaniaethu.

Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 y term "nodweddion gwarchodedig" i gyfeirio at grwpiau a ddiogelir o dan y Ddeddf. Y naw grŵp a ddiogelir o dan y Ddeddf yw:

How person-centred approaches promotes equality, diversity and inclusion

Sut mae dulliau gweithredu person-ganolog yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Inclusive practice

Person-centred approaches involve the attitudes and approaches taken to ensure that individuals are not excluded or isolated from any service, treatment or activity. It means supporting diversity by accepting individual's differences and promoting equality by ensuring equal opportunities for all.

Inclusive practice is best practice. Health and social care workers can demonstrate inclusive practice by working in ways that recognise, respect, value and make the most of all aspects of diversity. Having a good understanding and awareness of and responding sensitively to an individual’s diverse needs supports them in developing a sense of belonging, well-being and confidence in their identity and abilities.

Mae dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cynnwys yr agweddau a'r dulliau a ddilynir i sicrhau na chaiff unigolion eu hallgáu na'u neilltuo o unrhyw wasanaeth, triniaeth neu weithgaredd. Mae'n golygu cefnogi amrywiaeth drwy dderbyn gwahaniaethau unigolion a hyrwyddo cydraddoldeb drwy sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Ymarfer cynhwysol yw'r ymarfer gorau. Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddangos ymarfer cynhwysol drwy weithio mewn ffyrdd sy'n cydnabod, yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn gwneud y gorau o bob agwedd ar amrywiaeth. Mae meddu ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o anghenion amrywiol unigolyn, ac ymateb yn sensitif iddynt, yn eu helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn, llesiant a hyder yn eu hunaniaeth a'u galluoedd.

The impact of not promoting equality, diversity and inclusion

Effaith peidio â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Equality

Inclusive practice involves understanding the disastrous impact that discrimination, inequality and social exclusion can have on an individual’s physical and mental health. Having such an understanding ensures appropriate, personalised care and support, thereby enabling an individual to develop self-respect and maintain a valued role in society.

Some individuals who fail to support diversity or promote equality are often not aware of their attitudes, unconscious biases and the impact of their behaviour. Inclusive practice involves reflecting on and challenging one’s own prejudices, behaviours and work practices to help with this. It also involves challenging those of colleagues and other service providers, with a view to adapting ways of thinking and working and to changing services to build on good practice and to better support diversity and promote equality.

Mae ymarfer cynhwysol yn golygu deall yr effaith drychinebus y gall gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac chau allan cymdeithasol ei chael ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn. Mae meddu ar ddealltwriaeth o'r fath yn sicrhau gofal a chymorth priodol sydd wedi'u teilwra i'r unigolyn, a thrwy hynny alluogi unigolyn i feithrin hunan-barch a chynnal rôl werthfawr mewn cymdeithas.

Mae rhai unigolion yn methu a chefnogi amrywiaeth neu hyrwyddo cydraddoldeb yn ymwybodol o’u hagweddau, tuedd anymwybodol ac effaith eu hymddygiad. Felly, mae ymarfer cynhwysol yn golygu myfyrio ar ein rhagfarnau, ein hymddygiad a'n harferion gwaith ein hunain, a'u herio. Mae hefyd yn golygu herio rhagfarnau, ymddygiad ac arferion gwaith cydweithwyr a darparwyr gwasanaethau eraill, gyda'r nod o addasu ffyrdd o feddwl a gweithio a newid gwasanaethau er mwyn adeiladu ar arfer da a chefnogi amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn well.

Cultural, religious and linguistic backgrounds

Cefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol

Group speaking different languages

It is illegal to discriminate or offer a poorer quality service to individuals belonging to the following groups, who are protected by legislation: race, disability, gender, sexual orientation, religion and belief.

Culture has many positive aspects, it gives a pattern and predictability to life which makes individuals feel settled and secure. It gives individuals a sense of history and of their roots and is important in forming a positive identity. It can help all of us gain knowledge and appreciation of musical, visual and culinary arts.

Those providing care also needs to understand how adults from different cultures have different cultural needs particularly around religious beliefs.

Language and the ability to communicate well are an important part of an individual's identity and their self-esteem. If individuals or carers speak English as a second language, they will need an interpreter or translator to enable them to voice their views and needs. Where individuals and carers communicate in a different language, information must be translated into the language they are used to.

Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unigolion, neu gynnig gwasanaeth o ansawdd gwaeth iddynt, os ydyn yn perthyn i'r grwpiau canlynol, a ddiogelir gan ddeddfwriaeth: hil, anabledd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred.

Mae llawer o agweddau cadarnhaol ar ddiwylliant – mae'n rhoi patrwm a chynefindra i fywyd sy'n gwneud i unigolion deimlo'n gartrefol ac yn ddiogel. Mae'n helpu pobl i feithrin ymdeimlad o hanes a'u gwreiddiau, ac mae'n bwysig ar gyfer ffurfio hunaniaeth gadarnhaol. Gall helpu pob un ohonom i feithrin gwybodaeth am gelfyddydau cerddorol, gweledol a choginiol, a gwerthfawrogiad ohonynt.

Mae’r rhai sy’n darparu gofal angen dealltwriaeth o sut mae oedolion o ddiwylliannau gwahanol gydag anghenion diwylliannau gwahanol, yn enwedig ynghylch eu credoau.

Mae iaith a'r gallu i gyfathrebu'n dda yn rhan bwysig o hunaniaeth a hunan-barch unigolyn. Os yw unigolion neu ofalwyr yn siarad Saesneg fel ail iaith, bydd angen cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd arnynt er mwyn eu galluogi i leisio eu barn a'u hanghenion. Lle bo unigolion a gofalwyr yn cyfathrebu mewn iaith wahanol, rhaid i wybodaeth gael ei chyfieithu i'r iaith y maent yn gyfarwydd â hi.

Identifying discriminatory practice

Nodi ymarfer sy'n gwahaniaethu

Diabled boy being left out

Discriminatory practice, or practice not supportive of quality, diversity and inclusion, takes place in a variety of settings.

For example:

  • within schools or colleges, where learners may not be given support and encouragement if it’s assumed that their disability or lack of interest affects their ability to learn and achieve
  • in the workplace, when individuals are persecuted on the basis of their skin colour or sexual preference
  • in housing, when landlords refuse to let their property to someone because of their refugee status or ethnic background and in health and social care, when individuals are denied access to care on the basis of where they live, known as the postcode lottery.

Mae ymarfer sy'n gwahaniaethu, neu ymarfer nad yw'n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau.

Er enghraifft:

  • mewn ysgolion neu golegau, pan na chaiff dysgwyr eu cefnogi na'u hannog os tybir bod eu hanabledd neu eu diffyg diddordeb yn effeithio ar eu gallu i ddysgu a chyflawni
  • yn y gweithle, pan gaiff unigolion eu herlid ar sail lliw eu croen neu eu cyfeiriadedd rhywiol
  • ym maes tai, pan fydd landlordiaid yn gwrthod gosod eu heiddo i unigolyn oherwydd ei statws fel ffoadur neu ei gefndir ethnig, ac ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, pan na all unigolion gael gafael ar ofal oherwydd lle maent yn byw, a elwir yn loteri cod post.

Challenging discriminatory practice

Herio ymarfer sy'n gwahaniaethu

Multi disciplinary teams

Health and social care workers must try to demonstrate and model good practice at all times. In addition to leading by example, they should be prepared to support the equality and rights of individuals they work with by speaking up on their behalf. Many individuals don’t have the ability to make their own voices heard, for example they may be frightened or lack the confidence to speak up for themselves; they may be ill, confused, not able to communicate effectively; and many individuals are just simply not aware of their rights.

Health and social care workers should be prepared to talk to their manager, or senior, about the behaviour of others if it fails to promote equality and rights or is discriminatory. Health and social care workers should be open to feedback about their own work practices, acting on this feedback if necessary.

Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol geisio dangos a modelu arfer da bob amser. Yn ogystal ag arwain drwy esiampl, dylent fod yn barod i gefnogi cydraddoldeb a hawliau unigolion y maent yn gweithio gyda nhw drwy siarad ar eu rhan. Nid yw llawer o unigolion yn gallu sicrhau bod eu lleisiau eu hunain yn cael eu clywed, er enghraifft, efallai fod ofn arnynt neu ddiffyg hyder i leisio eu barn; efallai eu bod yn sâl, wedi drysu, neu'n methu â chyfathrebu'n effeithiol; ac, yn syml, nid yw llawer o unigolion yn ymwybodol o'u hawliau.

Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn barod i siarad â'u rheolwyr, neu aelodau uwch o staff, ynglŷn ag ymddygiad pobl eraill os yw'n methu â hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau neu os yw'n gwahaniaethu. Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn agored i gael adborth ar eu harferion gwaith eu hunain, ac ymateb iddo os bydd angen.